Lleoliad: Ar Zoom - By Zoom. Gweld cyfeiriadau
Cyswllt: Wyn Richards, Rheolwr Craffu a Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried yn y cyfarfod. |
|
Datganiadau Chwip y Pleidiau Derbyn datganiadau ynglyn â gwaharddiad chwip plaid a gyflwynwyd i Aelod mewn perthynas â'r cyfarfod yn unol ag Adran 78 (3) Mesur Llywodraeth Leol 2001.
(D.S: atgoffir yr Aelodau, dan Adran 78, na all Aelodau sydd wedi derbyn gwaharddiad chwip plaid bleidleisio ar fater gerbron y Pwyllgor.
|
|
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2023 fel cofnod cywir.
|
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Aelod i Bwyllgor Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. |
|
Derbyn ac ystyried Adroddiad Gwerthuso Blwyddyn Gyntaf Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Adroddiad Adborth gan Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cofrestr Risg Strategol PDF 82 KB Derbyn ac ystyried adroddiadau Cofrestr Risg Srategol. Dogfennau ychwanegol: |
|
Diweddariad Adroddiadau Estyn Derbyn diweddariad ar adroddiadau Estyn. |
|
Nodi y bydd cyfarfodydd y Pwyllgor ar gyfer y dyfodol wedi’u trefnu fel a ganlyn: |
|
Eitem Eithriedig Ystyried derbyn y Penderfyniad canlynol:
PENDERFYNU i eithrio’r cyhoedd ar gyfer yr eitem ganlynol o fusnes ar y sail y byddai gwybodaeth wedi’i eithrio yn cael ei ddatgelu iddynt o dan gategori 3 Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiaeth) (Cymru) 2007).
Mae'r Swyddog Monitro wedi penderfynu bod yr eitemau canlynol yn destun categori 3 y Rheolau Trefn Mynediad at Wybodaeth. Ei farn o ran prawf lles y cyhoedd (wedi ystyried darpariaethau Rheol 14.8, Rheolau Mynediad at Wybodaeth y Cyngor), oedd y byddai gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus yn datgelu gwybodaeth ynglyn â materion ariannol neu fusnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr awdurdod yn cadw’r wybodaeth honno).
Yn ei farn ef, mae'r ffactorau hyn yn fwy pwysig na diddordeb y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth. Gofynnir i Aelodau ystyried y ffactorau hyn wrth benderfynu ar brawf lles y cyhoedd, a dylent benderfynu hyn wrth iddynt ystyried eithrio'r cyhoedd o'r rhan hon o'r cyfarfod |
|
Ysgolion sy'n Achosi Pryder Derbyn ac ystyried diweddariad mewn perthynas ag Ysgolion sy’n Achosi Pryder. |
|
Myfyrdod y Pwyllgor Ar ôl cau’r cyfarfod gofynnir i’r Pwyllgor dreulio 5 i 10 munud yn myfyrio ar y cyfarfod heddiw.
|