Lleoliad: Trwy Zoom
Cyswllt: Katharine Flanagan-Jones
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried yn y cyfarfod. |
|
Datganiadau Chwip y Pleidiau Derbyn datganiadau ynglyn â gwaharddiad chwip plaid a gyflwynwyd i Aelod mewn perthynas â'r cyfarfod yn unol ag Adran 78 (3) Mesur Llywodraeth Leol 2011.
(D.S: atgoffir yr Aelodau, dan Adran 78, na all Aelodau sydd wedi derbyn gwaharddiad chwip plaid bleidleisio ar fater gerbron y Pwyllgor.
|
|
Ethol Is-Gadeirydd Derbyn cyflwyniad ar y Cwricwlwm i Gymru. |
|
Strategaeth Gwella Ysgolion Uwchradd - Parhad PDF 127 KB Derbyn ac ystyried yr adroddiad ar y Strategaeth Gwella Ysgolion Uwchradd (parhad o’r cyfarfod a gynhaliwyd 13 Medi). |
|
Nodi y bydd cyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol wedi’u trefnu fel a ganlyn: |
|
Cynnydd ar Falansau Ysgolion - Hydref 2023 PDF 205 KB Derbyn ac ystyried adroddiad ar y Cynnydd ar Falansau Ysgolion – Hydref 2023. |
|
Eitem Eithriedig I ystyried pasio'r Penderfyniad canlynol:
PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol ar y sail y byddai gwybodaeth sydd wedi’i eithrio yn cael ei ddatgelu iddynt o dan gategori 3 Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007).
Mae'r Swyddog Monitro wedi penderfynu bod categori 3 o'r Rheolau Mynediad at Weithdrefnau Gwybodaeth yn berthnasol i'r eitem ganlynol. Ei farn ar brawf lles y cyhoedd (ar ôl ystyried darpariaethau Rheol 14.8 o Reolau Mynediad at Wybodaeth y Cyngor) oedd y byddai gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus yn datgelu gwybodaeth yn ymwneud â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n cadw'r wybodaeth honno).
Mae'r ffactorau hyn yn ei farn ef yn gorbwyso budd y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth hon. Gofynnir i aelodau ystyried y ffactorau hyn wrth benderfynu ar y prawf budd y cyhoedd, y mae'n rhaid iddynt eu penderfynu wrth ystyried gwahardd y cyhoedd o'r rhan hon o'r cyfarfod.
|
|
Adroddiadau ar Gyllidebau Ysgolion Derbyn diweddariad gan yr Aelod Portffolio a Swyddogion ar Gyllidebau Ysgolion. |
|
Myfyrdod y Pwyllgor Ar ol I’r cyfarfod dod i ben gofynnir i’r Pwyllgor dreulio 5 i 10 munud yn myfyrio ar y cyfarfod heddiw. |