Eich Cynghorwyr

Caiff Cynghorwyr Lleol eu hethol gan y gymuned i benderfynu sut dylai’r cyngor ymgymryd â’i wahanol weithgareddau. Maent yn cynrychioli buddiannau’r cyhoedd ynghyd ag unigolion sy’n byw yn y wardiau y maent wedi’u hethol i’w gwasanaethu.

Maent yn cael cyswllt rheolaidd â’r cyhoedd trwy gyfarfodydd y cyngor, galwadau ffôn neu gymorthfeydd. Mae’r cymorthfeydd yn cynnig cyfle i drigolion y ward i siarad â’u cynghorwyr wyneb yn wyneb, ac maent yn cael eu cynnal yn rheolaidd.

Nid yw Cynghorwyr yn derbyn cyflog am eu gwaith, ond maent yn derbyn lwfansau. Yn ôl y gyfraith, rhaid i aelodau’r Cyngor lenwi ffurflen datgan diddordeb, a bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn.

Defnyddiwch y dolenni isod i ddod o hyd i’ch cynghorydd: