Mae cynllun gwaith y dyfodol yn rhestr o’r prif benderfyniadau fydd yn cael eu gwneud dros y mis i bedwar mis nesaf. Byddant yn cael eu gwneud gan un ai’r Cabinet neu gan swyddogion sydd wedi cael awdurdod wedi’i ddirprwyo gan y Cabinet.
Mae’r cynlluniau gwaith yn cael eu cyhoeddi ar ddiwrnod gwaith cyntaf y mis.
Mae’r cynllun yn cynnwys disgrifiad byr o’r penderfyniad sydd i’w wneud; pwy fydd yn ei wneud; pryd fydd yn cael ei wneud; manylion ymgynghori â thrigolion lleol a rhanddeiliaid eraill; a manylion cyswllt i gael rhagor o wybodaeth (yn cynnwys adroddiadau a phapurau cefnogi).