Mae’r dudalen hon yn cynnwys cyhoeddiad o’r cwestiynau ac ymatebion ‘Cwestiwn ar Unrhyw Adeg’. Rheolir y broses hon gan Gyfansoddiad Cyngor Sir Powys (Adran 4).
Yr egwyddor yw y gall unrhyw Gynghorydd ofyn cwestiwn i Aelod Portffolio’r Cabinet mewn perthynas â materion polisi neu i’r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol am faterion gweithredol, ar unrhyw adeg, a bod ymateb ffurfiol gan Aelod y Cabinet neu’r Pennaeth Gwasanaethau yn cael ei roi a’i gyhoeddi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Nid Pwyllgor yw hwn ac ni chynhelir cyfarfodydd, defnyddir y gair “cofnodion” i ddisgrifio’r ddogfen a ddefnyddir i gyhoeddi’r ymatebion.
Mae’r dyddiadau uchod yn nodi’r dyddiad yr anfonir y cwestiwn at Aelod y Cabinet / Pennaeth Gwasanaeth yn gofyn am ymateb.