Pa asesiad a wnaed gan y Cabinet o gyflwr ffyrdd ddi-ddosbarth ym Mhowys?
Cofnodion:
Pa asesiad a wnaed gan y Cabinet o gyflwr ffyrdd di-ddosbarth ym Mhowys?
Ateb
Mae cyflwr ein ffyrdd di-ddosbarth yn cael ei fonitro drwy archwiliadau rheolaidd o’r rhwydwaith ffyrdd. Caiff pa mor aml y cyflawnir yr archwiliadau ei benderfynu ar sail hierarchaidd, fel arfer ar sail cylchoedd o 6 neu 12 mis. Mae ffyrdd mewn ardaloedd trefol yn gwasanaethu ardaloedd preswyl, neu a ddefnyddir yn drwm, yn cael eu harchwilio'n amlach, gyda rhai mewn ardaloedd gwledig sy’n arwain at ddim ond ychydig o dai'n cael eu cyflawni bob 12 mis. Pwrpas yr archwiliadau hyn yw adnabod gwaith sydd angen ei wneud yn y tymor byr ac asesu cyflwr yn gyffredinol gan roi gwaith mwy sylweddol, fel mân-drwsio’r wyneb, yn y rhaglen.
Ar hyn o bryd mae arolygon SCANNER yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru dim ond i asesu cyflwr ffyrdd dosbarthiadol ar draws Cymru. Ni ystyrir bod yr arolygon technegol a mwy manwl hyn, sy’n defnyddio dadansoddiad cyfrifiadurol, yn rhoi gwerth am arian ar gyfer ffyrdd di-ddosbarth. Fodd bynnag, fel rhan o ddatblygu’r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd (HAMP), bwriedir cyflwyno rhaglen archwilio newydd fydd yn cynnwys bras asesiad gweledol o gyflwr y ffordd fel rhan o bob archwiliad. Er nad yw’n asesiad cynhwysfawr na gwyddonol ei natur, dylai roi bras syniad o gyflwr y ffordd.
Math o Ffordd |
Km o Ffordd |
Amledd Arolwg SCANNER |
A (Dosbarth 1) |
238 |
Blynyddol |
B (Dosbarth 2) |
604 |
Blynyddol |
C (Dosbarth 3) |
2,102 |
Cylch o bedair blynedd |
U (Diddosbarth) |
2,126 |
Dim |
Er gwybodaeth, cafodd yr arolygon SCANNER diwethaf o ffyrdd di-ddosbarth i gael eu cofnodi eu gwneud yn 2011/2012 ar sail egwyddorion arolygu SCANNER. Mae’r arolwg yn cofnodi ystod o ffactorau gan gynnwys proffil ar hyd y ffordd (ansawdd y siwrne); ar draws y ffordd (rhychau); dyfnder graen yr wyneb a’r cracio (sgidio) cyn eu cyfuno i gynhyrchu un ffactor sy'n cael ei adrodd ar sail goleuadau traffig (Coch / Oren / Gwyrdd). Wele <http://www.ukroadsliaisongroup.org/en/asset-condition/road-condition-information/data-collection/scanner/> am fwy o fanylion.
Dangosir cyflwr y ffyrdd diddosbarth a gofnodwyd yn 2011/2012 yn y tabl isod, gyda 30.2% yn y categori coch (lle mae angen ymchwiliad pellach iddynt) ac yn cyfateb i 640km. Rhoddir cymariaethau ar gyfer ffyrdd C ac A yn yr un flwyddyn a’r flwyddyn gyfredol 2016/2017.
11/12 Diddosbarth (ffyrdd U) |
11/12 (ffyrdd C) |
11/12 (ffyrdd A) |
16/17 (ffyrdd C) |
16/17 (ffyrdd A) |
|
Coch % |
30.2% |
15.1% |
6.2% |
24.4% |
3.5% |
Oren % |
25.2% |
44.1% |
24.6% |
43.2% |
28.5% |
Gwyrdd % |
44.6% |
40.8% |
69.2% |
32.3% |
68.0% |
Yn 2011/2012 roedd canran y ffyrdd U yn y categori coch ddwywaith yn fwy na'r ganran o ffyrdd C er bod y cyfanswm yn y categorïau Oren a Choch fwy neu lai'r un fath. Gan edrych ar ffyrdd C ar gyfer 2016/2017, mae eu cyflwr wedi dirywio mewn cymhariaeth â 2011/2012 ac mae’r cyflwr diddosbarth felly’n debygol fel bod canran y ffyrdd yn y categori Coch hefyd wedi cynyddu dros 30.2%.
Ar sail data 2011/2012 o 30.2% o ffyrdd diddosbarth yn y categori coch, pe bai'r 640km er enghraifft yn cael eu mân-drwsio (y driniaeth leiaf dwys), byddai’n costio oddeutu £8.5m, pe bai’r ffyrdd yn cael eu hailwynebu’n llawn byddai’n costio oddeutu £30m. Ni fyddai hyn yn lleihau’r ganran o rai coch i sero ond mae’n arwydd o’r costau posib pe byddem eisiau gwella cyflwr y ffyrdd hyn yn sylweddol.
Cyhoeddir canlyniadau'r arolygon o ffyrdd dosbarthiadol yn flynyddol ar eu gwefan yn http://gov.wales/statistics-and-research/road-lengths-conditions/?skip=1&lang=cy.
Mae Powys wedi bod yn gyson ar waelod y tabl cyflwr ffyrdd, gyda’r ganran uchaf o ffyrdd dosbarthiadol sydd angen gwaith ymchwilio pellach iddynt (yn y categori Coch). Mae hyn oherwydd y ganran uchel o ffyrdd C ym Mhowys o’i gymharu ag awdurdodau eraill, sy’n camliwio’r ffigurau cyfunol. Ar ôl gwahanu’r ffigurau, mae ein perfformiad ar ffyrdd A a B yn debyg i berfformiad cynghorau eraill.
Cytunodd yr Aelod Portffolio ar faterion Priffyrdd i gwrdd â’r Cynghorydd Williams i drafod syniadau a gynigiwyd gan aelodau o’r cyhoedd.
Dogfennau ategol: