Ym mis Ebrill, bydd Cronfa Bensiwn Powys yn ymuno â Phartneriaeth Pensiwn Cymru (WPP), cyfuniad o wyth Cronfa ar wahân ar draws Cymru. Unwaith y bydd y broses hon wedi digwydd, bydd y gwaith yn cychwyn ar lywodraethu amgylcheddol a chymdeithasol (ESG) o Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Mae gan bob Cronfa unigol yn y bartneriaeth y cyfle i gyfrannu at y broses hon trwy nodi meysydd o flaenoriaeth llywodraethu amgylcheddol a chymdeithasol ac i lobio i gael y rhain wedi’u cynnwys ym Mhartneriaeth Pensiwn Cymru.
Mae'n amserol felly, i Aelodau gymryd nid yn unig y risgiau cymdeithasol ond hefyd y rhai ariannol o newid yn yr hinsawdd yn ddifrifol trwy gymryd camau i gyfyngu risg aelodau Cronfa Bensiwn Powys i buddsoddiadau mewn tanwydd ffosil [1], sydd nid yn unig yn farchnad sy’n marw ond hefyd un sydd â risg uchel. Mae arbenigwyr yn cytuno y bydd yn rhaid i'r mwyafrif (oddeutu 75%) o'r tanwydd ffosil sy’n parhau yn y ddaear aros yno os ydym i osgoi effeithiau trychinebus newid yn yr hinsawdd [2] ac mae hyd yn oed Llywodraethwr Banc Lloegr wedi rhybuddio bod asedau glo ac olew mewn perygl a bod dad-carboneiddio yn gyfle mawr i fuddsoddwyr [3]. Felly, byddwn yn gwarchod buddiannau ein pensiynwyr orau trwy fuddsoddiadau sy'n edrych ymlaen i’r dyfodol o dyfu diwydiannau gwyrdd, megis ynni gwyrdd a allai fod yn allweddol i ddyfodol economaidd Cymru ei hun.
Trwyymuno â Phartneriaeth Pensiwn Cymru, mae gennym gyfle i ddylanwadu ar fuddsoddi tua £16 biliwn yn lle £620 miliwn – i nifer ohonom, cyfle sy’n digwydd dim ond unwaith mewn bywyd i gael effaith go iawn ar lesiant ein cenedlaethau’r dyfodol a’r rheiny dros y byd i gyd.
Byddai’rcamau hyn nid yn unig yn cefnogi’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ond hefyd cynllun Llesiant drafft Powys ei hun hefyd, sydd â’r nod i “ddatblygu strategaeth sy’n cael effaith bositif ar garbon ac sy’n gwneud y mwyaf o gynhyrchu ynni gwyrdd”.
Rwyffelly’n galw ar y Cyngor i gefnogi’n gyhoeddus yr egwyddor o ddadfuddsoddi mewn tanwydd ffosil ac i ddechrau lobïo Partneriaeth Pensiwn Cymru i gynnwys dadfuddsoddi mewn tanwydd ffosil yn ei flaenoriaethau ESG. Yn benodol, rwy’n gofyn;
1. I’rArweinydd i ysgrifennu at Gronfa Bensiwn Powys yn galw iddynt:
a. Gefnogi’regwyddor o ddadfuddsoddi
b. LobïoPartneriaeth Pensiwn Cymru i leihau ei fuddsoddiadau mewn tanwydd ffosil i sero dros y 5 mlynedd nesaf, yn cynnwys cynlluniau i arallgyfeirio i ddulliau adnewyddadwy, effeithlonrwydd ynni a thechnolegau storio ynni.
2. Y Gyngor a Chronfa Bensiwn Powys i weithio gydag awdurdodau lleol eraill sy’n cael eu gwasanaethau gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru i weithio gyda’i gilydd ar ddadfuddsoddi ac arallgyfeirio.
3. I weithio gyda chynrychiolwyr undebau llafur a’r gweithlu i’w cynnwys mewn cynlluniau ar gyfer dadfuddsoddi ac arallgyfeirio.
Erna ellir cyfeirio’r Pwyllgor Pensiynau a Buddsoddi i weithredu camau 1.a ac 1.b, mae’n hanfodol eu bod yn cael eu hystyried i’w mabwysiadu yn ystod camau cynnar Partneriaeth Pensiwn Cymru.
Cynigydd: Cynghorydd Sir Emily Durrant
Eilydd: Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan
[1] https://www.theguardian.com/environment/2013/apr/19/carbon-bubble-financial-crash-crisis
[2] Mae arbenigwyr blaenllaw wedi rhybuddio y bydd yn rhaid i oddeutu 75% o’r tanwydd ffosil sy’n weddill aros yn y ddaear os ydym i osgoi effeithiau gwaethaf newid yn yr hinsawdd:
https://www.theguardian.com/environment/2015/apr/22/earth-day-scientists-warning-fossil-fuels-
Cofnodion:
Bu’r Cyngor yn trafod y cynnig canlynol a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Emily Durrant ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan.
“Yn Ebrill, bydd Cronfa Bensiwn Powys yn ymuno â Phartneriaeth Bensiynau Cymru (WPP), cyfuniad o wyth o wahanol Gronfeydd ar draws Cymru. Yn dilyn y broses hon, bydd gwaith yn dechrau ar drefniadau llywodraethu amgylcheddol a chymdeithasol (ESG) ar gyfer y WPP. Mae gan bob Cronfa unigol yn y bartneriaeth gyfle i gyfrannu i’r broses hon drwy adnabod meysydd ESG blaenoriaeth a lobio i’w cynnwys yn y WPP.
Mae’n amserol felly bod yr Aelodau nid yn unig yn cymryd risg gymdeithasol, ond hefyd risg ariannol y newid yn yr hinsawdd o ddifrif drwy symud i gyfyngu cysylltiad aelodau o Gronfa Bensiwn Powys i fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil, sydd nid yn unig yn farchnad sy’n darfod ond hefyd yn un risg uchel. Mae arbenigwyr yn cytuno bod angen i’r rhan fwyaf (tua 75%) o’r tanwyddau ffosil sydd ar ôl yn y ddaear aros yno os ydym am osgoi effeithiau trychinebus gwaethaf y newid hinsawdd ac mae Llywodraethwr Banc Lloegr hyd yn oed wedi rhybuddio bod asedau glo ac olew mewn perygl a bod datgarboneiddio’n gyfle mawr i fuddsoddwr. Felly, yr hyn a fyddai o’r budd mwyaf i’n pensiynwyr fyddai buddsoddi’n flaengar mewn datblygu diwydiannau gwyrdd fel ynni gwyrdd a allai fod yn allweddol i ddyfodol economaidd Cymru.
Wrth ymuno â’r WPP, mae gennym gyfle i ddylanwadu ar fuddsoddiad o tua £16 biliwn yn lle £620 miliwn – i lawer ohonom, mae’n gyfle mewn oes i gael effaith wirioneddol ar lesiant cenedlaethau’r dyfodol a llesiant pobl ar draws y byd.
Byddai gwneud hyn nid yn unig yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ond Cynllun Llesiant drafft Powys ei hun sy’n ceisio “datblygu strategaeth garbon bositif sy'n achub ar bob cyfle i gynhyrchu ynni gwyrdd".
Galwaf felly ar y Cyngor i gefnogi’n gyhoeddus yr egwyddor o ddadfuddsoddi mewn tanwyddau ffosil a dechrau lobio Partneriaeth Bensiynau Cymru i wneud dadfuddsoddi mewn tanwyddau ffosil yn un o’i blaenoriaethau ESG. Yn benodol, gofynnaf:
1. Bod yr Arweinydd ysgrifennu at Gronfa Bensiwn Powys yn galw arni:
a. I gefnogi dadfuddsoddi mewn egwyddor.
b. I lobio’r WPP am strategaeth i leihau ei buddsoddiadau mewn tanwyddau ffosil i sero dros y 5 mlynedd nesaf, gan gynnwys cynlluniau i arallgyfeirio i ynni adnewyddadwy a thechnolegau arbed ynni a storio ynni.
2. Y Cyngor a’r PPF i weithio gydag awdurdodau lleol eraill a wasanaethir gan y Bartneriaeth Bensiynau i weithio gyda’i gilydd ar ddadfuddsoddi ac arallgyfeirio.
3. Iddi weithio gyda chynrychiolwyr undebau llafur a’r gweithlu i’w cynnwys mewn cynlluniau ar gyfer dadfuddsoddi ac arallgyfeirio.”
Roedd y bleidlais ar y cynnig yn gyfartal gyda 24 dros ac yn erbyn a 5 yn ymatal ac fe’i collwyd ar bleidlais fwrw'r Cadeirydd.
Gadawodd y Cynghorwyr Sir N Morrison a D Rowlands am 16.44.