Dros ddegawdau, rwyf wedi bod yn ddinesydd da, yn cadw ein cartref a'r amgylchedd yn daclus trwy fynd ag eitemau oedd yn aml yn rhai swmpus i gyfleuster ailgylchu. Yn aml, rwyf wedi helpu aelodau o’r teulu, cymdogion a ffrindiau i wneud yr un peth, weithiau trwy logi fan.
Am y tro cyntaf yn fy mywyd, mae Cyngor Sir Powys wedi cael gwared
ar fy ngallu i wneud hyn trwy fy ngorfodi i gofrestru un cerbyd
penodol a fydd yn cael caniatâd i fynd i mewn i'r cyfleuster
ailgylchu.
Mae gen i fan fechan ar gyfer defnydd domestig yn unig; mae gan fy
ngwraig trelar; weithiau rydym yn llogi fan mwy o faint pan fydd
prosiectau'n codi.
Mae eich polisi o orfodi gwastraff Masnachol i dalu
am gael gwared ar wastraff yn ddealladwy, ond mae eich proses o
gyflawni hyn yn ofnadwy. Fe ddylwn i, ac unrhyw un arall o fy
nghyfeiriad, alli fynd â gwastraff nad yw'n wastraff
masnachol i’r cyfleuster ailgylchu cynifer o weithiau ag y bo
angen, ym mha bynnag cerbyd, fan neu drelar rydym yn ei
ddewis.
Eich rôl chi yw gorfodi'r mater o wastraff masnachol, ac wrth
wneud hynny, peidio ag atal defnyddwyr domestig rhag cyflawni eu
dyletswydd ddinesig.
Cafodd y system drwyddedu gyfredol ei chreu ar frys ac nid yw’n addas i’r diben. A fyddech gystal ag ailfeddwl y broses hon?
Cofnodion:
Dros ddegawdau, rwyf wedi bod yn ddinesydd da, yn cadw ein cartref a'r amgylchedd yn daclus trwy fynd ag eitemau oedd yn aml yn rhai swmpus i gyfleuster ailgylchu. Yn aml, rwyf wedi helpu aelodau o’r teulu, cymdogion a ffrindiau i wneud yr un peth, weithiau trwy logi fan.
Am y tro cyntaf yn fy mywyd, mae Cyngor Sir Powys wedi cael gwared
ar fy ngallu i wneud hyn trwy fy ngorfodi i gofrestru un cerbyd
penodol a fydd yn cael caniatâd i fynd i mewn i'r cyfleuster
ailgylchu.
Mae gen i fan fechan ar gyfer defnydd domestig yn unig; mae gan fy
ngwraig trelar; weithiau rydym yn llogi fan mwy o faint pan fydd
prosiectau'n codi.
Mae eich polisi o orfodi gwastraff Masnachol i dalu am gael
gwared ar wastraff yn ddealladwy, ond mae eich proses o gyflawni
hyn yn ofnadwy. Fe ddylwn i, ac unrhyw un arall o fy nghyfeiriad,
alli fynd â gwastraff nad yw'n wastraff masnachol i’r
cyfleuster ailgylchu cynifer o weithiau ag y bo angen, ym mha
bynnag cerbyd, fan neu drelar rydym yn ei ddewis.
Eich rôl chi yw gorfodi'r mater o wastraff masnachol, ac wrth
wneud hynny, peidio ag atal defnyddwyr domestig rhag cyflawni eu
dyletswydd ddinesig.
Cafodd y system drwyddedu gyfredol ei chreu ar frys ac nid yw’n addas i’r diben. A fyddech gystal ag ailfeddwl y broses hon?
Ateb
Mae’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Tai ar gael i breswylwyr waredu eu gwastraff t? eu hunain. Nid ydynt ar gael ar gyfer gwastraff masnachol oherwydd, o dan y ddeddfwriaeth, rhaid i fusnesau wneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer eu gwastraff a’u hailgylchu a thalu am y gwasanaeth hwn gan sicrhau bod ganddynt yr holl waith papur perthnasol i brofi eu bod wedi gwaredu eu gwastraff yn gyfreithlon.
Yn anffodus mae llawer o fusnesau’n twyllo ac yn defnyddio'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff T?’n anghyfreithlon. Wrth gwrs mae’n amhosib atal pob defnydd o'r fath ond mae rhoi mesurau yn eu lle i wrthod trelars a cherbydau masnachol yn ei gwneud yn anoddach. Gwerthfawrogwn nad yw hyn efallai’n gyfleus i breswylwyr sy’n defnyddio cerbyd masnachol fel eu dull cludiant arferol ond, yn anffodus, mae’n anodd iawn i weithiwr safle adnabod beth sydd, a beth sydd ddim yn wastraff masnachol oherwydd gallai edrych yn union yr un fath. Un enghraifft fyddai gwastraff wedi’i gynhyrchu drwy redeg llety gwyliau. Mae unrhyw wastraff a gynhyrchir gan y tenantiaid ar wyliau, deunyddiau glanhau neu wastraff gardd o gynnal a chadw tir llety o'r fath, yn cael ei ddosbarthu fel gwastraff masnachol ond gellid ei gamgymryd yn hawdd am wastraff domestig. Yn yr un modd, os cynhyrchir gwastraff o fusnes sy’n rhedeg o gyfeiriad domestig, mae’r gwastraff yn cael ei ddosbarthu fel masnachol ac ni ddylid mynd â fo i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff T?.
Mae rhedeg y safleoedd hyn, a phrosesu’r gwastraff gan gynnwys gwastraff gardd, yn costio’n ddrud. Er mwyn arbed arian, penderfynodd y Cabinet blaenorol dorri'n ôl ar ddiwrnodau agor pob safle i dridiau'r wythnos a gwahardd pob trelar a cherbyd masnachol. Gwnaed hyn yn dilyn ymgynghori lle cafwyd ymateb pendant iawn gan y cyhoedd i beidio â chau cyfleusterau ond yn hytrach eu hagor ar lai o ddiwrnodau a chyfyngu mynediad ar gyfer cerbydau masnachol. Roedd y newidiadau hyn er hynny’n amhoblogaidd iawn gyda’r cyhoedd ac felly un o’r penderfyniadau cyntaf a wnaeth y Cabinet newydd oedd cynyddu nifer y diwrnodau agor a chyflwyno cynllun trwyddedu trelars a cherbydau masnachol. Drwy’r cynllun hwn gallai preswylwyr sy’n defnyddio trelars a cherbydau masnachol at ddefnydd domestig ddefnyddio’r safleoedd ar yr amod eu bod yn cofrestru ymlaen llaw am drwydded fel y gallwn gyflawni archwiliadau i brofi dilysrwydd. Mae cyfyngu nifer y trwyddedau i bob aelwyd yn ffordd arall o reoli camddefnydd gan fasnachwyr oherwydd ni ddylai fod angen i breswylwyr ymweld mwy na 12 gwaith y flwyddyn os ydynt yn defnyddio’r gwasanaeth ailgylchu carreg y drws. Er bod y safleoedd yn fodlon derbyn ychydig o wastraff DIY, nid oes raid iddynt wneud hynny ac felly cynghorwn fod cwmni sgipiau'n cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau mawr.
O ran bod y system drwyddedu wedi’i ‘chyflwyno ar frys ac nad yw’n addas i’r pwrpas’, defnyddir y system hon yn gyffredin gan lawer o awdurdodau eraill, a buom yn trafod â llawer ohonynt cyn ei gweithredu. Ers cyflwyno'r polisi rydym wedi gwneud ychydig o fân-newidiadau, er enghraifft cynyddu hyd trelars a ganiateir o 2.1 i 2.4, ond nid ydym mewn sefyllfa i wneud unrhyw newidiadau sylweddol os ydym am wireddu’r arbedion y mae’n rhaid i’r awdurdod eu gwneud.
Mewn ymateb i’r cwestiwn ychwanegol yn gofyn addasu’r system drwyddedu fel y gellid cofrestru ail gerbyd, eglurodd yr Aelod Portffolio nad oedd y gwasanaeth mewn sefyllfa i newid y polisi.
Dogfennau ategol: