Bod y Cyngor yn nodi
1. Bod biliau ynni aelwydydd yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, tra bod incwm effeithiol aelwydydd yn cadw’r un fath neu’n gostwng.
2. Mae adroddiad diweddar gan moneysupermarket.com
wedi dangos bod 5 o'r darparwyr ynni "Big 6" (npower, E.ON, Scottish
Power, SSE ac EDF) wedi cyhoeddi cynnydd mewn prisiau ar gyfer y
rhai sydd ar brisiau newidiol safonol.
3. Mae 66% o gwsmeriaid ynni ar brisiau newidiol safonol yn
ôl Ofgem, gyda'r rhan fwyaf o'r
rheiny heb erioed wedi newid cyflenwyr.
4. Y cynnydd pris cyfartalog yn 2017 yw £96.95 gan olygu mai pris y bil ynni blynyddol cyfartalog yw £1258.55.
5. Mae llawer o awdurdodau lleol eraill yn rhedeg cynlluniau newid cyflenwr ynni ar y cyd llwyddiannus.
6. Mae cynllun Cymru-gyfan, Cyd Cymru Wales
Together, eisoes yn bodoli
(https://cydcymru-collective.com/)
7. Yn yr asesiad Lles a gynhaliwyd gan Bowys, canfu fod 16% o gartrefi mewn tlodi
tanwydd - diffiniwyd hyn fel aelwyd
sy'n gwario o leiaf 10% o'u hincwm ar danwydd.
8. Canfu adroddiad 2008 fod 34.9% o aelwydydd yng Nghanolbarth Cymru mewn tlodi tanwydd.
9. Nid oes gan dros hanner yr aelwydydd ym
Mhowys cysylltiad â'r rhwydwaith nwy, sy’n golygu eu bod
yn dibynnu ar olew a thanwydd solet sydd â chost llawer uwch
i'r defnyddiwr.
10. Mae Ceredigion yn rhedeg "Clybiau Tanwydd" llwyddiannus, lle
mae cymunedau’n prynu olew ar raddfa fawr ar gyfer
gwresogi.
Penderfyniad y Cyngor
1. Mae’r Cyngor yn credu y dylai
a. Gwneud cymaint ag y
mae’n gallu i helpu trigolion mewn tlodi tanwydd i liniaru'r
sefyllfa hon;
b. Byddai preswylwyr Powys yn elwa'n fawr o filiau ynni llai trwy
gynllun ar y cyd sy’n cael ei redeg gan Gyngor Sir Powys ar
gyfer newid cyflenwyr ynni;
c. Gall yr awdurdod ymuno ag awdurdodau a sefydliadau eraill yng
Nghymru trwy gynllun Cyd Cymru;
d. Mae Ceredigion yn rhedeg cynlluniau
a fyddai’n gallu darparu modelau arfer gorau ar gyfer rhedeg
clybiau tanwydd o'r fath;
e. Gall yr awdurdod defnyddio ei b?er o fargeinio ar y cyd ar gyfer
cynlluniau deuol i brynu tanwydd ac olew
2. Gofyn i swyddogion ymchwilio i’r
posibilrwydd o weithredu ei gynllun ei hun neu ymuno â
chynllun Cyd Cymru.
3. Gofyn i swyddogion ymchwilio i’r posibilrwydd o weithredu
cynllun prynu olew ar draws Powys.
4. Gweithio gyda chymdeithasau tai lleol, Bwrdd Iechyd Addysgu
Powys, grwpiau gwirfoddol, cartrefi gofal ac aelwydydd ar draws
ledled Powys i gynyddu ymwybyddiaeth a'u hannog i ymuno
â'r cynlluniau hyn
Cynigydd: Cynghorydd Sir Huw
Williams
Eilydd:
Cynghorydd Sir Sarah
Williams
Cofnodion:
Datganodd y Cynghorydd Sir Roger Williams fuddiant ariannol oherwydd ei fod yn cymryd rhan mewn cynlluniai prynu ynni.
Trafododd y Cyngor yr hysbysiad canlynol o gynnig a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Huw Williams a’i eilio gan y Cynghorydd Sir Sarah Williams.
Nodiadau’r Cyngor
1. Mae biliau ynni cartrefi’n cynyddu bob blwyddyn, ac mae incwm cartrefi’n aros yr un peth neu’n lleihau.
2. Mae adroddiad diweddar gan moneysupermarket.com wedi dangos bod 5 o’r darparwyr ynni “Big 6” (npower, E.ON, Scottish Power, SSE ac EDF) wedi cyhoeddi codiad mewn prisiau i’r rhai hynny ar dariffau safonol amrywiol.
3. Mae 66% o gwsmeriaid ynni ar dariffau safonol amrywiol yn ôl Ofgem, gyda’r rhan fwyaf ohonynt erioed wedi newid cyflenwr.
4. Y codiad pris ar gyfartaledd yn 2017 yw £96.95 gan olygu mai pris bil ynni blynyddol arferol yw £1258.55.
5. Mae llawer o awdurdodau lleol eraill yn cynnal cynlluniau newid ynni tebyg ar y cyd.
6. Mae cynllun Cymru gyfan, Cyd Cymru Wales Together, eisoes yn bodoli (https://cydcymru-collective.com/)
7. Yn yr asesiad llesiant a gynhaliwyd gan Bowys, gwelwyd bod 16% o gartrefi mewn tlodi tanwydd, a ddiffinnir fel cartref sy’n gwario o leiaf 10% o’i incwm ar danwydd.
8. Yn ôl adroddiad 2008, gwelwyd yng nghanolbarth Cymru bod 34.9% o gartrefi mewn tlodi tanwydd.
9. Nid yw dros hanner y cartrefi ym Mhowys wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy, gan ddibynnu ar olew a thanwydd called sy’n llawer mwy drud i’r prynwr.
10.Mae Ceredigion yn cynnal “clybiau tanwydd”, lle mae cymunedau’n prynu olew mewn swmp ar gyfer cynhesu.
Mae’r Cyngor wedi penderfynu gwneud y canlynol
1. Cred y Cyngor y dylai
a. Wneud cymaint ag y bo modd i helpu preswylwyr mewn tlodi tanwydd i liniaru’r sefyllfa;
b. Byddai preswylwyr Powys yn elwa’n fawr o filiau ynni llai drwy gynllun newid ynni a gynhelir ar y cyd gan Gyngor Sir Powys;
c. Gall yr awdurdod ymuno ag awdurdodau a sefydliadau eraill yng Nghymru drwy’r cynllun Cyd Cymru;
ch. Mae’r cynllun a gynhelir gan Geredigion yn darparu model arfer gorau ar gyfer cynnal clybiau tanwydd o’r fath;
d. Gall yr awdurdod arfer ei b?er o fargeinio ar y cyd ar gyfer cynlluniau prynu olew a thanwydd deuol.
2. Cyfarwyddo swyddogion i archwilio dichonoldeb rhoi ei gynllun ei hun ar waith neu ymuno â’r cynllun Cyd Cymru.
3. Cyfarwyddo swyddogion i archwilio dichonoldeb rhoi cynlluniau prynu olew ar waith ar draws Powys.
4. Gweithio gyda chymdeithasau tai lleol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, grwpiau gwirfoddol, cartrefi gofal a chartrefi ar draws Powys i gynyddu ymwybyddiaeth o’r cynlluniau hyn a’u hannog i gofrestru arnynt.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir, Aled Davies, ddiwygiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Sir, Myfanwy Alexander, i rannau 2 a 3 o’r cynnig gan ddisodli’r geiriau “Cyfarwyddo swyddogion …” gyda “Gofyn i’r Hyrwyddwr Gwrth-dlodi a’r Gr?p Gwrth-dlodi …”
Pleidleisiodd y Cyngor ar y diwygiad ac fe’i pasiwyd gyda 39 o blaid, 2 yn erbyn ac 1 ymataliad. Daeth y diwygiad yn gynnig gwirioneddol gyda 44 o blaid a 0 yn erbyn
PENDERFYNWYD
1. Creda’r Cyngor y dylai wneud cymaint â phosib i helpu preswylwyr sy’n dioddef tlodi tanwydd i liniaru’r sefyllfa;
a) Byddai preswylwyr Powys yn elwa’n fawr o filiau ynni llai drwy gynllun newid ynni ar y cyd a gynhelir gan Gyngor Sir Powys;
b) Gall yr awdurdod ymuno ag awdurdodau a sefydliadau eraill yng Nghymru drwy’r cynllun Cyd Cymru;
c) Mae’r cynllun a gynhelir gan Geredigion yn darparu model arfer gorau ar gyfer cynnal clybiau tanwydd o’r fath;
ch) Gall yr awdurdod arfer ei b?er o fargeinio ar y cyd ar gyfer cynlluniau prynu olew a thanwydd deuol
2. Gofyn i’r Hyrwyddwr Gwrth-dlodi a’r Gr?p Gwrth-dlodi i archwilio dichonoldeb rhoi ei gynllun ei hun ar waith neu ymuno â chynllun Cyd Cymru.
3. Gofyn o’r Hyrwyddwr Gwrth-dlodi a’r Gr?p Gwrth-dlodi i archwilio dichonoldeb rhoi cynllun prynu olew ar waith ar draws Powys.
4. Gweithio gyda chymdeithasau tai lleol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, grwpiau gwirfoddol, cartrefi gofal a chartrefi ar draws Powys i gynyddu ymwybyddiaeth a’u hannog i gofrestru ar y cynlluniau hyn.
Gadawodd y Cynghorwyr Sir Heulwen Hulme a Hywel Lewis y cyfarfod am 15.57.