Pa asesiad a wnaed o berthnasedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ar bolisiau Cyngor Sir Powys yn ymwneud â rheoli a gwaredu asedau? Yn benodol, a fyddai Aelod y Cabinet yn ystyried adnewyddu dull presennol y Cyngor o weithio, er mwyn cynnwys cynghorau Tref a Chymuned yn fwy ar gam cynharach yn y broses?
Mae lleoliaeth yn ganolog i ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru ac felly, pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud am waredu a defnyddio asedau mewn ffordd wahanol, oni fyddai’n gwrtais ac eglur ond hefyd synnwyr cyffredin i ddefnyddio’r wybodaeth ac arbenigedd lleol sydd ar gael yn ein cymunedau.
Cofnodion:
Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o berthnasedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i bolisïau Cyngor Sir Powys ynghylch rheoli a gwaredu asedau? Yn benodol, a fydd aelod y Cabinet yn ceisio adfywio ymagwedd bresennol y Cyngor, er mwyn cynnwys cynghorau Tref a Chymuned yn llawnach gam yn gynharach yn y broses?
Mae lleoliaeth yn ganolog i ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru ac felly, pan fo penderfyniadau’n cael eu gwneud ynghylch gwaredu ac ailddefnyddio asedau, byddai nid yn unig yn gwrtais ac yn dryloyw ond yn synnwyr cyffredin defnyddio’r wybodaeth a’r arbenigedd lleol sydd ar gael yn ein cymunedau.
Ateb
Fel rwy’n si?r y mae’r Cynghorydd Powell yn ymwybodol o ddarllen y dogfennau polisi ar y fewnrwyd, mae’r Cynllun Rheoli Asedau Strategol (StAMP) a gymeradwywyd gan y Cabinet ar ddechrau’r flwyddyn wedi’i alinio i’n polisïau corfforaethol a’r cyd-destun statudol (gweler isod). Cymuned yw un agwedd ar hyn ond rhaid i ni hefyd gydbwyso nodau eraill - ffyniant, iechyd a gwydnwch a meddwl am ddiogelu’r Cyngor a dinasyddion yn eu cyfanrwydd dros y dyfodol tymor hir. Cynhaliodd y tîm Eiddo gyfres o weithdai ‘lle’ yn ystod 2016/17 a gwahoddwyd aelodau lleol (a oedd yn cynrychioli eu cymunedau) i ddod. Yn anffodus, roedd presenoldeb aelodau’n isel iawn (oddeutu 30%) er gwaethaf sawl ymgais i hyrwyddo’r gweithdai (yn ystod diwrnodau datblygu aelodau a sesiynau’r Cabinet). Yn ogystal, mi wnaeth gwahoddiad i gyflwyno sylwdau ysgrifenedig i’r rhai nad oeddent yn gallu dod fethu cael ymateb.
Nawr, gyda Chyngor newydd, rydym yn cynnig cynnal set arall o weithdai'r gwanwyn nesaf a byddwn yn annog cynifer o aelodau lleol â phosib i ddod. Dylai’r aelodau hyn ymgynghori â’u cynghorau tref a chymuned a rhoi adborth iddynt.
Ers i mi ymuno â’r Cyngor, rwyf wedi ymweld â sawl cyngor tref ac wedi bod mewn deialog actif â hwy ac maent wedi mynegi diddordeb yn yr asedau a ddelir gennym yn eu cymunedau ar draws Powys gan gynnwys Llandrindod, y Gelli, y Drenewydd, Llanandras a Llanfair Caereinion. Rwy’n hapus i ymweld ag unrhyw gymuned sy’n dymuno trafod materion sy’n ymwneud ag eiddo yn eu hardal.
Er hawster cyfeirio, mae’r polisi’n nodi’r canlynol:
“Cyd-destun Strategol
Mae’r StAMP wedi alinio â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
2015. O’r saith nod, mae’r StAMP yn cyfrannu’n uniongyrchol at y canlynol:
· Cymru lewyrchus - datblygu ein hystâd fasnachol
· Cymru o gymunedau cydlynus – mae meddu ar ymagwedd ‘le’ yn cydnabod pwysigrwydd cymunedau a dylai wella cyfranogiad a chynnwys cymunedau
· Cymru iachach – gweithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i rannu asedau i alluogi cyflwyno gwasanaethau’n well; hefyd darparu cyfleoedd i’r rhai sydd am gael cyflogaeth
· Cymru gydnerth- mannau gwyrdd cymunedol/mwy o effeithlonrwydd ynni
Yn ogystal, mae’r StAMP yn ei natur yn cyfrannu at yr egwyddorion cynaladwyedd a nodir yn y Ddeddf:
· Tymor hir – diogelu asedau ar gyfer anghenion tymor hir yn hytrach nag enillion tymor byr
· Integreiddio - gweithio gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a phartneriaid eraill
· Cydweithio – gweithio gyda’r holl wasanaethau, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, cymunedau a phartneriaid eraill
· Cynnwys – mae’r gweithdy StAMP yn darparu fforwm ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid
· Atal – darparu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth/dechrau busnesau
Cwestiwn y Cynghorydd Powell oedd sut i ymgorffori rôl Cynghorau Tref a Chymuned mewn ffordd llai ad hoc. Esboniodd Deiliad y Portffolio dros Addysg fod gan y Cabinet fwrdd yn ystyried sut i gynnwys cymunedau a fyddai’n cynnwys gr?p ymgynghori.
Dogfennau ategol: