Hoffwnofyn cwestiwn i Rosemarie Harris, yr Arweinydd am Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ‘Gwasanaethau sy’n addas i’r dyfodol’ sy’n amlinellu newidiadau i’r ffordd y bydd ansawdd a llywodraethu yn cael eu mesur a’u cyflwyno yn y dyfodol. Mae un o’r cynigion yn ymwneud â ‘chyd-gynhyrchu’ (ffordd arall o ddweud partneriaethau) yn enwedig rhwng gweithwyr proffesiynol a’r bobl hynny sy’n defnyddio gwahanol wasanaethau.
Elfen o hyn yw dod o hyd i ffordd fwy cydweithredol ac effeithlon o gyflwyno fframwaith gyda gwiriadau a dulliau o gadw cydbwysedd ar gyfer cleifion a chleientiaid o’r ddau faes cyflwyno, iechyd a gofal cymdeithasol.
Y cynnig sydd o ddiddordeb mwyaf i mi fel cynghorydd ac aelod o Gyngor Iechyd Cymunedol Powys yw cael ‘corff annibynnol’ newydd yn lle’r Cynghorau Iechyd Cymunedol presennol a fydd yn gyfrifol am ddod ag archwilio/rheoleiddio a gwrando ar lais dinasyddion at ei gilydd. Mae Cyngor Iechyd Cymunedol Powys yn ymateb yn annibynnol felly mae’n debygol y bydd y Bwrdd Iechyd a Chyngor Sir Powys wedi ymateb hefyd.
Fynghwestiynnau:-
Cofnodion:
Hoffwn ofyn cwestiwn i Rosemarie Harris fel Arweinydd ynghylch Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ‘Gwasanaethau sy’n addas i’r dyfodol’ sy’n amlinellu’r newidiadau i’r ffordd y mesurir ansawdd a llywodraethu a’u cyflwyno yn y dyfodol. Mae un o’r cynigion yn cynnwys ‘cyd-gyd-gynhyrchu’ (ffordd arall o ddweud partneriaethau) yn enwedig rhwng gweithwyr proffesiynol a’r bobl hynny sy’n defnyddio gwasanaethau gwahanol.
Elfen o hon yw dod o hyd i ffordd fwy cydweithiol ac effeithlon o gyflwyno fframwaith gyda gwiriadau a chydbwysau i gleifion a chleientiaid y ddau faes cyflwyno, sef iechyd a gofal cymdeithasol.
Y cynnig sydd o fwyaf diddordeb i mi fel cynghorydd ac aelod o Gyngor Iechyd Cymunedol Powys yw disodli Cynghorau Iechyd Cymunedol Powys presennol gyda ‘chorff annibynnol’ a fydd â’r cyfrifoldeb o uno arolygu/rheoliad a chlywed llais y dinesydd. Mae Cyngor Iechyd Cymunedol Powys yn ymateb yn annibynnol, felly bydd Bwrdd Iechyd Powys a Chyngor Sir Powys wedi ymateb hefyd.
Fy nghwestiynau:-
1. Hoffwn wybod beth mae Cyngor Sir Powys wedi’i ddweud mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn a ddaeth i ben ar 29 Medi 2017.
2. Yn ail, mae’r syniad bod arolygu a rheoliad yr un peth â chlywed llais y dinesydd yn ofidiol. Nid ydynt yr un peth. Beth yw’ch barn chi fel cyn Gadeirydd y Cyngor Iechyd Cymunedol ac fel Arweinydd Cyngor Sir Powys sy’n cyflwyno gofal cymdeithasol ac sydd am gael integreiddiad yn y dyfodol ym Mwrdd Iechyd Lleol Powys?
Ateb
1. Ymatebodd y gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion i’r ymgynghoriad. Byddaf yn trefnu i gopi o’r ymateb gael ei anfon at yr aelodau.
2. Nid yw’r Cyngor Iechyd Cymunedol yn mynd i’r afael â Gofal Cymdeithasol mewn unrhyw ffordd. Y nhw yw corff gwarchod y GIG o safbwynt y claf/dinesydd. Hefyd, rôl Arweinydd y Cyngor Sir yw arwain ar faterion Awdurdod Lleol. Byddai’n anarferol i’r Arweinydd ateb cwestiynau ar swydd a ddelir y tu allan i’r Cyngor ac mewn blynyddoedd blaenorol.
Ar yr achlysur hwn, byddaf yn ateb.
Mewn gwirionedd, dylai’r Cyngor Iechyd Cymunedol fod yn gyswllt pwysig iawn rhwng y GIG, y rhai sy’n eu rheoleiddio a llais y rhai sy’n defnyddio’r GIG.
Yn gyntaf, hoffwn ddweud fy mod yn credu’n gryf bod angen sefydliad fel y Cyngor Iechyd Cymunedol fel corff gwarchod y GIG ar ran y claf/dinesydd.
Nid oes unrhyw sefydliad sydd â llais ar ran y claf. Credaf, ymhell o ddiddymu Cynghorau Iechyd Cymunedol, dylai eu rôl gael ei chryfhau. Maent yn gyrff statudol ac mae’r cryfder hwnnw, dan y statud, eisoes wedi cael ei ddiddymu yn Lloegr - sy’n niweidiol yn fy marn i.
Ar hyn o bryd, mae gan Gynghorau Iechyd Cymunedol ganiatâd i ymweld â meddygfeydd meddyg teulu, ysbytai, gorsafoedd ambiwlans ac unrhyw le y darperir gwasanaethau’r GIG. Yn aml, cynhelir arolygiadau ar y cyd ag AGIC gydag un sefydliad yn arolygu darpariaeth glinigol a’r llall yn arolygu o safbwynt y claf. Nid yw Cynghorau Iechyd Cymunedol erioed wedi cael arolygu/ymweld â sefydliadau lle darperir gofal cymdeithasol yn unig. Mae Cyngor Iechyd Cymunedol Powys a Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymunedol Cymru o hyd wedi teimlo y dylai'r ddau gael eu trin yr un ffordd, yn enwedig oherwydd nad oes llais y claf ar gyfer Gofal Cymdeithasol.
Yn y dyfodol, hoffwn weld rôl Cynghorau Iechyd Cymunedol yn cryfhau i gynnwys Gofal Cymdeithasol.
Credaf hefyd, yn ddadleuol efallai, y dylai aelodau Cynghorau Iechyd Cymunedol gael eu talu ychydig. Ar hyn o bryd, mae aelodau’n wirfoddolwyr a gall fod yn rhaglen brysur tu hwnt, yn enwedig i aelodau Powys oherwydd bod gofal iechyd eilaidd yn cael ei gomisiynu i’r preswylwyr o gynifer o Ysbytai Cyffredinol Dosbarth y tu allan i’n ffiniau. Credaf petai aelodau’n cael eu talu ychydig, byddai’n denu ac yn galluogi mwy o amrywiaeth ymhlith aelodaeth gan gryfhau’r sefydliad.
Oherwydd bod yr holl ofal eilaidd dwys ar gyfer ein preswylwyr yn cael ei gomisiynu o leoliadau eraill (canran fawr o Loegr) mae angen cefnogaeth yn am li gefnogi yn ogystal â herio Bwrdd Iechyd Lleol Powys.
I grynhoi, credaf fod angen sefydliad wedi’i gryfhau i arolygu/ymweld â holl gyrff GIG/darpariaeth Gofal Cymdeithasol o safbwynt y claf.
Cwestiwn atodol y Cynghorydd Charlton oedd sut byddai integreiddiad gofal cymdeithasol ac iechyd yn cael ei fonitro o safbwynt y claf ac esboniodd deiliad y Portffolio dros y Gwasanaethau i Oedolion y byddai gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, sy’n cynnwys defnyddwyr gwasanaethau a chynrychiolwyr sy’n ddinasyddion, gyfrifoldeb dros fonitro integreiddiad.