Erfy mod yn deall yn iawn y diffyg cyllid ar gyfer Priffyrdd, a’r angen i flaenoriaethu’r ffyrdd a ddefnyddir amlaf, mae gennyf bryder am ddyfodol tymor hir nifer o’r lonydd di-ddosbarth. Mae maint a phwysau cynyddol peiriannau amaethyddol yn torri asgwrn cefn rhai o’r lonydd hyn ac mae eraill yn colli wyneb y ffordd ac yn dod yn fwyfwy anwastad. Nid dim ond tyllau yn y ffordd ry'n ni'n sôn amdanynt yn y cyd-destun yma. A oes unrhyw gynllun tymor hir ar gyfer cynnal a chadw’r ffyrdd hyn neu a fydd trigolion yn gorfod derbyn y bydd hi’n angenrheidiol cael cerbydau pedair olwyn yn y dyfodol?
Cofnodion:
Er fy mod yn deal y diffyg ariannu ar gyfer Priffyrdd, a’r angen i flaenoriaethu’r ffyrdd a ddefnyddir fwyaf, mae gennyf breeder ynghylch dyfodol tymor hir llawer o’r lonydd annosbarthedig. Mae maint a phwysau cynyddol peiriannau amaethyddol yn torri cefn rhai lonydd ac mae rhai eraill yn collie u harwyneb ac yn troi’n fwyfwy garw. Nid ydym yn sôn am y tyllau’n unig yma. Oes unrhyw gynllun tymor hir ar gyfer cynnal a chadw’r ffyrdd hyn neu a fydd rhaid i breswylwyr dderbyn, rhywbryd yn y dyfodol, y bydd meddu ar gerbydau sy’n cael eu gyrru ar bedair olwyn yn hanfodol?
Ateb
Mae rhwydwaith presennol Powys yn cynnwys oddeutu 5000km o briffordd ag arwyneb, gydag 17% yn ffurfio’r rhwydwaith prysurach mwy strategol, gyda’r gweddill yn rhwydwaith ffyrdd llai. Mae gan yr ased priffordd hwn werth amcangyfrifedig o £4.4 biliwn ac rydym yn amcangyfrif bod ôl-groniad presennol o waith priffyrdd gwerth dros £40m.
Yr her i’r Cabinet a gwasanaeth priffyrdd y Cyngor yw monitro data ariannu a chyflwr er mwyn targedu gwaith yn effeithio ac yn briodol. Mae arian cyfalaf o oddeutu £12m wedi cael ei ddarparu ar gyfer gwella asedau priffyrdd, gan godi’r cyfanswm i oddeutu £6.5m y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf. Fel y byddwch yn gwerthfawrogi, mae’r arian hwn yn cael ei flaenoriaethu fel ei fod yn cael ei dargedu lle mae ei angen fwyaf a lle bydd yn cael yr effaith fwyaf o ran diogelwch a chost hyd oes. Er y bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu, dylai gael ei ystyried yng nghyd-destun rheoli dirywiad cyffredinol parhaus yng nghyflwr y rhwydwaith ffyrdd hyd eithaf ein gallu gyda’r adnoddau a’r arian sydd ar gael.
Yn amlwg, rhaid i’n ffocws fod ar ein llwybrau strategol sy’n derbyn symiau uwch o draffig cyflymach gyda chynnydd amlwg mewn risg. Fodd bynnag, mae ein rhwydwaith ffyrdd bychain yn parhau if od yn hanfodol bwysig i Bowys, gan barhau if od yn agored i fuddsoddiad mewnol oherwydd ei fod yn debygol o gael ei ddefnyddio gan y rhan fwyaf ohonom fel rhan gyntaf ac olaf ein taith i’r rhwydwaith strategol ac oddi yno. Yr her rydym yn ei hwynebu yw ei gynnal i gyflwr addas drwy ddulliau cynnal a chadw arloesol ac effeithlon. Un enghraifft yw’r cyfarpar clytio jet a fydd yn ein helpu i fynd i’r afael ag atgyweiriadau ffyrdd yn fwy effeithlon. Er nad yr ateb i bob mathau o atgyweirio yw hwn, bydd yr effeithlonrwydd y bydd yn ei gyflwyno’n ein galluogi i drwsio mwy gan wario’r un faint o arian.
Ar hyn o bryd mae gwaith yn cael ei wneud i ddiweddaru’r Cynllun Rheoli Asedau’r Briffordd ac rydym yn gweithio ar y cyd ag Awdurdodau Lleol eraill drwy Gymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru a CLlLC i godi materion tebyg i’r rhai a nodwyd gennych i lobïo Llywodraeth Cymru i ennill mwy o arian yn derbyn i’r arian Menter Benthyca Llywodraeth Leol a dderbyniwyd rhwng 2012/13 a 2014/15.
Yn syml, mae toriadau ledled y DU ac yng Nghymru i wasanaethau Cymdogaethau megis priffyrdd gan gadw’r status quo yng Ngofal Cymdeithasol Oedolion, Gofal Cymdeithasol Plant ac Addysg bellach yn cael effaith anferthol ac ym Mhowys yn benodol sydd bellach â’r ffyrdd gwaethaf yng Nghymru wrth ystyried ffyrdd A, B, C ac annosbarthedig ar y cyfan. Mae hyn wedi peri adroddiadau a phapurau gan weithwyr proffesiynol Priffyrdd ac aelodau Cabinet ledled y DU i fynd i’r afael â’r sefyllfa oherwydd y bydd yn ddrud iawn mynd i’r afael ag ef yn y dyfodol.
Rwy’n cytuni ynghyd â sawl person bod y GIG yn bwysig ac mae’n rhaid i ni ariannu ein hysbytai, ond rhai i ni hefyd feddu ar ffyrdd da i gludo’n hanwyliaid i’r ysbytai ac mae hynny wedi cael ei anghofio’n ddiweddar.
Byddai cwestiwn atodol y Cynghorydd Roberts ynghylch yr hyn y gellir ei wneud ynghylch maint y cerbydau amaethyddol sy’n defnyddio ffyrdd bychain yn cael ei anfon at Ddeiliad y Portffolio er mwyn cael ymateb.
Dogfennau ategol: