Mae gennym broblem yn y sir nad oes digon o eiddo ‘fforddiadwy’ yn cael eu hadeiladu ar gyfer ein pobl ifanc. Rydym yn gwybod bod enillion ym Mhowys yn draddodiadol o isel. Mae gennym hefyd weledigaeth o gadw ein pobl ifanc yn y sir a hyd yn oed denu rhagor o bobl ifanc i symud i mewn. Nid wyf yn credu y bydd hyn yn digwydd tra nad oes gennym dai addas. Mae nifer o bobl ifanc dal efo’r uchelgais o alli brynu eu heiddo eu hunain, ond yn sicr o fewn fy ward i mae’r rhan fwyaf o’r eiddo sy’n cael ei adeiladu yn gartrefi moethus sy’n sicr ddim o fewn cyrraedd y mwyafrif. Rwy’n ymwybodol o gais cynllunio lleol sydd wedi cael ei gyflwyno fel cais ‘fforddiadwy’ ond fel t? ar wahân gyda thair ystafell wely a garej ddwbl a fydd yn debygol o fynd ar y farchnad am o leiaf £250,000. A oes yna unrhyw beth y gall y Cyngor ei wneud i wella’r sefyllfa?
Cofnodion:
Mae gennym broblem yn y sir nad oes digon o eiddo ‘fforddiadwy’ yn cael eu hadeiladu ar gyfer pobl ifanc. Rydym yn gwybod y Mhowys bod enillion yn draddodiadol yn isel. Mae gennym weledigaeth i gadw’n pobl ifanc yn y sir a hyd yn oed denu mwy ohonynt i symud yma. Nid wyf yn credu y bydd hyn yn digwydd heb dai cynaliadwy. Mae gan lawer o bobl ifanc yr uchelgais o hyd i allu prynu eu heiddo eu hunain, ond yn sicr yn fy ward i, mae’r rhan fwyaf o’r tai sy’n cael eu hadeiladu’n gartrefi moethus y tu hwnt i’w gallu i brynu. Mae hyn yn oed y tai ‘fforddiadwy’ y tu hwnt i afael y rhan fwyaf. Rwy’n ymwybodol o gais cynllunio lleol sydd wedi’i gyflwyno fel ‘fforddiadwy’, ond bydd t? ar wahân â their ystafell wely a garej dwbl si?r o fod yn mynd ar y farchnad am o leiaf £250,000. Oes unrhyw beth y gallwn ei wneud fel Cyngor Sir i wella’r sefyllfa?
Ateb
Bydd Cynghorwyr Sir yn ymwybodol bod cynllunio ym Mhowys yn fater i ddau awdurdod, sef Cyngor Sir Powys ac Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a bod hwn yn golygu dau bolisi ar wahân. Fodd bynnag, mae’r ddau’n ceisio caffael y swm uchaf posib o gartrefi fforddiadwy i gael eu hadeiladu.
Mae Polisi Cynllunio Cenedlaethol yn caniatáu datblygu safleoedd eithriadol mewn ardaloedd gwledig h.y. y rhai nad ydynt wedi’u dyrannu neu’n dod o fewn ffiniau datblygu Cynllun Datblygu’r Awdurdod. Mae Polisi Cenedlaethol hefyd yn gofyn i bob awdurdod cynllunio gaffael cyfraniadau tai fforddiadwy gan yr holl ddatblygwyr tai lle y bo’n briodol ac yn ddichonadwy dan Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Mae gan y ddau awdurdod gynlluniau ar waith sy’n diwallu’r anghenion hyn, fodd bynnag, mae sawl factor sy’n caniatáu i ddatblygwyr herio’r gofynion. Un her fynych yw datblygiadau moethus lle nad yw datblygwr am gynnwys cartrefi llai fforddiadwy’ neu gartrefi o ddaliadaeth wahanol megis rhent cymdeithasol. Yn yr achos rydych yn tynnu sylw ato, mae’r datblygwr si?r o fod yn defnyddio’r opsiwn o gynnig y cartref am 69% o werth y farchnad, y mae Cynllun Datblygu Unedig Powys yn ei ddiffinio’n fforddiadwy. Eir i’r afael â’r anghysondeb hwn gan y CDLl unwaith y bydd ar waith y flwyddyn nesaf.
Mater negyddol arall o’r safbwynt cynllunio yw cytundebau Adran 106 sy’n cael eu cytuno ac yna nail ai’n peidio â chael eu datblygu neu’n cael eu herio’n ddiweddarach a’u hatal wrth i amgylchiadau ariannol a/neu eraill newid.
Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn ceisio mynd i’r afael â’r holl faterion hyn a mwyafu nifer y cartrefi fforddiadwy a ddarperir drwy sawl ffordd, gan gynnwys cyfyngu ar faint a gwerth i lefelau realistig sy’n debyg i’r rhai a roddir gan Lywodraeth Cymru ar ddatblygiadau tai cymdeithasol.
Fel cyngor, rydym yn cydnabod bod diffyg llety fforddiadwy ar draws y sir ac rydym yn gweithio i fynd i’r afael â yn y ffyrdd canlynol. Yn gyntaf mewn partneriaeth â chymdeithasau tai. Ym Mhowys, ein dyraniad safonol o’r Grant Tai Cymdeithasol, y mae cymdeithasau tai’n cael mynediad iddo drwy gymdeithasau tai i ddatblygu cartrefi newydd, ychydig dros £1.5 miliwn y flwyddyn. Mae hyn wedi cael ei gynyddu’n ddiweddar i dros £7 miliwn y flwyddyn, fel rhan o darged Llywodraeth Cymru i ddatblygu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru o fewn amodau’r Cynulliad Cenedlaethol presennol. Bydd y cyngor yn meddu ar 6 fflat un ystafell wely yng Nghrughywel dros yr wythnosau nesaf, wedi’u datblygu ar ein rhan gan y gymdeithas tai Melin Homes. Yn ogystal, mae arian grant Llywodraeth Cymru hefyd ar gael i awdurdodau lleol, sy’n cynnwys y grant Arian Arloesol rydym wedi cyflwyno cais amdano ar gyfer cynllun yn y Drenewydd a Grant Tai Fforddiadwy yr ydym newydd raglennu ychydig dan £2 filiwn y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd wedi datblygu cartrefi cyngor gan ddefnyddio capasiti benthyg y Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r trefniadau presennol o ran cyfalaf Cyfrif Refeniw Tai yn cyfyngu ar y swm y gall awdurdodau lleol ei fenthyg i ddatblygu cartrefi newydd, ond ym Mhowys, dylem fod yn gallu datblygu oddeutu 80 o gartrefi dros y 4 blynedd nesaf. Os bydd y nenfwd benthyg i Bowys yn cael ei godi, rydym yn gobeithio datblygu nifer sylweddol yn fwy o gartrefi i ddiwallu anghenion ein cymunedau.
Ar hyn o bryd, mae’r Gwasanaeth Tai yn y broses o ddiweddaru Asesiad o’r Farchnad Tai Lleol a fydd yn helpu’r cyngor i gyfeirio buddsoddiad cymdeithas tai a’r cyngor i ardaloedd â’r angen mwyaf am dai.
Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.
Dogfennau ategol: