Sawl cais ar gyfer gwyro llwybrau troed cyhoeddus sydd wedi’u cofrestru gyda’r Cyngor ar hyn o bryd a sawl un sydd ar gyfer gwyriadau allan o fuarthau fferm gweithiol?
Cofnodion:
Sawlcais ar gyfer dargyfeiriadau llwybrau cyhoeddus mae’r Cyngor wedi’i gofrestru ar hyn o bryd a sawl un sy’n ddargyfeiriadau o ffermydd gweithiol?
Ateb
Cefndir:
Mae’r cwestiwn a ofynnwyd gan y Cynghorydd Williams yn cyfeirio at geisiadau i ddargyfeirio hawliau tramwy cyhoeddus. Cyflawnir dargyfeirio, diddymu a chreu hawliau tramwy cyhoeddus yn gyffredinol drwy Orchymyn Llwybr Cyhoeddus yn gyffredinol. Dyma’r math o Orchymyn gyfreithiol sy’n caniatáu gwneud newidiadau gwirfoddol i lwybr cyhoeddus, er na ellir ei defnyddio i newid cilffordd sydd ar agor i draffig.
Gall Gorchmynion Llwybr Cyhoeddus fod yn offeryn defnyddiol iawn i’r Cyngor, wrth reoli a gwella’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus. Fodd bynnag, mae gwneud y Gorchmynion hyn yn b?er dewisol, nid yn ddyletswydd statudol. Gall y Cyngor ddechrau’r cynnig ei hun; gall y Cyngor hefyd ddewis derbyn ceisiadau ar gyfer Gorchmynion Llwybr Cyhoeddus gan aelodau’r cyhoedd, ond nid oes rhaid iddo wneud hynny.
Nid yw’r gyfraith yn gosod unrhyw amserlen y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â cheisiadau unigol ar gyfer Gorchmynion Llwybr Cyhoeddus. Nid yw chwaith yn gorfod rhoi unrhyw sicrwydd y bydd ceisiadau’n llwyddiannus. Mae’r broses yn ddemocrataidd iawn ac yn agored i her ffurfiol, lle gall y penderfyniad gael ei wneud gan yr Arolygiaeth gynllunio (nid y Cyngor). Gall hyd yn oed cynigion heb wrthwynebiad a heb fod yn gymhleth gymryd hy at 6 mis i’w cwblhau, oherwydd y gweithdrefnau y mae’n rhaid eu dilyn.
Nid oes unrhyw swyddog dynodedig yn gweithio ar waith achos Gorchmynion Llwybr Cyhoeddus yn unig. Mae’n un o sawl galw sy’n cystadlu am amser swyddogion a rhaid i waith achos statudol gael ei flaenoriaethu. O ganlyniad, mae’r amser sydd ar gael i brosesu ceisiadau ar gyfer dargyfeirio hawl tramwy cyhoeddus wedi bod yn gyfyngedig ac yn parhau i fod yn gyfyngedig iawn. Yn anffodus, mae hyn wedi golygu ôl-groniad o geisiadau’n aros i gael eu prosesu.
Caiff achosion Gorchymyn Llwybr Cyhoeddus unigol gael eu dyrannu yn ôl blaenoriaeth, yn unol â’r ymagwedd at flaenoriaethu a gyflwynwyd gerbron y Pwyllgor Hawliau Tramwy yn 2010. Yn y cyfnod hwn, pan fo gofyn am gyngor cyn cyflwyno cais, cynghorir ymgeiswyr ar lefel gyffredinol y flaenoriaeth a roddir i bob math o gais a’r amserlen debygol ar gyfer ystyried eu cais. Rhoddir blaenoriaeth ganolig i ddargyfeirio llwybrau y tu allan i ffermydd gweithiol.
I geisio lleihau’r ôl-groniad o geisiadau a’r rhwystredigaeth a brofir gan ymgeiswyr, mae’r Gwasanaethau Cefn Gwlad wedi bod yn datblygu system i ddatblygwyr gynnal eu hymgynghoriad cychwynnol eu hunain, ar ôl cyfarfod safle gyda swyddogion. Oherwydd bod hynny wedi bod yn lled-lwyddiannus, mae bellach yn cael ei ehangu i ymgeiswyr eraill, gyda’r rhai sydd wedi bod yn aros hwyaf yn cael cynnig y cyfle hwnnw’n gyntaf.
Sefyllfa bresennol:
Ar hyn o bryd, mae cyfanswm o 182 o geisiadau ar gyfer Gorchmynion Llwybr Cyhoeddus ar y ffeil ar gamau gwahanol o gael eu prosesu. Gydag adnoddau a phrosesau presennol, rhagwelir bod hyn yn cynrychioli 10-11 o flynyddoedd o waith. O’r rheiny, mae 53yn gynigion i symud llwybrau o ffermydd gweithiol.
Mewn ymateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Williams ar yr hyn y gallai gael ei wneud i gyflymu’r broses, dywedodd Deiliad y Portffolio fod gan y gwasanaeth adnoddau cyfyngedig a’i fod yn gorfod mwyafu ar ei adnoddau drwy weithio gydag ymgeiswyr.
Dogfennau ategol: