Mae’rgwaith o fewn Gwasanaethau Plant yn gosod galwadau trwm, dwys, emosiynol ac ar brydiau risg uchel ar staff o fewn Gwasanaethau Plant. Adroddir bod salwch staff wedi bod ar brydiau, rhwng 25% a 50% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n ymddangos bod yna gydberthynas rhwng lefelau salwch a’r galwadau cynyddol ar weithwyr i gefnogi pobl ifanc. Mae gweithiwr cymdeithasol yn cael ei neilltuo ar gyfer pob unigolyn ifanc ac mae’r diffyg dilyniant yn achosi niwed. Pa gymorth sy’n cael ei gynnig i’r aelodau hynny o staff o ran goruchwyliaeth, adnoddau a gwell lefelau staffio, felly y gallant gynnig cymorth cywir a diogel i’n pobl ifanc bregus.
Cofnodion:
Mae’r gwaith i’r staff rheng flaen yn y Gwasanaethau Plant yn anodd yn emosiynol, yn ddwys ac yn risg uchel o bryd i’w gilydd. Adroddwyd y bu absenoldeb staff oherwydd salwch, ar adegau, rhwng 25% a 50% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ymddengys bod cydberthynas rhwng lefelau salwch a’r galw cynyddol a roddir ar weithwyr sy’n cefnogi pobl ifanc. Rhoddir gweithiwr cymdeithasol i bobl person ifanc ac mae’r diffyg dilyniant yn niweidiol. Pa gefnogaeth sy’n cael ei chynnig i’r aelodau hyn o ran goruchwyliaeth, adnoddau a lefelau staffio gwell, fel y gallant gefnogi’n pobl ifanc ddiamddiffyn yn gywir ac yn ddiogel?
Ateb
O’n cofnodion, dyma’r achlysuron a’r ganran o absenoldeb salwch yn y Gwasanaethau Plant dros y flwyddyn ddiwethaf-
|
|
|
Hydref-16 |
35 o achlysuron |
17.59% |
|
|
|
Tachwedd-16 |
35 o achlysuron |
17.86% |
|
|
|
Rhagfyr-16 |
35 o achlysuron |
18.42% |
|
|
|
Ionawr-17 |
40 o achlysuron |
21.16% |
|
|
|
Chwefror-17 |
35 o achlysuron |
19.02% |
|
|
|
Mawrth-17 |
39 o achlysuron |
20.21% |
|
|
|
Ebrill-17 |
27 o achlysuron |
13.92% |
|
|
|
Mai-17 |
29 o achlysuron |
14.57% |
|
|
|
Mehefin-17 |
25 o achlysuron |
12.38% |
|
|
|
Gorffennaf-17 |
24 o achlysuron |
11.65% |
|
|
|
Awst-17 |
23 o achlysuron |
11% |
|
|
|
Medi-17 |
19 o achlysuron |
8.88% |
Mae’r gefnogaeth sydd ar gael i staff yn cynnwys y canlynol-
· Cyfarfodydd goruchwylio yr ymgymerir â hwy gan reolwyr llinell.
· Ymgymerir â chyfarfodydd IPR a’u cofnodi ar Trent eu bod yn cymryd rhan.
· Gweithio/ymddeol hyblyg- (patrwm gwaith 9 niwrnod mewn pythefnos i helpu gyda chydbwysedd cartref/gwaith.)
· Cynlluniau TOIL/ Gwyliau Blynyddol/ Oriau Hyblyg
· Polisi Absenoldeb Cynhwysfawr- Mamolaeth, Tadolaeth a Chefnogi Rhieni sy’n Gweithio
· Proses Gallu Perfformiad os nad yw’n perfformio yn ei rôl – cefnogaeth i sicrhau ei fod yn gweithio i safon dderbyniol.
· Hyfforddiant a mentora.
· Hyfforddiant a datblygu staff.
· Timau Lleol – mae Rheolwyr Tîm, Rheolwyr Tîm Cynorthwyol a swyddi eraill bellach wedi’u penodi yn y gwasanaeth i ddarparu adnoddau a chefnogaeth ychwanegol.
· Mabwysiadu a Maethu – Ymgymerwyd â gwaith ailstrwythuro ac fel rhan o hyn, ystyriwyd capasiti yn y tîm a chaiff hwn ei adolygu’n barhaus.
· Golwg y Bannau- Staff cefnogi ar wait hi helpu gyda’r diffyg staffio lle y bo angen.
· Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso a phobl gefnogi drwy’r Radd Gwaith Cymdeithasol.
· Cefnogi staff nad ydynt yn gymwys a’r opsiwn i ddechrau yn y maes Gwaith Cymdeithasol.
· Lefelau Staffio – Cynhaliwyd adolygiadau yn yr holl lefelau gwasanaeth dros y 12 mis diwethaf ac mae mwy o waith yn cael ei wneud yn hyn o beth. Mae bylchau mewn swyddi’n defnyddio staff asiantaeth – rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei leihau a thalu sylw iddo yn y dyfodol.
Salwch
· Cyfathrebu â staff yn ystod absenoldeb salwch.
· Ymgymerir â chyfarfodydd llesiant â staff yn unol â’r polisi absenoldeb salwch.
· Cynigir mynediad i Wasanaeth Cwnsela’r PCC i’r holl staff.
· Mynediad i’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol os oes angen.
· Ymgymerir ag asesiadau risg â’r staff.
· Cyfle i gymryd gwyliau blynyddol i barhau ar gyflog llawn ar gais.
Mewn ymateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Williams am y rheswm pam nad oedd y mesurau hyn wedi’u rhoi ar waith nes nawr, gwnaeth Deiliad y Portffolio gydnabod bod angen i’r gwasanaeth wneud yn well wrth gefnogi staff.
Dogfennau ategol: