Cofnodion:
Heddiw (12/7/17), deallais fod tri dyn yn ardal Aberhonddu yn cysgu allan gyda dim ond pebyll i’w gwarchod. Ni all y dynion hyn gael gafael ar dai priodol oherwydd nas ystyrir nhw’n ‘flaenoriaeth’.
Gyda newidiadau pellach yn digwydd i’r Lwfans Tai Lleol, yn enwedig i rai dan 35 oed, a yw’n bosibl i’r sefyllfa gywilyddus hon waethygu.
A wnaiff y Cabinet edrych ar frys ar y tri achos y mae’r cwestiwn hwn yn tynnu sylw atynt ac a wnaiff yr Aelod Cabinet asesu’r angen am ddarpariaeth hostel yn y Sir?
Ateb
Fe’m hysbyswyd gan Swyddogion eu bod yn ymwybodol o ddau ddyn sydd ar hyn o bryd yn byw mewn pebyll yn Aberhonddu. Fe wnaeth Swyddogion helpu unigolyn arall a arferai fyw mewn pabell i lety dros dro tua mis yn ôl.
Fe’m hysbyswyd bod Swyddogion wedi bod mewn cysylltiad aml â’r ddau unigolyn ac rwyf wedi gofyn i’r Cyng Matthew Dorrance gael gwybodaeth am y cysylltiadau y cafodd swyddogion gyda nhw.
Mae’r Cyng Matthew Dorrance yn iawn yngl?n â chyflwyno newidiadau yn y system fudd-daliadau, a ddechreuodd ym mis Ebrill 2012 ac a estynnodd Cyfradd Llety a Rennir y Lwfans Tai Lleol (LHA) i bob unigolyn sengl dan 35 oed (arferai fod ar gyfer pobl sengl dan 25 oed tan nawr). Ar hyn o bryd, mae Cyfradd Llety a Rennir yr LHA yn Aberhonddu yn £45.90 yr wythnos. Mae ymestyn Cyfradd Llety a Rennir yr LHA i rai dan 35 oed wedi arwain at ostyngiad yn nifer yr eiddo rhent preifat sydd ar gael i bobl sengl dan 35 oed sy’n derbyn budd-daliadau eu rhentu. Hefyd, o fis Ebrill 2018 ymlaen, caiff Cyfradd Llety a Rennir yr LHA ei hymestyn i rai dan 35 yn y sector tai cymdeithasol, gan ostwng ymhellach faint o eiddo sydd ar gael i bobl dan 35 oed sy’n derbyn budd-dal eu rhentu.
Mae’r Cyngor wrthi’n cynnal adolygiad o ddigartrefedd yn unol ag A.50 Deddf Tai (Cymru) 2014. Bydd hwn yn ystyried amrywiol ffactorau a gaiff eu datgan yn y ddeddfwriaeth ac yn Arweiniad Llywodraeth Cymru a bydd yn arwain at lunio Strategaeth Ddigartrefedd erbyn mis Rhagfyr 2018. Er bod gan y cyngor stoc o letyau dros dro yn y sir, naill dan berchnogaeth neu reolaeth uniongyrchol neu danberchnogaeth neu reolaethasiantaethau eraill (megis cymdeithasau tai ac asiantaethau sector gwirfoddol), bydd yr adolygiad yn ystyried a oes angen i’r cyngor a’i bartneriaid ddarparu lletyau dros dro ychwanegol. Yr un mor bwysig, mae arno hefyd angen ystyried darparu a rheoli lletyau a rennir yn y stoc tai rhent cymdeithasol (y cyngor a chymdeithasau tai fel ei gilydd) i ddarparu lletyau addas sy’n fforddiadwy i bobl sengl dan 35 oed sy’n derbyn budd-daliadau.
I ateb cwestiwn atodol y Cynghorydd Dorrance a fyddai’r Deilydd Portffolio yn rhoi ymrwymiad i’r Cyngor nad ystyrir bod darparu llety hostel i ddynion ifanc yn un o’i flaenoriaethau, dywedodd y Deilydd Portffolio y byddai’n edrych i mewn i amgylchiadau’r dynion yr oedd y Cynghorydd Dorrance wedi tynnu ei sylw atynt. Roedd yn bryderus nad oedd y gofrestr ddigartrefedd yn gallu ymdopi â’r niferoedd sy’n ceisio cymorth a rhoddodd addewid i ystyried llety hostel a rhoi gwybod i’r aelodau am unrhyw ddatblygiadau.