A all y Cabinet gwneud datganiad ar sut mae’n cyflawni cyfrifoldebau’r Cyngor hwn fel rhan o’r Cyfamod Lluoedd Arfog?
Cofnodion:
A wnaiff y Cabinet ddatganiad ar sut mae’n cyflawni cyfrifoldebau’r Cyngor fel rhan o Gyfamod y Lluoedd Arfog?
Ateb
Mae Cyfamod Cymunedol Lluoedd Arfog Powys yn ymrwymiad ffurfiol i gyd-gefnogaeth rhwng cymuned sifiliaid a chymuned lluoedd arfog y Sir, gyda ffocws arbennig ar blant teuluoedd milwrol.
Fe’i llofnodwyd yn Nigwyddiad Cenedlaethol Diwrnod y Lluoedd Arfog yn Dering Lines Aberhonddu ddydd Iau 4ydd Awst 2012.
Yn ganolog i’r cyfamod ceir cyd-ddealltwriaeth bod teuluoedd y lluoedd arfog yn cael yr holl gefnogaeth sydd ar gael iddynt gan y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol ym Mhowys.
Ei nod yw cynyddu ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio ar gymuned y lluoedd arfog a sicrhau nad yw teuluoedd unigolion sy’n dal i wasanaethu na chyn-filwyr yn y Sir dan anfantais o unrhyw fath – drwy wella mynediad i dai, gofal iechyd a chyflogaeth er enghraifft.
Mae llofnodi’r cyfamod hefyd yn rhoi cyfle i Bowys ymgeisio am nawdd sydd ar gael i’r DU gyfan.
Er 2012 mae Cyfamod Cymunedol yLluoedd Arfog wedi esblygu ac mae ffordd newydd o weithio bellach ar waith. Ceir yn awr Fyrddau Gweinyddu Datganoledig Rhanbarthol lle saif Partneriaethau Rhanbarthol y Cyfamod. Yn y rhan fwyaf o achosion cânt eu diffinio yn ôl ardaloedd y Byrddau Iechyd, ond mae Powys yn unigryw oherwydd y saif ar ei phen ei hun oherwydd maint y Sir.
Rydym bob amser wedi gweithio mewn Partneriaeth gyda:
• Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
• Gr?p NPTC
• y Lleng Brydeinig Frenhinol
• PAVO
• Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
• Gr?p Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru
Ffurfiwyd partneriaethau newydd i ddatblygu a gwella nodau Cyfamod Cymunedol yLluoedd Arfog:
· Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin
· Cyd-gyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu Sefydliadol (Gweithlu a Datblygu Sefydliadol)
· SSAFA
· Heddlu Powys Dyfed
· Gwasanaeth Tân Cymru a’r Gorllewin
Mae Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yn gweithio gyda Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin ar gyfleoedd gwaith yn y Bwrdd Iechyd Lleol a Chyngor Sir Powys gyda phriodau personél y Lluoedd Arfog; mae llawer ohonynt yn meddu ar y sgiliau sy’n ofynnol yn y ddau sefydliad.
Gwaith parhaus gyda Fforwm Iechyd Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr Powys, gan amlygu a chodi materion megis PTSD, gan alluogi meddygon teulu i fod yn ymwybodol eu bod yn trin cyn-bersonél y lluoedd a’u cyfeirio’n briodol.
Cefnogi Plant teuluoedd Milwrol mewn Addysg yw’r rhan y mae NPTC yn ei chwarae yn y bartneriaeth. Drwy gyfrwng y bartneriaeth gwnaed cysylltiadau ag ysgol leol yn Aberhonddu a llwyddodd i ennill nawdd, gan dynnu sylw at bryderon plant teuluoedd milwrol.
Mae dau Ddiwrnod Cymunedol yn cael eu trefnu ar gyfer 9fed Medi yn y Barics, Aberhonddu ac ar 23ain Medi yn y Parc, y Drenewydd.
Rhagwelir y bydd pawb sy’n rhan o’r bartneriaeth yn cael eu cynrychioli ar y ddau ddiwrnod, yn bennaf i arddangos y bartneriaeth ar waith a’r Cyfamod Lluoedd Arfog, ond hefyd i gynnal diwrnod allan hwyliog i’r teulu. Cafwyd cyllid drwy’r Cyfamod i gynnal y digwyddiad hwn drwy Gronfa Grantiau Bach Cyfamod yLluoedd Arfog, gan mai dyma yw hanfod y Cyfamod, dwyn y Lluoedd Arfog a’r cyhoedd ynghyd.
I ateb cwestiwn atodol y Cynghorydd Dorrance, cadarnhaodd yr Arweinydd fod cynllun i ganiatáu i gyn-filwyr ddefnyddio pyllau nofio a chael aelodaeth gym am ddim, yn seiliedig ar gynllun tebyg sy’n rhedeg yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf.
Dogfennau ategol: