Mae rhai eiddo preswyl ym mherchnogaeth Cyngor Sir Powys yn ymddangos fel eu bod yn cael eu trin gydag ychydig iawn o barch gan y tenantiaid ac o ganlyniad maen nhw’n dirywio sy’n gost tymor hir i’r cyngor, tra ar yr un pryd yn achosi problemau ar gyfer tenantiaid gerllaw:
A all yr Aelod Portffolio amlinellu gweithdrefn y cyngor ar gyfer:
a. Adnabodeiddo sydd â phroblemau
b. Aoes prosesau archwilio rheolaidd yn eu lle.
c. Pa gamau a gymerwyd yn erbyn tenantiaid sy’n achosi problemau yn ystod y 12 mis diwethaf?
Cofnodion:
Mae’n ymddangos bod rhai eiddo preswyl sy’n eiddo i Gyngor Sir Powys yn cael eu trin ag ychydig iawn o barch gan y tenant ac o’r herwydd maent yn dirywio gan arwain at gost tymor hir i’r cyngor, ac at broblemau i denantiaid cyfagos hefyd.
A allai’r Deilydd Portffolio amlinellu trefn y cyngor ar gyfer:
Ateb
Mae cymdogion niwsans yn rhywbeth y mae pob landlord (gan gynnwys landlordiaid cymdeithasol fel y cyngor) wedi gorfod delio ag ef ers cryn amser a dros y degawdau diwethaf mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth i alluogi landlordiaid cymdeithasol i weithredu yn erbyn tenantiaid o’r fath. Mae llawer o’r sylw a’r ddeddfwriaeth wedi canolbwyntio ar denantiaid sy’n gyfrifol am droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n cael effaith niweidiol ar eu cymdogaeth. Fel awdurdod tai lleol, mae gennym gyfrifoldeb:
· i’n tenantiaid sy’n rhentu eu cartref gan y cyngor a’r rheini sy’n byw ar ein hystadau
· i bobl sy’n ddigartref neu sydd dan fygythiad o ddigartrefedd.
Hefyd, fel sefydliad corfforaethol mae gennym hefyd gyfrifoldebau i ddiogelu oedolion a phlant agored i niwed, ac mae’r holl gyfrifoldebau hyn yn lliwio ein hymateb fel landlord i bob achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
O ran pob cwestiwn a ofynnwyd
a. Mae pob Swyddog Opsiynau a Rheoli Tai (HMOO) yn delio ag ardal o oddeutu 300 o gartrefi ac maent oll yn archwilio eu hardaloedd yn rheolaidd, naill ai fel rhan o archwiliad ffurfiol o ystâd, neu yng nghwrs eu dyletswydd pan ymwelant â’r ystâd. Mae ein contractwyr, adrannau eraill, Cynghorwyr ac, wrth gwrs, cymdogion yn adrodd am broblemau wrthym.
b. Nid oes trefn archwilio wedi’i threfnu ar waith, gan fod ar wahanol ardaloedd tai angen lefelau gwahanol o fewnbwn ar wahanol adegau, ond ymdrechwn i archwilio’r holl ardaloedd tai yn rheolaidd. Os ydym yn ymwybodol o denantiaid nad ydynt yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth, yn enwedig i gadw eu heiddo mewn cyflwr da, bydd tenantiaid o’r fath yn cael ymweliadau ac archwiliadau amlach o’u cymharu â thenantiaid sy’n cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth.
c. Ni allwn ddarparu ffigur am y camau gweithredu’r ydym wedi’u cymryd yn erbyn “tenantiaid problemus” gan nad ydym yn defnyddio’r term “tenantiaid problemus” ac nid yw hyn yn rhywbeth yr ydym yn casglu data arno fel mater o drefn. Yn gyffredinol, ceir amrywiol gamau gweithredu y gallwn eu cymryd yn erbyn tenantiaid sy’n torri amodau eu cytundeb tenantiaeth ac sy’n achosi niwsans a diflastod i bobl eraill, mae’r rhain yn amrywio o rybuddion, rhoi cefnogaeth, gwaith aml-asiantaeth i roi sylw i anawsterau’r tenantiaid, cael ymgymeriadau a/neu waharddebau i gymell y tenant i gymryd camau neu i’w hatal rhag cymryd camau ac yn olaf gamau gweithredu i adfeddiannu’r cartref.
Mae rhai tenantiaid yn achosi anawsterau yn y gymuned leol a’n dull gweithredu yw ceisio gweithio gyda’r tenantiaid hyn i’w helpu i roi sylw i’r anawsterau maent yn eu hwynebu, sydd wedi arwain at y problemau y mae eu cymdogion yn eu hwynebu. Mewn nifer o’r achosion hyn, rydym yn canfod bod ar y tenant a/neu aelodau’r teulu angen cefnogaeth gan fod yr aelwyd yn wynebu nifer o heriau. Pan rydym yn wynebu tenant sy’n achosi problemau i’w cymdogion, rydym fel arfer yn dilyn y camau isod, gan roi’r pwyslais ar gael cydbwysedd rhwng gorfodi a chefnogi:
· Siarad gyda’r tenant, gwneud iddynt ddeall yr hyn a ddisgwylir ganddynt, beth yw ein pryderon a beth mae angen iddynt wneud i unioni’r sefyllfa.
· Deall ganddynt a oes unrhyw anawsterau neu rwystrau sy’n eu hatal rhag rheoli’r denantiaeth mewn ffordd sy’n dderbyniol
· Gweithio gydag asiantaethau cefnogi fel sy’n briodol i’w galluogi i gyrraedd y safonau disgwyliedig (nid oes ar bob achos angen cefnogaeth)
· Eu rhybuddio bod eu tenantiaeth dan fygythiad os nad ydynt yn cydymffurfio – gwneud hyn ar lafar ac yn ysgrifenedig
· Ymweliadau dilynol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio
· Bygwth camau cyfreithiol (gwaharddeb neu weithredu i droi allan fel arfer)
Nid yw’n hawdd cymryd camau meddiannu eiddo yn erbyn tenant sy’n caniatáu i’w gartref fynd â’i ben iddo oherwydd mai sail ddewisol yw’r Sail ar gyfer Meddiannu (Sail 3), fel y nodir yn Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1985, ac mae’n annhebygol y bydd Barnwr Llys Sirol yn caniatáu gorchymyn meddiannu i’r landlord, yn enwedig os oes gan y tenant anawsterau, megis problemau iechyd meddwl neu os oes gan y tenant blant dibynnol yn byw ar yr aelwyd.
Ni chafwyd cwestiwn atodol.
Dogfennau ategol: