Mae’r diffyg yn y cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn cynrychioliaeth ddemocrataidd yng Nghymru yn arswydus. O’r 1,254 o Gynghorwyr newydd a etholwyd ym mis Mai, dim ond 359 oedd yn ferched. Mae hyn yn newid y cynrychiolaeth flaenorol o 26% i 27% o ferched - cynnydd sydd ar raddfa truenus yng Nghymru.
Fodd bynnag, mae’r darlun ym Mhowys yn well. Erbyn hyn mae 31.5% o’r Cyngor yn ferched, sy’n dal i fod yn 20% yn brin o ran cydbwysedd ond mae’n werth dathlu’r cynnydd. Hoffwn longyfarch y cyngor ar benodi ei Arweinydd benywaidd cyntaf ac yn sgil hynny dyblu arweinyddiaeth fenywaidd y Cyngor o 9% i 18%.
(Ystadegau y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Casglwyd yn uniongyrchol ac o ‘Pwy sy’n Rhedeg Cymru, 2017’)
Er hynny, dim ond 3 o ferched allan o 10 aelod sydd ar y Cabinet presennol.
Mae hyn yn codi cwestiwn i’r Arweinydd:
A allai Arweinydd y Cyngor fod wedi gwneud rhagor i sicrhau bod merched ym Mhowys yn cael eu cynrychioli’n deg ar y Cabinet?
Cofnodion:
Mae’r diffyg cydbwysedd rhywiau mewn cynrychiolaeth ddemocrataidd yng Nghymru yn echrydus. O’r 1,254 o Gynghorwyr newydd a etholwyd ym mis Mai, 359 yn unig sy’n fenywod. Mae hyn wedi codi’r gynrychiolaeth fenywod flaenorol o 26% i 27% - cyfradd gynnydd druenus i Gymru.
Er hynny, mae’r darlun ym Mhowys yn well. Menywod yn awr sydd i gyfrif am 31.5% o’r Cyngor, ac er bod hyn yn dal i fod 20% oddi ar gydbwysedd, mae yn gynnydd gwerth ei ddathlu. Hoffwn yn benodol longyfarch y cyngor am benodi’r fenyw gyntaf fel ei arweinydd, gan alluogi felly i arweinyddiaeth Cynghorau ar draws Cymru ddyblu o 9% i 18%.
(Ystadegau gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Cafwyd yn uniongyrchol o Pwy sy’n rhedeg Cymru, 2017)
Er hynny, nid oes yn y Cabinet presennol ond 3 menyw allan o 10 aelod.
Mae hyn yn codi cwestiwn i’r Arweinydd:
A allai Arweinydd y Cyngor fod wedi gwneud mwy i sicrhau bod menywod ym Mhowys yn cael eu cynrychioli’n deg yn y Cabinet?
Ateb
Wrth ddewis aelodau’r Cabinet roedd nifer o agweddau yr oeddwn eisiau eu hystyried. Ni chaniateir inni fel Cyngor ond cael hyd at 10 aelod Cabinet allan o’r cyfanswm o 73.
Er mwyn darparu trefn lywodraethu sefydlog dros dymor y Cyngor, mae’r 30 aelod Annibynnol yn gweithio ar y cyd â’r 20 yn y gr?p Ceidwadwyr felly caiff aelodau’r Cabinet eu dwyn o’r ddau gr?p.
Teimlwn ei bod yn bwysig iawn i Aelodau Cabinet gael eu dewis o ardal eang ac mae hynny’n golygu cael cynrychiolaeth o’r tair hen sir.
Roedd angen penodi rhai aelodau Cabinet a oedd â phrofiad a dealltwriaeth o naill ai’r Cabinet ei hun neu o’r ffordd y caiff y Cyngor ei redeg ac o’r gwasanaethau a ddarperir. Dewisais bedwar aelod a minnau a oedd yn meddu ar y profiad hwnnw a dewisais hefyd bum Cynghorydd newydd a oedd â phrofiad ac arbenigedd gwahanol i’w cyfrannu. Ceisiais hefyd ddewis o blith yr ystod oedran fel bo Cynghorwyr iau yn cael cyfleoedd.
Roeddwn hefyd yn ymwybodol o’r Gymraeg a phenodais ddau aelod Cabinet sy’n siarad Cymraeg.
Yn sylfaen i’r holl ystyriaethau hyn, roeddwn eisiau rhoi sylw i’r cydbwysedd rhywiau ond hefyd rhoi sylw i’r cydbwysedd rhywiau o fewn y tair hen sir.
Oherwydd swm a sylwedd y gwaith y mae disgwyl i aelodau’r Cabinet ei gyflawni yna roedd yr ystyriaethau amlwg yngl?n â gallu hefyd yn berthnasol.
Gan mai 23 allan o’r 72 o aelodau posibl ym Mhowys sy’n fenywod mae’n bwysig bod menywod hefyd yn cael eu cynrychioli ar grwpiau eraill fel Pwyllgorau Craffu a phwyllgorau eraill ac ar gyrff allanol fel Awdurdod Tân ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Rwy’n credu fy mod, wrth benodi i’r Cabinet, wedi gwneud cymaint ag y gallwn, o fewn ffiniau tegwch a chydraddoldeb i bawb.
Mewn ymateb i gwestiwn atodol y Cynghorydd Durrant ar sut i annog mwy o fenywod i sefyll am etholiad, dywedodd yr Arweinydd ei bod yn cydnabod nad oedd hon yn broblem oedd yn unigryw i Bowys a hithau newydd roi araith ar y mater yn y Fawcett Society. Dywedodd y byddai’n croesawu trafodaeth yn y Cyngor ar y ffyrdd gorau o annog mwy o fenywod i ymgeisio.
Dogfennau ategol: