Cyflwynwyd cynnydd o 50% yn y taliadau am brydau bwyd ac am fynychu canolfannau dydd gofal cymdeithasol ym Mhowys gan y Cabinet cyn diwedd y cyngor blaenorol ac arôl i’r Cyngor Sir osod ei gyllideb ar gyfer 2017 – 18. Rydym o’r farn bod y penderfyniad, a gymerwyd heb rybudd ymlaen llaw nac ychwaith ymgynghoriad gyda defnyddwyr y gwasanaeth a’u gofalwyr, yn gam-ddefnydd o’r broses ac rydym yn galw ar Gabinet presennol y Cyngor i adfer y taliadau i’w lefelau blaenorol ar unwaith.
Cynigydd: Cynghorydd Sir James Gibson-Watt
Eilydd: Cynghorydd Sir Matthew Dorrance
Cofnodion:
Esboniodd y Swyddog Monitro mai ymgais i alw i mewn un o benderfyniadau’r Cabinet oedd y cynnig. Heb greu cynsail, roedd y Deilydd Portffolio wedi cytuno y gellid ei drafod ond esboniodd y Cyngor na allai’r Cyngor wyrdroi’r penderfyniad er y gallai ofyn i’r Cabinet ailedrych arno.
Trafododd y Cyngor y cynnig, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt ac a eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance:
“Cyflwynodd y Cabinet gynnydd o 50% mewn ffioedd am fynychu ac am brydau bwyd mewn canolfannau dydd gofal cymdeithasol ym Mhowys cyn diwedd y cyngor diwethaf ac ar ôl i’r Cyngor Sir osod ei gyllideb ar gyfer 2017-18. Rydym yn credu bod y penderfyniad hwnnw, a wnaed heb rybuddio nac ymgynghori ymlaen llaw gyda defnyddwyr gwasanaethau na’u gofalwyr, yn achos o gamddefnyddio prosesau ac rydym yn galw ar y Cabinet i adfer y ffioedd i’w lefelau blaenorol ar unwaith.”
Wrth siarad o blaid y cynnig dadleuai’r Cynghorwyr Gibson-Watt a Dorrance nas ymgynghorwyd yn briodol â defnyddwyr gwasanaethau a nas cynhwyswyd y cynnig yng nghyllideb 2017-18 yr oedd y Cyngor wedi cytuno arni. Dadleuent y byddai’r ffioedd yn atal y rhai mwyaf agored i niwed rhag mynychu’r canolfannau dydd a rhag cael gafael ar brydau cynnes.
Esboniodd y Deilydd Portffolio Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod y Cyngor, yn 2014, fel rhan o’i gynigion ar gyfer y gyllideb, wedi penderfynu cau canolfannau dydd ond na weithredwyd y penderfyniad ac na chymerwyd yr arbedion. Roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn 2016 yn ei gwneud yn glir y byddai’n achosi cryn galedi i ddefnyddwyr a gofalwyr ac na fyddai’n helpu’r Cyngor i fodloni’r anghenion a aseswyd. Yn ystod yr ymgynghoriad dywedodd pobl y byddent yn barod i dalu mwy am y gwasanaeth yn hytrach na’i golli. Fe wnaeth y Cabinet wyrdroi’r penderfyniad i gau’r canolfannau dydd gan roi’r arbedion yn ôl yn y gyllideb, fodd bynnag, roedd yn rhaid i’r gweithgareddau dydd arbed £150,000. Atgoffodd y Deilydd Portffolio yr aelodau y ceid uchafswm o £70 ar y ffioedd wythnosol a bod asesiadau ariannol yn golygu nad oedd y rhai mwyaf agored i niwed yn gorfod talu.
Cododd dros 10 o aelodau i ofyn am bleidlais gydag enwau’r pleidleiswyr.
Gyda 30 pleidlais i 28 gyda 2 yn ymatal
PENDERFYNWYD galw ar Gyngor y Cabinet presennol i adfer y ffioedd i’w lefelau blaenorol ar unwaith.
Mark Barnes |
Yn absennol |
Myfanwy Alexander |
Yn absennol |
Beverley Baynham |
Ymatal |
Graham Breeze |
Yn erbyn |
Jackie Charlton |
O blaid |
Linda Corfield |
Yn erbyn |
Kelvyn Curry |
Yn absennol |
Aled Davies |
Yn erbyn |
Bryn Davies |
O blaid |
Dai Davies |
Yn erbyn |
Phyl Davies |
Yn erbyn |
Sandra Davies |
O blaid |
Matthew Dorrance |
O blaid |
Emily Durrant |
O blaid |
David Evans |
Yn erbyn |
James Evans |
Yn erbyn |
Liam Fitzpatrick |
Yn erbyn |
Les George |
Yn erbyn |
James Gibson-Watt |
O blaid |
Rosemarie Harris |
Yn erbyn |
Stephen Hayes |
Yn erbyn |
Heulwen Hulme |
Yn erbyn |
Amanda Jenner |
O blaid |
Arwel Jones |
Yn absennol |
David Jones |
Yn erbyn |
Emyr Jones |
Yn erbyn |
Gareth Jones |
Yn erbyn |
Joy Jones |
O blaid |
E Michael Jones |
Yn erbyn |
Michael J Jones |
Ni phleidleisiodd |
Diane Poston-Jones |
O blaid |
Francesca Jump |
O blaid |
Karen Laurie-Parry |
Ni phleidleisiodd |
Hywel Lewis |
Yn erbyn |
Karl Lewis |
O blaid |
Peter Lewis |
Yn absennol |
Sarah Lewis |
Yn erbyn |
Maureen Mackenzie |
Yn absennol |
Iain McIntosh |
Yn erbyn |
Susan McNicholas |
O blaid |
Davis Meredith |
O blaid |
Claire Mills |
O blaid |
Gareth Morgan |
Yn absennol |
John Morris |
O blaid |
Neil Morrison |
O blaid |
Rachel Powell |
Yn erbyn |
William Powell |
Yn absennol |
David Price |
Yn erbyn |
Phil Pritchard |
Yn erbyn |
Gareth Pugh |
O blaid |
Jeremy Pugh |
Yn absennol |
Gareth Ratcliffe |
O blaid |
Lucy Roberts |
Yn erbyn |
Pete Roberts |
O blaid |
Kath Roberts-Jones |
Yn erbyn |
Edwin Roderick |
O blaid |
Daniel Rowlands |
O blaid |
David Selby |
O blaid |
Kathryn Silk |
O blaid |
David Thomas |
O blaid |
Gwynfor Thomas |
Yn erbyn |
Timothy Van-Rees |
Yn erbyn |
Elwyn Vaughan |
O blaid |
Martin Weale |
Yn erbyn |
Jonathan Wilkinson |
Yn erbyn |
Ange Williams |
O blaid |
Gwilym Williams |
Ymatal |
Huw Williams |
O blaid |
Jon Williams |
O blaid |
Michael Williams |
Ni phleidleisiodd |
Roger Williams |
O blaid |
Sarah Williams |
O blaid |