Cefndir
Yn rhinwedd fy swydd fel yr Aelod Portffolio sy'n gyfrifol am Gynllunio yng Nghyngor Sir Powys, rwyf wedi ysgrifennu tair gwaith at Julie James, y Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio, ond heb dderbyn ateb.
Rwyf bellach yn chwilio am y difrifwch ychwanegol, sy'n dod gyda chefnogaeth y Cyngor hwn, i ofyn unwaith eto bod Gwasanaeth Cynllunio Powys yn cael yr hawl i osod ei ffioedd ei hun i'w roi ar y llwybr i adennill ei gostau llawn.
Mae'r sefyllfa ariannol ansicr sy'n wynebu economi'r Deyrnas Unedig a chyllid cyhoeddus yng Nghymru yn cael cyhoeddusrwydd mawr ac yn glir i bawb ei gweld. Mae Cyngor Powys yn trawsnewid ei hun mewn ymgais i ddarparu gwasanaethau ar sail gynaliadwy ac eto nid yw incwm cynyddol o ffioedd, mewn ystod o wasanaethau gan gynnwys cynllunio, yn opsiwn heb ymyrraeth gadarnhaol gan Gaerdydd.
Mae effaith ffosffadau ar ystod o geisiadau cynllunio, a'r rheolau sy'n llywodraethu datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol; sy’n cael eu trosglwyddo i PEDW, wedi effeithio'n ddifrifol ar incwm ffioedd cynllunio Powys ac eto mae gwaith nad yw’n ennill ffioedd fel gorfodaeth gynllunio, wedi parhau i fod yn fywiog, gan gyfrannu at bwysau cyllidebol difrifol.
Mae POSW, Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru wedi lobïo gweision sifil yn yr un modd am gynnydd mewn ffioedd a chamau pellach tuag at adennill costau, ond heb lwyddiant. Mae adolygiad yn Lloegr wedi arwain at gynnydd mewn ffioedd o fis Ebrill 2024 ac mae angen yr adolygiad hir-ddisgwyliedig yng Nghymru bellach i ailgydbwyso'r drefn codi tâl i sicrhau bod y rhai sy’n torri’r rheolau yn talu eu ffordd, yn ogystal ag ymgeiswyr, yn hytrach na chostau gorfodi yn disgyn ar drethdalwyr sydd o dan straen, a thrwy hynny hyrwyddo mwy o degwch yn ein cymunedau.
Felly mae’r Cyngor hwn
Yn gwahodd y Gweinidog i adolygu'r rheoliadau ffioedd ar gyfer Gwasanaethau Cynllunio ar frys i ganiatáu ffioedd lleol i gael eu pennu’n lleol a bod yr egwyddor o adennill costau llawn ar gyfer Rheoli Datblygu yn cael ei gyflawni, ac i ystyried y cynigion canlynol:
· Bod ffioedd ceisiadau cynllunio yn seiliedig ar adennill costau llawn, a’u bod yn cael eu diwygio’n flynyddol yn unol â chwyddiant.
· Dylid dileu ceisiadau "ail gais" am ddim ar ôl tynnu'n ôl neu wrthod gyda ffi o 50% yn lle hynny. Byddai hyn yn hyrwyddo ymgysylltu cyn ymgeisio a chyflwyniadau ceisiadau cynllunio cychwynnol o ansawdd gwell, tra'n mynd i'r afael â chost ariannol o brosesu ceisiadau sy’n cael eu hailgyflwyno.
· Pan fo perchennog tir yn torri rheolaeth gynllunio, dyblu'r ffi am geisiadau ôl-weithredol, lle mae datblygiad wedi mynd yn ei flaen heb gais am ganiatâd cynllunio.
· Ffioedd ceisiadau cynllunio yn seiliedig ar adennill costau llawn, a’u bod yn cael eu diwygio’n unol â chwyddiant.
· Pan fo perchennog tir yn torri rheolaeth gynllunio ond yn gwrthod cyflwyno cais ôl-weithredol ac nad yw camau gorfodi yn hwylus, rhoddir pwerau i'r Awdurdod Cynllunio lleol ddirwyo'r sawl sydd wedi tramgwyddo, o bosibl ddyblu'r ffi cais cynllunio perthnasol.
· Dileu'r gofyn i hysbysebu ceisiadau cynllunio unigol yn y cyfryngau argraffedig neu drosglwyddo’r gost o wneud hynny i ymgeiswyr.
· Oni bai eu bod yn cael eu hariannu'n briodol, ni ddylai fod yn ofynnol i Awdurdodau Cynllunio gyflwyno Adroddiad Effaith Lleol ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol, (Nid yw cytundebau perfformiad cynllunio gyda datblygwyr yn cynnwys y cyfle i adennill costau llawn) ac ni ddylai fod yn "ofynnol" iddynt fynychu Archwiliad Cyhoeddus.
· Mae'n ofynnol i dirfeddianwyr sy'n hyrwyddo safleoedd o fewn y CDLl dalu ffi briodol. Bydd hyn nid yn unig yn helpu'r Cyngor yn ariannol ond y gobaith yw y bydd yn sicrhau bod y rhai sy'n cyflwyno safleoedd o ddifrif yngl?n â'u cyflawni a’r manteision y byddai’r dyraniadau, ar gyfer tai fforddiadwy ac ati yn dod i’n cymunedau.
Cynigirgan y Cynghorydd Sir Jake Berriman
Eiliwydgan y Cynghorydd Sir Karl Lewis
AsesiadAriannol Y cynnig yw lobïo Llywodraeth Cymru a gellir ei reoli o fewn adnoddau presennol. Bydd swyddogion yn gallu darparu cymorth ar gyfer y gweithgaredd hon fel rhan o’u rôl. |