Cofnodion:
Cyflwyno Adroddiad Cyllideb y CBC/CJC ar gyfer 2023/24 sy’n cynnwys cynllunio strategol ac elfen graidd fel y nodir yn Rheoliadau’r CBC/CJC.
Cyllideb arfaethedig o £175,000 sy'n gynnydd bychan ar y flwyddyn gyfredol sef £160,000.
Pwyntiau allweddol perthnasol -
Mae Cyd-bwyllgor Corfforaethol Canolbarth Cymru yn endid cyfreithiol ar wahân ac felly'n gweithredu er ei fudd ei hun.
Mae materion heb eu datrys yn cynnwys TAW, materion Treth Gorfforaeth a Thrysorlys EM. Mae’r rhain yn agos at gael eu cwblhau ac mae rhai heriau gweithredol hefyd o ystyried bod y CBC/CJC yn endid cyfreithiol ar wahân.
Nodwyd trafodaethau’r Cynllun Datblygu Strategol yn gynharach a chynghorwyd nad dyma’r amser i dyfu Cyllideb y CBC/CJC hyd nes y bydd cyfeiriad pendant yn cael ei gadarnhau.
Cafwyd trafodaethau ynghylch y cworwm sydd ei angen ar gyfer y cyfarfod a mynegwyd pryderon ynghylch capasiti yn APCBB.
Crynodeb
Cyllideb gyffredinol o £175,000, wedi’i rhannu’n elfen cynllunio strategol ac yn elfen o’r gyllideb gyffredinol graidd fel y nodir yn y rheoliadau ac oherwydd yr ansicrwydd o ran gofynion a chyfarwyddiadau ac ati a lefelau hyder o ran gwerth am arian pan ddaw at y Cynllun Datblygu Strategol a’r RTP a drafodwyd yn gynharach. Roedd cyllideb y llynedd yn £160,000 felly dim ond cynnydd bach sydd yna.
Nodwyd bod gallu o fewn y rheoliadau i adolygu’r gyllideb o fewn blwyddyn ariannol felly os bydd angen yn 2023/24 lle mae rhai o ofynion y dyfodol yn dod yn gliriach a’n bod yn fodlon ar y cyfeiriad yr ydym yn mynd iddo, gan gymryd i ystyriaeth yr heriau sylweddol o ran y cyllidebau ym mhob awdurdod, rydym yn gallu cynyddu'r gyllideb o fewn y flwyddyn os oes angen.
Byddai unrhyw danwariant gan y CBC/CJC ar ddiwedd y flwyddyn yn mynd i gyfrif Cronfa Wrth Gefn CBC/CJC Canolbarth Cymru a byddai angen ei rannu'n elfen cynllunio strategol ac yn elfen gyffredinol.
Cronfa Bensiwn
Mae angen enwebiadau ar gyfer gweinyddu pensiwn ar gyfer y CBC/CJC.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn dod o dan Gronfa Bensiwn Dyfed a weinyddir gan Gyngor Sir Caerfyrddin ac ni fyddai’n briodol i’r gronfa bensiwn fod yn awdurdod gweinyddu ar gyfer CBC/CJC Canolbarth Cymru gan nad yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhan o’r CBC/CJC ei hun ac felly yn ddiofyn Cronfa Bensiwn Powys fyddai’r Corff Gweinyddu mwyaf amlwg ar gyfer y Gronfa Bensiwn.
Dylid ymateb i Lywodraeth Cymru ar y sail pe bai’r CBC/CJC yn dod yn gyflogwr ar ryw adeg yn y dyfodol yna Cronfa Bensiwn Powys fyddai’r Pensiwn dynodedig.
Mae Atodiad A yr adroddiad yn nodi manylion y £175,000, wedi’i rannu i ychydig dros £131,000 sef y gyllideb gyffredinol ac ychydig o dan £44,000 sef yr elfen cynllunio strategol.
Mae’n ariannu dwy swydd sef swydd Rheolwr Cyflawni’r Rhaglen Strategol a Swyddog Cefnogi Rhaglen y CBC/CJC a chostau cymorth eraill boed yn Wasanaethau Democrataidd, cymorth Cyfreithiol neu gymorth Ariannol.
Holodd y Cynghorydd James Gibson-Watt ynghylch argymhellion 10.1 – pe na bai rhan dau yr adroddiad yn cael ei datrys yn foddhaol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bod trafodaethau pellach i'w cynnal gyda Swyddogion y Llywodraeth.
Holodd y Cynghorydd Gareth Ratcliffe am fformiwla cyllideb y Cynllun Strategol ar gyfer codi ymwybyddiaeth wrth symud ymlaen. Cadarnhaodd y Swyddog Adran 151 nad oedd cyfraniad APCBB yn cynnwys unrhyw gostau cynnal.