Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad ar ran yr Is-bwyllgor Cynllunio Datblygu Strategol (CDS) gan y Cynghorydd Jake Berriman, Cadeirydd Is-bwyllgor y CDS.
Gofynnir am adborth gan aelodau’r CBC/CJC mewn perthynas â gohebiaeth (a ddosbarthwyd y bore yma) gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyllid ar gyfer Cynlluniau Datblygu Strategol.
Trosolwg byr
Mae gan y CBC/CJC rwymedigaeth i baratoi Cynllun Datblygu Strategol ar draws Canolbarth Cymru i ddod â chynllun ynghyd trwy aelodau perthnasol y CBC/CJC gyda'r Awdurdodau Lleol cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Cyfarfu’r is-bwyllgor ar 14 Hydref a 2 Rhagfyr. Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl ac roedd llythyr wedi'i ysgrifennu at Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd. Roedd y llythyr yn amlinellu’r sefyllfa ac yn gofyn am ganiatâd i Bowys gael yr hawl i beidio â chadw at ei ddyddiad gorffen terfynol o ran ei gynllun datblygu lleol mabwysiedig presennol, er mwyn gallu neilltuo adnoddau ar gyfer cynhyrchu'r cynllun newydd.
Yn y cyfarfod ar 2 Rhagfyr, nododd ymateb gan y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn amharod i gael gwared ar y dyddiad cau terfynol ar gyfer Powys, gan nodi bod angen i Bowys barhau i baratoi’r cynllun datblygu lleol.
Bydd yr aelodau’n ymwybodol o gost y gwaith a chynhyrchwyd papur opsiynau gyda chwe opsiwn yn canolbwyntio ar opsiwn 2 sef sut i ddechrau’r Cynllun Datblygu Strategol ochr yn ochr â'r cynlluniau datblygu lleol.
Mae'r Awdurdodau Lleol mewn gwahanol sefyllfaoedd gyda Cheredigion a'r Parc Cenedlaethol wedi gohirio eu cynlluniau datblygu lleol am amrywiaeth o resymau.
Cytunwyd i ganolbwyntio ar opsiwn 2 gyda chafeat y byddai Cadeirydd y Cynllun Datblygu Strategol yn ysgrifennu eto at y Gweinidog i dynnu sylw at y ffaith bod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ynghlwm wrth dri Chynllun Datblygu Strategol yn ychwanegol at ei gynllun newydd ei hun, ac nad oes unrhyw adnoddau newydd ar gael, a bod Powys eisoes wedi ymrwymo i gynllun newydd costus heb unrhyw ddewis heblaw parhau â’r hyn a ddarperir gan y Llywodraeth.
Roedd Cadeirydd y CBC/CJC yn dymuno nodi dau bwynt -
1. O ran y llythyr at Julie James, y Gweinidog, wrth gydnabod sefyllfa Cadeirydd Is-bwyllgor y Cynllun Datblygu Strategol, argymhellodd y Cadeirydd y byddai wedi bod yn ddefnyddiol gweld y llythyr cyn iddo gael ei anfon.
Dymunai Cadeirydd y CBC/CJC gael gwybod am unrhyw ohebiaeth at y Gweinidogion yn y dyfodol oddi wrth y CBC/CJC neu unrhyw un o’r Is-bwyllgorau.
2. O ran y llythyr a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru y bore yma, a oes rhaid i aelodau’r CBC/CJC neu’r Cadeirydd ymateb i’r llythyr hwnnw?
Cydnabuwyd y byddai gan Gadeirydd y CBC/CJC gopi o unrhyw ohebiaeth fel hyn yn y dyfodol.
Dywedwyd bod y pwysau nawr ar fwrw ymlaen â’r RTP yn gyntaf cyn y Cynllun Datblygu Strategol. Mae canllawiau’r RTP ar fin ymddangos gyda llawlyfr y Cynllun Datblygu Strategol i gael ei gyhoeddi erbyn diwedd eleni.
Cydnabyddir bod y llawlyfr i’w gyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn a disgwylir i’r CBC/CJC lofnodi Cytundeb Cyflawni gyda Llywodraeth Cymru ynghylch yr amserlen ar gyfer cynhyrchu Cynllun Datblygu Strategol erbyn diwedd y flwyddyn hefyd.
Mae Cadeirydd y Cynllun Datblygu Strategol yn pwysleisio bod angen sgwrs bellach dan arweiniad Cadeirydd y CBC/CJC a'r Prif Weithredwyr.
Nodwyd cadarnhad o'r sylwadau ynghylch yr amserlen a'r disgwyliadau.
Mynegwyd pryderon ynghylch y cais i ddarparu system heb ganllawiau sy'n hanfodol ar gyfer cydymffurfio â Llywodraeth Cymru.
Mae’r Cadeirydd yn croesawu barn yngl?n â chyfarfod â Llywodraeth Cymru a chytunodd fod angen trefnu cyfarfod ar fyrder i roi’r gorau i’r dyddiad cau terfynol, cael eglurder ynghylch y canllawiau, disgwyliadau Cynllun Datblygu Strategol a sut mae’n cydgysylltu â Chynlluniau Lleol.
Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion ei bod yn holl bwysig rhoi cymorth i Bowys i ddileu’r dyddiad cau terfynol.
Mae Cadeirydd y CBC/CJC, yr Is-Gadeirydd a PCBB yn fodlon cefnogi hyn.
· GWEITHREDU - Cadeirydd CBC/CJC Canolbarth Cymru i gysylltu â’r Gweinidog, Julie James i ofyn am gyfarfod i drafod mater Powys gyda'r adolygiad o'r CDLl.