Mae'rCyfarfod Cyngor hwn yn nodi: -
· Hyrwyddodd Joyce Watson, Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru achos y Rhuban Gwyn, fel arweinydd menter drawsbleidiol, yn gynnar yn y Pedwerydd Cynulliad / Senedd. Cynrychiolodd y Cynghorydd William Powell Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru mewn gwylnosau a digwyddiadau eraill ar ran Joyce Watson ac fe wnaeth gwrdd â llawer o bobl wahanol oedd wedi goroesi. Mae arweinyddiaeth barhaus Joyce gyda’r mater hwn hyd heddiw yn dal i fod yn rhan bwysig o fusnes y Senedd;
· Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi codi proffil cam-drin domestig, rheolaeth orfodol a thrais yn erbyn menywod. Mae Prif Gwnstabl newydd Heddlu Dyfed-Powys, Richard Lewis, sydd ar hyn o bryd yn Brif Gwnstabl Cleveland, wedi nodi cam-drin domestig a materion cysylltiedig fel blaenoriaeth uchel;
· Mae ffigurau’r ONS yn dangos y bydd bron i un o bob tair merch 16-59 oed yn profi cam-drin domestig yn ystod eu hoes, bod dwy fenyw yr wythnos yng Nghymru a Lloegr yn cael eu lladd gan bartner presennol neu gynbartner, bod dros hanner miliwn o fenywod yn cael eu treisio neu’n dioddef ymosodiad rhywiol bob blwyddyn a bod arolwg barn YouGov yn dangos bod traean o ferched wedi profi aflonyddu rhywiol mewn ysgolion;
· mae’rpandemig byd-eang wedi arwain at y ffaith fod mwy o fenywod a merched yn agored i gam-drin domestig ac, yn ôl adroddiad newyddion gan y BBC ym mis Gorffennaf y llynedd, gwelodd tri mis cyntaf y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf gynnydd o 80% yn y galwadau i’r Llinell Genedlaethol Cam-drin Domestig;
· maeadroddiad diweddar Cymdeithas Fawcett “Ymdrin ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle” - sy’n rhoi gwybod am gamau a gymerir gan gyflogwyr i atal ac ymateb i aflonyddu rhywiol yn y gweithle, yn nodi bod dros 40% o fenywod wedi profi aflonyddu yn y gweithle a 45% wedi dioddef aflonyddu ar-lein o natur rywiol gyda’r cyfraddau ar eu huchaf ymhlith y rhai sydd â nodwedd warchodedig.
· bod dioddefwyr, yn ôl arolwg trosedd a data eraill y llywodraeth, yn dod yn anghymesur o’r grwpiau hynny sydd eisoes yn profi anghydraddoldeb a heriau ychwanegol yn ein cymdeithas, gan gynnwys y rhai sydd o hil gymysg, sydd ag anableddau, neu sy'n drawsryweddol;
· wrthi ni feddwl yn ôl at ddiwedd twrnamaint Ewro 2020 UEFA a ohiriwyd, dangosodd ymchwil flaenorol gan Brifysgol Lancaster fod digwyddiadau o gam-drin domestig y rhoddwyd gwybod amdanynt yn cynyddu pryd bynnag y bydd unrhyw un o’r cenhedloedd cartref yn chwarae mewn twrnamaint mawr, ac mae’r effaith yn arbennig o amlwg ar y dyddiau pan fydd y timau hynny’n colli; a
· goblygiadauhynod ysgytiol achos Sarah Everard a’r datgeliadau wedi hynny o ymddygiad misogynistaidd ymhlith aelodau eraill yr heddlu.
Mae'rCyfarfod Cyngor hwn yn nodi ymhellach:-
· White Ribbon UK yw’r brif elusen sydd â chenhadaeth i ddiweddu traisdynion yn erbyn menywod ac mae’n rhan o’r mudiad Rhuban Gwyn byd-eang a ddeilliodd o ymgyrch a ddechreuwyd gan ddynion yng Nghanada yn 2004;
· Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn cael ei nodi bob blwyddyn ar 25ain Tachwedd, y Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod, trwy annog dynion a bechgyn i addo i beidio byth â chymryd rhan, derbyn nac aros yn dawel ynghylch trais yn erbyn menywod trwy wisgo rhuban gwyn ar y diwrnod ac am wythnos neu ddwy wedi hynny; ac
· Mae White Ribbon UK, sy’n gweithio ar draws pob un o’r 3 gweinyddiaeth ddatganoledig, yn gweithredu system o Lysgenhadon gwrywaidd, Hyrwyddwyr benywaidd ac Eiriolwyr ieuenctid, yn ogystal â bod â deunyddiau penodol i gefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd, pob un â’r nod o annog dynion / bechgyn i gymryd yr addewid a helpu i ddileu trais dynion yn erbyn menywod.
Mae’rCyfarfod Cyngor hwn yn credu na ellir byth esgusodi trais gwrywaidd yn erbyn menywod ac y dylai Cyngor Sir Powys wneud popeth yn ei allu i sicrhau bod menywod yn ddiogel. Mae gan yr Awdurdod bolisi cryf ynghylch diogelu menywod yn y gweithle ac yn y cymunedau y mae'n eu cefnogi. Mae hyfforddiant yn orfodol i staff a chynghorwyr. Fel rhan o’r cynnig hwn gofynnwn i’r cyngor hwyluso ac annog cynghorwyr, staff ac ysgolion i gymryd rhan yn Ymgyrch y Rhuban Gwyn.
Felly mae'r Cyfarfod Cyngor hwn yn penderfynu:-
1. cofleidiodiwylliant fel y gall pob Cynghorydd gwrywaidd wneud adduned y Rhuban Gwyn i beidio byth â chymryd rhan mewn, derbyn nac aros yn dawel ynghylch trais yn erbyn menywod;
2. ymgymrydâ’r camau angenrheidiol cyn gynted ag sy’n ymarferol i gyflawni achrediad y Rhuban Gwyn, gan ymuno â’r nifer fawr o gyrff sector cyhoeddus gan gynnwys 4 cyngor arall yng Nghymru a Heddlu Dyfed Powys a Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru sydd eisoes wedi gwneud hynny; ac
3. felrhan o hyn, annog Arweinwyr pob gr?p gwleidyddol i ddod at ei gilydd i enwebu Cynghorydd gwrywaidd a’r Prif Weithredwr i enwebu aelod staff yn Llysgenhadon; nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd bob blwyddyn gyda digwyddiad codi arian; ac annog staff y cyngor ac ysgolion cynradd ac uwchradd lleol i gymryd rhan.
4. cynnaladolygiad o brotocolau a gweithdrefnau i benderfynu a yw'r Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldeb fel cyflogwr ag enw da yng ngoleuni argymhellion Adroddiad Fawcett ac i gyflwyno unrhyw addasiadau ar frys.
Cynigydd- y Cynghorydd Sir Pete Roberts
Eilydd - y Cynghorydd Sir Jackie Charlton
GOBLYGIADAU O RAN COSTAU
Gallai camau gweithredu hefyd arwain at arbedion.
Byddai'n cefnogi gwaith sy'n cael ei wneud yn yr ysgol mewn perthynas â pholisïau Gwrth-fwlio a chodi ymwybyddiaeth.
Byddai'n cyd-fynd â ffocws y cwricwlwm newydd ar les a pherthnasoedd.
Dogfennau ategol: