Mae'rCyngor hwn yn nodi:
Mae gan y Cyngor gyfle i wneud newid sylweddol wrth ymdrin â’r argyfwng sy’n ein hwynebu; mae’r cynnydd wedi bod yn arafach nag yr oedd preswylwyr a rhanddeiliaid yn ei ragweld ac mae’r monitro a’r adborth wedi bod yn llai tryloyw nag y byddent wedi’i ddymuno.
Mae angen gweithredu’n gyflymach ac yn fwy agored i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd ac ecolegol. Bydd uchelgais ac arweinyddiaeth y Cyngor yn allweddol i fynd â’n rhanddeiliaid cymunedol a lleol gyda ni i gyrraedd y targed a osodwyd ym mis Medi 2020 o Sero Net erbyn 2030.
Nid oedd gan bobl, yn dilyn cynhadledd ryngwladol COP26 yn Glasgow, unrhyw amheuaeth ynghylch difrifoldeb a natur argyfyngus y sefyllfa i gymunedau gartref a thramor. Nid yw ein hymateb yn gofyn am ddim llai na newid diwylliannol i’r sefydliad cyfan lle rydyn ni'n dweud yn glir beth rydyn ni'n ei wneud ac yn gwneud yr hyn rydyn ni'n ei ddweud, gan ysbrydoli eraill i weithredu hefyd.
Mae Cyngor Abertawe yn treialu menter newydd - Safon Un Blaned, a lansiwyd mewn pryd ar gyfer COP26, sydd wedi’i chynllunio i gefnogi sefydliadau fel ein un ni i addasu ein gweithgareddau i gyd-fynd â'n dyheadau amgylcheddol. Gyda chefnogaeth Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, gallai’r Safon Un Blaned helpu Cyngor Powys i ddod yn effeithlon o ran ein defnydd o adnoddau, datblygu llwybrau economaidd cylchol gydag ymgysylltiad gweithwyr, cadwyni cyflenwi, cwsmeriaid ac unrhyw un y mae ein gweithgareddau yn effeithio arnynt. Mae’r Safon Un Blaned yn cefnogi gwelliant parhaus, gyda chylch o gamau syml sef Cynllunio> Gwneud> Gwirio> Gweithredu wedi’u gosod yn erbyn ein nodau, ein cerrig milltir a’n graddfeydd amser ein hunain. Yn ei hanfod, methodoleg integredig ydyw ar gyfer adrodd i gynorthwyo sefydliad i fesur, rhoi cyfrif am, a gwella effaith amgylcheddol ei weithgareddau. Byddai'r Safon Un Blaned yn cofleidio'r pum ffordd o weithio:
TymorHir - cydbwyso anghenion tymor byr gyda diwallu anghenion tymor hir.
Atal ? gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu, gan ddefnyddio'r egwyddor ragofalus.
Integreiddio - ystyried sut mae holl weithredoedd Powys yn effeithio ar ei gilydd, ar y nodau cymdeithasol ac ecolegol, ac ar fuddiannau a gweithredoedd rhanddeiliaid.
Cydweithio - gydag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau) a allai helpu Powys i gyflawni ei amcanion a'i nodau cymdeithasol ac ecolegol.
Cynnwys- cynnwys ystod eang o bobl wrth gyflawni ei nodau cymdeithasol ac ecolegol, gan sicrhau bod y bobl hynny yn dod o Bowys ac yn adlewyrchu ei amrywiaeth.
Bydd deall a mabwysiadu gofynion y Safon Un Blaned yn helpu’r Aelod Portffolio ar faterion yr hinsawdd a’r argyfwng ecolegol, ac aelodau eraill y Cabinet i bennu cyfeiriad strategol, a’r uwch dîm rheoli i weithredu newid, wrth helpu staff i newid y diwylliant corfforaethol. Bydd ein partneriaid a’n cwsmeriaid yn gwerthfawrogi ein huchelgeisiau yn well ac yn dewis ymuno â ni ar y daith hon.
Mae'rCyngor hwn yn galw am:
Bwysleisio ei ddatganiad o argyfwng hinsawdd ym mis Medi 2020, ei benderfyniad ynghylch gwaredu [asedau] yn 2018 a’i waith ynghylch y Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol sy’n bwysig o ran adrodd ar Adran 6 y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau.
Mae'rCyngor hwn yn penderfynu:
• Galw ar aelod y cabinet dros Newid Hinsawdd am newid sylweddol a gweladwy mewn gweithgaredd sy’n angenrheidiol i gyflawni ymrwymiad Powys i gyrraedd ei darged sero net erbyn 2030, gan gyhoeddi’r asesiad llinell sylfaen a gytunwyd a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer lleihau carbon er mwyn i aelodau, rhanddeiliaid a thrigolion ei asesu ar frys.
• Dod yn ail Gyngor yng Nghymru i dreialu’r Safon Un Blaned cyn gwneud penderfyniad, ar ôl Mai 2022, ynghylch a ddylid ei fabwysiadu'n ffurfiol fel ffordd newydd o weithio.
• Gofyn i Gadeirydd Cronfa Bensiwn Powys alw ar Gronfa Bensiwn Cymru i ddefnyddio’r p?er sydd ganddi, gan gynnwys ei dylanwad fel un o gronfeydd pensiwn mwyaf y DU, i annog gwaredu [asedau] fel y cytunwyd yng nghynnig 2018.
Cynigydd - y Cynghorydd Sir Jackie Charlton
Eiliydd - y Cynghorydd Sir Jake Berriman
Nid oes unrhyw oblygiadau o ran costau yn deillio o'r cynnig hwn gan fod deilydd y Portffolio eisoes wedi cadarnhau parhad o’r cyllid ar gyfer y Swyddog Newid Yn yr Hinsawdd.
Mae'r Safon Un Blaned yn rhad ac am ddim i'w defnyddio, er fod achrediad yn costio rhwng £675 ac £1,688 yn ôl maint y sefydliad a'r lefel dyfarnu - Efydd, Arian ac Aur. Fodd bynnag, gellid disgwyl i fanteision gynnwys mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gorfforaethol, gwell cymhelliant staff, arbedion a mwy o effeithlonrwydd, gwella tryloywder ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
Rydym eisoes wedi cytuno fel cyngor i gyflawni'r nod Sero Net felly bydd yr holl gyllidebu'n cael ei integreiddio gan ystyried y mesurau hyn.
Mae'r adroddiad ar y Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol wedi'i ymgorffori yn Dyletswydd Statudol Adran 6 o'r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau felly ni fydd cost ychwanegol i'r mesur hwn.
Nod y Cynnig Dadfuddsoddi yn 2018 oedd cyflawni'r trydydd penderfyniad sydd heb ei gyflawni eto ac nid oes ganddo unrhyw oblygiadau o ran costau.
Dylai camau gweithredu hefyd arwain at arbedion.