Yn ystod y pandemig ychydig iawn o dân gwyllt a welwyd, os gwelwyd rhai o gwbl. Mae hyn wedi rhoi llonydd mawr ei angen i anifeiliaid a bodau dynol na allant fwynhau tân gwyllt.
Efallai fod ein barn yn amrywio o ran a ddylid gwahardd tân gwyllt yn llwyr ond gallwn i gyd gytuno, os cânt eu defnyddio, y dylid gwneud hyn yn gyfrifol. Mae'r cynnig hwn yn nodi rhai mesurau y gallwn eu rhoi ar waith i ganiatáu arddangosfeydd tân gwyllt trwyddedig, rheoledig a diogel.
Derbyniodd Pwyllgor Dethol Deisebau T?’r Cyffredin ddeiseb yn 2019 a ddenodd dros 750,000 o lofnodion ac o ganlyniad fe wnaethant argymell tri pheth: -
· Dylid grymuso awdurdodau lleol i gyfyngu ar nifer yr arddangosfeydd tân gwyllt yn eu hardaloedd
· Y Llywodraeth i ariannu a chydlynu ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol ar ddefnydd cyfrifol o dân gwyllt a ddylai gynnwys gwybodaeth benodol am yr effaith y gallai tân gwyllt ei chael ar gyn-filwyr a'r rhai â PTSD
· Gofalu nad yw cynhyrchion â chyfyngiadau oedran arnynt yn cael eu pecynnu mewn ffordd sy’n denu ac yn apelio at blant.
Mae'r Cyngor hwn yn nodi:
·
Dywed y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid
(RSPCA) fod y gyfraith yn methu. Nid yw’n atal nac yn
lleihau’r risg yn ddigonol y bydd tân gwyllt yn achosi
trallod, anaf neu bryder i bobl, yn ogystal â marwolaeth,
anaf neu drallod i anifeiliaid.
·
Mae angen ymchwil bellach i ddeall effaith s?n ar anifeiliaid a
phobl yn iawn. Yn y cyfamser, gellir gwneud sawl peth i wella'r
sefyllfa i fywyd gwyllt a phobl sydd mewn perygl o gael eu
heffeithio gan ffrwydradau tân gwyllt.
· Mae angen adolygu’r mesurau presennol ac annog trwyddedu pob ARDDANGOSFA TÂN GWYLLT GYHOEDDUS, gan sicrhau bod arddangosfeydd yn cael eu hysbysebu’n well i’r cyhoedd gan roi gwybod iddynt am lefelau s?n a sut y gallai hyn effeithio ar bobl ac anifeiliaid. Sylwch ar y cynnig a wnaed gan Gabinet Rhondda Cynon Taf ar 13 Hydref 2020. Mae hwn yn canolbwyntio ar dir sy’n eiddo i’r cyngor ond y mae'n ymrwymiad i reoleiddio a hysbysu.
· Codi ymwybyddiaeth am y niwed a’r trallod y gallai tân gwyllt ei achosi gyda lefel s?n a llygredd tân gwyllt llawer mwy pwerus yn cael eu gwerthu ar gyfer arddangosfeydd preifat a chyhoeddus.
Mae'r Cyngor hwn yn penderfynu:
1. Hyrwyddo ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd am effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl agored i niwed - gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu cymryd i liniaru risgiau fel canlyniadau anfwriadol tân gwyllt cyfreithiol.
2.
Cefnogi’r RSPCA yn y gwaith sy’n cael ei wneud i newid
y ddeddfwriaeth ar arddangosfeydd tân gwyllt i alluogi a
sicrhau bod yr holl arddangosfeydd tân gwyllt cyhoeddus yn
cael eu hysbysebu cyn y digwyddiad, gyda gwybodaeth briodol mewn
perthynas â maint yr arddangosfa, gan ganiatáu i
breswylwyr gymryd rhagofalon ar gyfer pobl ac anifeiliaid
anwes.
Cynigydd: Y Cynghorydd Sir Jackie Charlton
Eilydd: Y Cynghorydd Sir Jake Berriman
(Tudalennau 113 - 116)
Dogfennau ategol: