Agenda item

Rhybudd o Gynnig - Sefyll Lan dros Ofalwyr

Mae COVID wedi cyflwyno cymaint o heriau i ni ers mis Mawrth 2020.  Mae’r cynnig hwn yn canolbwyntio ar gyfle i SEFYLL LAN DROS OFALWYR. 

Arddiwedd 2019 ym Mhowys roedd tua 2627 o ofalwyr gyda’r hawl i dderbyn Lwfans Gofalwyr, 1563 yn derbyn y lwfans a 1064 o breswylwyr Powys sy’n gofalu am rywun yn ddi-dal.  

 

1. Nodiadau’r Cyngor ar gyfer y cynnig:

a.    Gofalwyr rhai sy’n cael eu talu ac yn ddi-dal, ifanc a hen – maen nhw’n gwneud gwaith anhygoel a phwysig.  Mae’r gofalwyr hyn yn rhan annatod o gymuned Powys.  Maen nhw’n haeddu ein cymorth ond yn llawer rhy aml maen nhw’n cael eu hanghofio a’u hanwybyddu.

b.    Mae gofalwyr ym Mhowys a ledled Cymru yn wynebu heriau mawr bob dydd; heriau sydd wedi’u gwneud yn llawer mwy anodd gan bandemig COVID-19.  Mae’r rhan fwyaf yn gorfod treulio mwy o amser yn gofalu am anwyliaid yn ystod y pandemig; mae’r rhan fwyaf heb allu cymryd un seibiant ers iddo ddechrau; ac mae’r rhan fwyaf wedi blino’n lân. 

c.    Mae gofalwyr di-dal yn arbed o leiaf £8 biliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru.  Gofynnir i ofalwyr weithio unrhyw beth o 35 awr i 168 awr yr wythnos am y taliad cyflawn o £67.25, pan fod gofalwyr sydd wedi’u recriwtio ac yn cael eu talu gan y Cyngor yn gallu ennill hyd at £1,176 yn ystod yr un cyfnod o amser.

2. Rhagor o nodiadau’r Cyngor :

a.    Yn £67.25 yr wythnos, Lwfans Gofalwyr yw’r budd-daliad isaf o’i fatha.

b.    Mewn ymateb i bandemig Covid-19, cynyddodd y Llywodraeth y lwfans safonol Credyd Cynhwysol ac elfen sylfaenol y Credyd Treth Gwaith o £20 yr wythnos yn uwchben y cynnydd arfaethedig ym mis Ebrill 2020, ond nid yw wedi cynyddu Lwfans Gofalwr.

c.    Mae llawer o ofalwyr di-dâl yn wynebu caledi ariannol eithafol. Canfu arolwg diweddar gan Carers UK fod mwy na thraean o'r rhai sydd ar Lwfans Gofalwr yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Mae llawer wedi bod yn ei chael hi’n anodd ers misoedd, gan ddibynnu'n aml ar fanciau bwyd i fwydo eu hunain a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Mae gan Bowys un o'r cyfraddau uchaf o ofalwyr di-dâl yng Nghymru.  Mae gofalwyr di-dâl yn cyfateb i 41% o'r holl ofalwyr a dim ond Gwynedd sy’n cyfateb i'r lefel honno (Ystadegau Gwladol y DU 2019).

d.    Canfu arolwg Carers UK fod "43% o ofalwyr yn teimlo y byddai cynnydd yn y Lwfans Gofalwr yn eu helpu, o ystyried y pwysau ariannol sy’n eu hwynebu."

3. Bod y Cyngor yn penderfynu:

a.     Rhaid i ni sefyll lan dros ofalwyr, gwneud mwy i'w cefnogi, ac adeiladu cymdeithas fwy gofalgar wrth i ni ddod allan o bandemig Covid-19.

4. Bod y Cyngor yn cyfarwyddo Arweinydd y Cyngor i:

a.    Ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, gan eu hannog i godi Lwfans Gofalwr o £20 yr wythnos ar unwaith, yn unol â'r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol.

b.    Mae'r Cyngor yn cytuno i anfon gohebiaeth gyffredinol i ofalwyr di-dâl, sefydliadau'r trydydd sector a chynghorau cymuned i annog gofalwyr i hawlio Lwfans Gofalwyr.

c.    Sicrhau bod Cyngor Sir Powys yn parhau i wneud popeth mae’n gallu i Sefyll lan dros Ofalwyr.

Cynigwydgan y Cynghorydd Sir Jackie Charlton

 

Eiliwydgan y Cynghorydd Sir Emily Durrant