Agenda item

RHYBUDD O GYNNIG - GWAREDU Â CHYSYLLTIAD CRONFA BENSIWN POWYS Â'R MAES TANWYDD FFOSIL

Mae’r cyngor yn galw am gymorth Pwyllgor Cronfa Bensiwn Cyngor Sir Powys i ystyried y canlynol:

·         Parhau cymorth parhaus ar gyfer yr egwyddor o beidio â buddsoddi mewn  cwmnïau sy’n ymwneud ag echdynnu tanwydd ffosil, er mwyn gwaredu â pherchen ecwitïau a bondiau cofforaethol, ynghyd ag unrhyw gronfeydd cymysg gan gwmnïau sy’n ymwneud ag echdynnu tanwydd ffosil

·         Mabwysiadu Nod 13 Datblygiad Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig:-

“Gweithredu ar frys i fynd i’r afael â newid hinsawdd a’i effaith”

 

·         A: cheisio pwyso ar aelodau Partneriaeth Pensiwn Cymru i bwyso am gytundeb llwyr i waredu â chysylltiad gyda thanwydd ffosil o fewn cyfnod o bum mlynedd. 

 

 

Os ydych yn rhoi mwy o ystyriaeth i effeithiau tanwydd ffosil – yna pleidleisiwch o blaid y cynnig hwn heddiw. Mae cwmnïau tanwydd ffosil yn cael eu sybsideiddio ar draul yr hinsawdd, ein hiechyd a’n dyfodol.

 

Ni allwn fforddio bellach i anwybyddu’r gost gyllidol o sybsideiddio a buddsoddi mewn tanwyddau ffosil.

 

Rydym yn derbyn ymhellach fod Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ymroddedig i fuddsoddi moesegol ond ddim yn glir am waredu â chysylltiad gyda busnesau byd-eang sy’n ceisio parhau i echdynnu tanwyddau ffosil a disbyddu’r amgylchedd naturiol o adnoddau pwysig.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Emily Durrant

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Jackie Charlton

 

 

Rydym yn gofyn fod y Cyngor hwn yn nodi:-

 

Fod Adran 6 dan Ran 1 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 wedi cyflwyno dyletswydd uwch o ran bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau (Dyletswydd Adran 6) ar gyfer cyrff cyhoeddus. Mae’r ddyletswydd yn gofyn bod rhaid i gyrff cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth cyn belled â bod hyn yn gyson ag ymarfer ei swyddogaethau’n gywir gan hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau trwy wneud hyn. Nid yn unig y bydd hyn yn diogelu ond yn gwella amodau i fioamrywiaeth ffynnu ac yn gwneud cyfraniad o bwys tuag at ostwng difrod i’r hinsawdd.

 

Mae Newid yn yr Hinsawdd yn fygythiad o bwys ac mae cymorthdaliadau enfawr a diangen gan Gronfeydd Pensiwn mawr a’r llywodraeth yn sicrhau fod echdynnu tanwyddau ffosil cyfyngedig yn parhau sy’n ychwanegu ar allyriadau carbon a’r argyfwng newid hinsawdd. Ceir cydnabyddiaeth eang ein bod wedi myned i mewn i ‘ARGYFWNG HINSAWDD’.

 

Dylem, fel cynghorwyr, nodi ymhellach gasgliadau’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd sef “ein bod eisoes yn gweld canlyniadau 1°C o gynhesu byd-eang trwy dywydd mwy eithafol, lefelau’r môr yn codi a’r lleihad yn iâ môr yr Arctig”.

 

Rydym yn gofyn fod cynghorwyr yn nodi canfyddiadau’r Panel Rhynglywodraethol fod “cynhesu o 1.5ºC  neu uwch yn cynyddu’r perygl sy’n gysylltiedig â newidiadau hirhoedlog neu newidiadau na ellir eu gwyrdroi, megis colli rhai ecosystemau,” ac y byddai “cyfyngu ar gynhesu byd-eang i 1.5°C yn gofyn am drawsnewidiadau ‘cyflym a phellgyrhaeddol’ mewn tir, ynni, diwydiant, adeiladau, cludiant/trafnidiaeth a dinasoedd. Byddai angen i allyriadau carbon deuocsid (CO2) net byd-eang a achosir gan ddynol ryw ostwng gan tua 45 y cant o lefelau 2010 erbyn 2030, gan gyrraedd ‘sero net’ erbyn 2050.” 

 

Rydym yn gofyn hefyd fod cynghorwyr yn nodi ein bod, trwy waredu, yn anfon neges i’r llywodraeth fod sybsideiddio cwmnïau tanwydd ffosil yn dod yn anghynaladwy ar gyfer dyfodol ein planed.

 

Rydym yn deall fod gwaith wedi’i gynnal i symud tuag at waredu ar gyfer cronfa Bensiwn Cyngor Sir Powys y bydd gweithwyr a chynghorwyr fel ei gilydd yn talu i mewn i’r gronfa. Fel Cyngor, gallwn gymeradwyo cynnig i alluogi’r Pwyllgor Pensiwn i ryddhau ei hunan o unrhyw fuddsoddiad sy’n difrodi ein hamgylchedd ymhellach, trwy gymeradwyo’r cynnig hwn i ostwng i ddim buddsoddiad o fewn cwmnïau tanwydd ffosil o fewn 5 mlynedd. 

 

Guardian – Jillian Ambrose 6 Medi 2019

 

“Major oil companies have invested £40.6 billion in fossil fuel projects that undermine global efforts to avert a runaway climate crisis, according to a report.”

 

Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn datblygu “high-cost plans to extract oil and gas from tar sands, deepwater fields and the Artic despite the risks to climate and shareholder returns.”

 

Mae’r adroddiad yn herio ymhellach y “…..many oil executives who claimed to support the Paris goals and vowed to invest in renewable energy projects.”

 

Comisiynwyd yr adroddiad ar gyfer Rhaglen yr Amgylchedd, Y Cenhedloedd Unedig ac mae’n amlinellu’r cynnydd adeiladol mewn buddsoddiadau o fewn prosiectau ynni adnewyddadwy.