Trabo’r defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau wedi cael ei ystyried o bosibl fel adloniant yn y gorffennol, rydym, fel cymdeithas, wedi dod yn fwy gwaraidd dros amser ac mae nifer o’r farn mai creulondeb yw hyfforddi anifeiliaid gwyllt ac anifeiliaid heb fod yn ddomestig i wneud triciau ac i gadw anifeiliaid o’r fath mewn amodau cyfyngedig – yn enwedig pan fo syrcas ar daith. Yn wir, dywedir fod 45 o wledydd yn y byd eisoes wedi cyflwyno gwaharddiadau ar ddefnyddio anifeiliaid mewn syrcasau, gan gynnwys Yr Alban a’r Iwerddon. Rydym ni angen cyd-fynd â hyn.
Mae’rpryderon wedi’u cydnabod gan Lywodraeth Cymru a gomisiynodd adroddiad, a gyhoeddwyd yn 2016, gan ganfod “nad yw bywyd i anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau … yn ymddangos i fod yn ‘fywyd da’ nac yn ‘fywyd sy’n werth ei fyw”.
Ganymgynghori gyda’r cyhoedd ar y mater ehangach y llynedd, gofynnodd Llywodraeth Cymru hefyd a ddylid ystyried gwaharddiad ar anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Mae adroddiadau newyddion yn awgrymu fod yr ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn llethol, gyda Llywodraeth Cymru yn nodi fod “cefnogaeth gref o ran gwaharddiad”. Fodd bynnag, mae’n cymryd amser i ddeddfwriaeth ddod i rym a bydd syrcasau yn parhau i allu dod yn rhydd i Bowys, a fyddai, yn ôlcanlyniadau’r ymgynghoriad, yn erbyn dymuniadau nifer o’n trigolion. Er y cafwyd datganiad y bydd y mesur yn cael ei gyflwyno yn ystod y 12 mis nesaf, ac o ystyried ei fod wedi bod ar y gweill ers 2013, ac y gall brofi oedi pellach, mae camau y gall awdurdodau lleol eu cymryd yn y cyfamser. Gall y Cyngor weithredu’n uniongyrchol nawr ac annog syrcasau o’r fath i beidio â dod i’n sir.
Mae 10 o Awdurdodau Lleol eisoes wedi gwahardd y defnydd o syrcasau sy’n defnyddio anifeiliaid gwyllt ar eu tiroedd. Mae angen i ni wneud yr un peth. Rydym angen anfon neges at Lywodraeth Cymru na ellir oedi gyda’r mater hwn ymhellach. Rydym angen dangos i’r cyhoedd ein bod yn cydnabod eu pryderon.
Ymhellach at hyn, ers edrych ar y mater hwn, rydym wedi canfod fod syrcas sy’n defnyddio anifeiliaid gwyllt wedi bod ar daith i Bowys ac wedi cael ei hysbysebu trwy ysgolion, a mannau cyhoeddus CS Powys hyd yn oed. Rydym angen cyflwyno neges gref trwy ein holl adrannau, gan ddatgan nad ydym yn croesawu’r defnydd o anifeiliaid gwyllt yn y ffordd hon. Rwyf felly’n cyflwyno’r cynnig canlynol:
Bod y cyngor hwn yn cynnig bod y camau perthnasol yn cael eu cynnig i wahardd unrhyw syrcas sy’n defnyddio anifeiliaid heb fod yn ddomestig a/neu anifeiliaid gwyllt, rhag llogi unrhyw dir sy’n eiddo i Gyngor Sir Powys.
Bod y cyngor hwn yn cynnig, ymhellach at hyn, fod eiddo a gwasanaethau Cyngor Sir Powys (gan gynnwys Ysgolion, Llyfrgelloedd, Ardaloedd Cymunedol/Ieuenctid) ddim yn hysbysebu syrcasau sy’n defnyddio anifeiliaid heb fod yn ddomestig a/neu anifeiliaid gwyllt.
Mae’rcyngor hwn yn annog Llywodraeth Cymru i ymrwymo i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru trwy gyflwyno’r gwaharddiad deddfwriaethol arfaethedig ar y cyfle cynharaf posibl.
Cynigiwydgan y Cynghorydd Sir Amanda Jenner
Eiliwydgan y Cynghorydd Sir Lucy Roberts