Mae’r dudalen hon yn cynnwys cyhoeddiad o’r
cwestiynau ac ymatebion ‘Cwestiwn ar Unrhyw
Adeg’. Rheolir y broses hon gan Gyfansoddiad Cyngor Sir
Powys (Adran 4).
Yr
egwyddor yw y gall unrhyw Gynghorydd ofyn cwestiwn i Aelod
Portffolio’r Cabinet mewn perthynas â materion polisi
neu i’r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol am faterion
gweithredol, ar unrhyw adeg, a bod ymateb ffurfiol gan Aelod y
Cabinet neu’r Pennaeth Gwasanaethau yn cael ei roi a’i
gyhoeddi o fewn 10 diwrnod gwaith.
Nid Pwyllgor yw
hwn ac ni chynhelir cyfarfodydd, defnyddir y gair
“cofnodion” i ddisgrifio’r ddogfen a ddefnyddir i
gyhoeddi’r ymatebion.
Mae’r dyddiadau uchod yn nodi’r dyddiad yr anfonir
y cwestiwn at Aelod y Cabinet / Pennaeth Gwasanaeth yn gofyn am
ymateb.