Agenda

Lleoliad: Ar Teams - By Teams. Gweld cyfeiriadau

Cyswllt: Wyn Richards, Rheolwr Craffu a Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd  E-bost: wyn.richards@powys.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

Datganiadau o Fudd

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fudd gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried yn y cyfarfod.

3.

Datganiad Chwip y Pleidiau

Derbyn datganiadau ynglyn â gwaharddiad chwip plaid a gyflwynwyd i Aelod mewn perthynas â'r cyfarfod yn unol ag Adran 78 (3) Mesur Llywodraeth Leol 2001.

 

(D.S: atgoffir yr Aelodau, dan Adran 78, na all Aelodau sydd wedi derbyn gwaharddiad chwip plaid bleidleisio ar fater gerbron y Pwyllgor.

 

4.

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol - Diweddariad pdf icon PDF 124 KB

Derbyn ac ystyried adroddiad y Cydlynydd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

5.

Gweithgorau Aelodau a Swyddogion

Ystyried sefydlu a phenodi Aelodau i'r Gweithgorau Aelodau a Swyddogion canlynol.

 

Argymhellir na ddylai Gweithgorau gynnwys mwy na 5 Aelod.

 

Er bod Gweithgorau'n cael eu sefydlu ar sail anwleidyddol dylent gynnwys cynifer o grwpiau gwleidyddol ag sy'n ymarferol.

 

(i)        Datblygiadau a Ffosffadau mewn afonydd

 

(ii)        Ffermydd Sirol

 

(iii)       Prynu Tai Sector Preifat

 

Bydd angen sefydlu Cylch Gorchwyl ar gyfer pob un o'r grwpiau hyn yn y cyfarfod cyntaf i gynnwys meysydd i'w cynnwys yn yr adolygiad, canlyniad disgwyliedig yr adolygiad craffu.

 

 

 

6.

Rhaglen Waith Craffu

Nodi y bydd cyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol yn cael eu cynnal fel a ganlyn:

 

06-09-21

 

10.00 - 12.00

Teams Live

·        Arweinyddiaeth a phrentisiaeth

·        Tlodi Plant.

·        Diweddariad ailgylchu

18-10-21

 

14.00 - 16.00

Teams Live

·      Perfformiad Chwarter 2 + Risg

·      Cyllid Chwarter 2 + arbedion effeithlonrwydd y gyllideb

29-11-21

 

10.00 - 12.00

Teams Live

·             Trosedd ac Anhrefn / Adolygiad Diogelwch Cymunedol / Partneriaeth Diogelwch Cymunedol

 

7.

Eitem Eithriedig

Ystyried derbyn y Penderfyniad canlynol:

 

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem ganlynol o fusnes ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu iddynt o dan gategori 1 o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007).

 

Mae'r Swyddog Monitro wedi penderfynu bod categori 1 o'r Rheolau Mynediad at Weithdrefn Wybodaeth yn berthnasol i'r eitem ganlynol. Ei farn ar y prawf budd cyhoeddus (ar ôl ystyried darpariaethau Rheol 14.8 o Reolau Mynediad at Wybodaeth y Cyngor) oedd y byddai gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus yn datgelu gwybodaeth sy'n ymwneud â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (gan gynnwys yr awdurdod sy'n dal y wybodaeth honno).

 

Mae'r ffactorau hyn yn ei farn ef yn bwysicach na diddordeb y cyhoedd mewn datgelu'r wybodaeth hon. Gofynnir i'r Aelodau ystyried y ffactorau hyn wrth benderfynu ar y prawf budd cyhoeddus, y mae'n rhaid iddynt benderfynu arno wrth ystyried eithrio'r cyhoedd o'r rhan hon o'r cyfarfod.

 

 

8.

'Moving On Up'

Derbyn ac ystyried adroddiad cyfrinachol yr Aelod Portffolio ar faterion Datblygu Economaidd, Cynllunio a Thai a gwneud arsylwadau ac argymhellion i’r Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cyfnod Myfyrio gan y Pwyllgor

Gofynnir i’r Pwyllgor gymryd 5 i 10 munud i fyfyrio ar y cyfarfod heddiw.