Agenda

Lleoliad: Ar Teams - By Teams. Gweld cyfeiriadau

Cyswllt: Wyn Richards, Rheolwr Craffu a Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd  E-bost: wyn.richards@powys.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

SYLWCH

Cyfarfod amodol yw hwn sy’n dibynnu ar y canlynol:

·       Y Swyddig Adran 151 yn derbyn ac yn cymeradwyo’r cynigion eraill i’r gyllideb o fewn yr amserlen a gytunwyd gan y Cyngor ym mis Rhagfyr  2021.

·       Bod y cynigion eraill i’r gyllideb yn effeithio ar wasanaethau o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor. 

Os na fydd yr un o’r uchod yn berthnasol, bydd y cyfarfod yn cael ei ganslo ar fyr rybudd. 

 

Bydd papurau’r cyfarfod yn cael eu dosbarthu dim ond ar ôl i’r Swyddog Adran 151 gymeradwyo’r cynigion eraill i’r gyllideb ar 9 Chwefror 2022.

 

1.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

Datganiadau o fudd

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fudd gan Aelodau o ran eitemau sydd i’w trafod yn y cyfarfod.

 

 

3.

Datganiadau o Chwipiau Plaid

Derbyn datganiadau ynglyn â gwaharddiad chwip plaid a gyflwynwyd i Aelod mewn perthynas â'r cyfarfod yn unol ag Adran 78 (3) Mesur Llywodraeth Leol 2001. (D.S: atgoffir yr Aelodau, dan Adran 78, na all Aelodau sydd wedi derbyn gwaharddiad chwip plaid bleidleisio ar fater gerbron y Pwyllgor.

 

 

4.

Cynigion eraill i Gyllideb 2022 - 2023

Craffu cynigion eraill i gyllideb 2022-23 a gwneud sylwadau ac argymhellion i’r Cabinet a’r Cyngor er ystyriaeth.

 

Myfyrdod y Pwyllgor

Gofynnir i’r Pwyllgor gymryd 5 – 10 munud i fyfyrio ar y cyfarfod heddiw.