Agenda

Lleoliad: Ar Teams - By Teams. Gweld cyfeiriadau

Cyswllt: Wyn Richards, Rheolwr Craffu a Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd  E-bost: wyn.richards@powys.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

Datganiadau o Fudd

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fudd gan Aelodau mewn perthynas ag eitemau sydd i’w trafod yn y cyfarfod.

3.

Datganiadau Chwipiau Plaid.

Derbyn datganiadau ynglyn â gwaharddiad chwip plaid a gyflwynwyd i Aelod mewn perthynas â'r cyfarfod yn unol ag Adran 78 (3) Mesur Llywodraeth Leol 2001.

 

(D.S: atgoffir yr Aelodau, dan Adran 78, na all Aelodau sydd wedi derbyn gwaharddiad chwip plaid bleidleisio ar fater gerbron y Pwyllgor.

 

4.

Rhaglen Waith Craffu

Bydd cyfarfodydd nesaf y Pwyllgor fel a ganlyn:

 

14/09/2020

10.00 – 12.00

Eitemau: Global Centre for Rail Excellence

19/10/20

10.00 – 12.00

 

02/11/20

14.00 – 16.00

 

07/12/20

10.00 – 12.00

 

 

Eitemau posibl i’w trafod:

·         Gwasanaethau Rheoleiddio

·         Cyfraddau ailgylchu – pa fanteision sydd i’r cynnydd yng nghyfraddau ailgylchu a sut y gallwn gynnal y cyfraddau ailgylchu.

·         Astudiaeth Effaith Economaidd / Grwp Ffocws Canol Trefi

 

Gwybodaeth yn deillio o’r cyfarfod blaenorol :

·         Adolygu prisiau parcio – cyfarfod i’w gynnal ar 27 Gorffennaf.

 

 

5.

Eitemau craffu

5.1

Eitem Eithriedig

I ystyried y cynnig canlynol:

 

Mae'r Swyddog Monitro wedi penderfynu bod yr eitemau canlynol yn destun categori 3 y Rheolau Trefn Mynediad at Wybodaeth. Ei farn o ran prawf lles y cyhoedd (wedi ystyried darpariaethau Rheol 14.8, Rheolau Mynediad at Wybodaeth y Cyngor), oedd y byddai gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus yn datgelu gwybodaeth ynglyn â materion ariannol neu fusnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr awdurdod yn cadw’r wybodaeth honno).

 

Yn ei farn ef, mae'r ffactorau hyn yn bwysicach na diddordeb y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth.   Gofynnir i aelodau ystyried y ffactorau hyn wrth benderfynu ar brawf lles y cyhoedd, a rhaid iddynt benderfynu ar hyn wrth ystyried eithrio'r cyhoedd o'r rhan hon o'r cyfarfod.

 

5.2

Automobile Palace, Llandrindod

I graffu adroddiad cyfrinachol yr Aelod Portffolio – Datblygu Economaidd, Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio.

 

 

Dogfennau ychwanegol: