Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Zoom - Neuadd y Sir. Gweld cyfeiriadau
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 3 Hydref a 5 Hydref 2023 fel cofnodion cywir. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Briff gan y Prif Weithredwr Derbyn diweddariad gan y Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol gan Nigel Williams PDF 70 KB Pa gosbau sy'n cael eu gosod ar benaethiaid adrannau sy’n methu â chwrdd â'r gofynion cyllidebol y maen nhw wedi cynnig ac eto y maen nhw’n methu â'u cyflawni bob blwyddyn? Mae'n ymddangos nad oes pwrpas gosod y targedau hyn, oherwydd eu bod yn ddiystyr ac yn cael eu hanwybyddu yn flynyddol gan rai penaethiaid adran.
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach gan Peter Foulkes PDF 72 KB Pam fod Cyngor Sir Powys mor gyndyn o drosi statws Cilffordd sy’n Agored i Bob Cerbyd (BOAT) Llwybr y Mynaich i fod yn llwybr ceffyl, wrth iddo groesi rhan Powys o’r Elenydd? Byddai diweddaru statws Hawl Tramwy Cyhoeddus y llwybr yn ateb amlwg i'r difrod ofnadwy sy'n dal i gael ei achosi ar y llwybr hynafol hwn, gyda rhan ohoni yn croesi Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNC).
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach gan John Williams PDF 83 KB O ystyried y tystiolaeth a ddarparwyd, a’r gefnogaeth enfawr ar gyfer newid y 2 ffordd yma yn ôl i 30 mya, pryd y gellir gweithredu hyn? (gweler y cefndir sydd wedi’i atodi fel amgaead). Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach gan Ian a Jane Whyte PDF 77 KB Rydym yn rhedeg safle glampio bach ond prysur rhwng Llansantffraid a Llanfechain gan ddenu gwersyllwyr o bob cwr o'r wlad ac Ewrop.
Dro ar ôl tro, rydym yn derbyn adborth negyddol am gyflwr gwael y llwybrau cyhoeddus yn ein hardal gyfagos, yn benodol oherwydd diffyg arwyddion, gatiau mynediad wedi’u cloi, llwybrau gyda llystyfiant wedi ymledi a pherchnogion tir ymosodol.
Yn sicr, mae angen i ni ddenu cymaint o dwristiaid â phosibl i'n hardal brydferth a'u hannog i ddychwelyd. Hefyd, rwy’n si?r y byddai pob cerddwr lleol wrth eu bodd yn gallu cael mwy o fynediad i'n llwybrau troed cefn gwlad.
Cwestiwn syml... pam nad oes gwaith cynnal a chadw sylfaenol ar y llwybrau troed hyn a sut y gellir datrys y broblem hon? Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Trosglwyddiadau'r Gyllideb PDF 111 KB Ystyried trosglwyddiadau’r gyllideb sydd angen eu cymeradwyo gan y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Ystyried system Bleidleisio Sengl Drosglwyddadwy PDF 114 KB Ystyried adroddiad gan yr Arweinydd, Cynghorydd Sir James Gibson-Watt. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygu ardaloedd pleidleisio a mannau pleidleisio PDF 97 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau i Gyrff Allanol Ystyried gwneud penodiadau i’r canlynol -
1. Cronfa Waddol Gymunedol Powys Mae'r panel hwn, sy'n cynnwys dau Gynghorydd o bob un o’r ardaloedd sirol hanesyddol, yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i roi grantiau i grwpiau ac unigolion o gronfeydd a arferai gael eu rheoli gan y Cyngor. Mae yna le gwag i aelod o Sir Faesyfed - mae'r Cynghorydd Sir Geoff Morgan wedi cael ei enwebu.
2. Cyfeillion yr Eglwys y Santes Fair Aberhonddu Gofynnwyd i'r Cyngor benodi aelod. Mae'r Cynghorydd Sirol Chris Walsh wedi cael ei enwebu.
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Hysbysiad o Gynnig - Gwerthu Ffermydd Rydym yn galw ar y Cyngor i ofyn i'r Cabinet ymatal ar unwaith rhag ystyried unrhyw gynigion i’r dyfodol yn y flwyddyn ariannol gyfredol i werthu ffermydd hyd nes y bydd y Cyngor Llawn wedi cymeradwyo Polisi Ffermydd Sirol sydd wedi ei graffu’n briodol ac sy'n cynnwys polisi eglur a phenodol ar waredu/gwerthu ffermydd ac eiddo fferm sy'n eiddo i'r cyngor.
- Yr ansicrwydd parhaus sy'n cael ei achosi i holl denantiaid Ffermydd y Sir sy'n effeithio ar eu gallu i gynllunio'n effeithiol ar gyfer eu busnes, bywoliaeth ac anghenion tai yn y dyfodol;
- Y pryder yw heb bolisi eglur o’r fath, y bydd symud ymlaen gyda gwerthu ffermydd yn dwyn anfri ar y Cyngor; a’r
- Pryder yw heb bolisi eglur o’r fath ac wedi’i graffu’n drylwyr, bod penderfyniadau'n cael eu gwneud nad yw'n werth gorau i'r Cyngor na'r defnydd gorau o adnoddau cyhoeddus.
Cynigwyd gan y Cynghorydd Sir Amanda Jenner Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Gareth D Jones
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Hysbysiad o Gynnig - Ffioedd Cynllunio Cefndir Yn rhinwedd fy swydd fel yr Aelod Portffolio sy'n gyfrifol am Gynllunio yng Nghyngor Sir Powys, rwyf wedi ysgrifennu tair gwaith at Julie James, y Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio, ond heb dderbyn ateb.
Rwyf bellach yn chwilio am y difrifwch ychwanegol, sy'n dod gyda chefnogaeth y Cyngor hwn, i ofyn unwaith eto bod Gwasanaeth Cynllunio Powys yn cael yr hawl i osod ei ffioedd ei hun i'w roi ar y llwybr i adennill ei gostau llawn.
Mae'r sefyllfa ariannol ansicr sy'n wynebu economi'r Deyrnas Unedig a chyllid cyhoeddus yng Nghymru yn cael cyhoeddusrwydd mawr ac yn glir i bawb ei gweld. Mae Cyngor Powys yn trawsnewid ei hun mewn ymgais i ddarparu gwasanaethau ar sail gynaliadwy ac eto nid yw incwm cynyddol o ffioedd, mewn ystod o wasanaethau gan gynnwys cynllunio, yn opsiwn heb ymyrraeth gadarnhaol gan Gaerdydd.
Mae effaith ffosffadau ar ystod o geisiadau cynllunio, a'r rheolau sy'n llywodraethu datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol; sy’n cael eu trosglwyddo i PEDW, wedi effeithio'n ddifrifol ar incwm ffioedd cynllunio Powys ac eto mae gwaith nad yw’n ennill ffioedd fel gorfodaeth gynllunio, wedi parhau i fod yn fywiog, gan gyfrannu at bwysau cyllidebol difrifol. Mae POSW, Cymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru wedi lobïo gweision sifil yn yr un modd am gynnydd mewn ffioedd a chamau pellach tuag at adennill costau, ond heb lwyddiant. Mae adolygiad yn Lloegr wedi arwain at gynnydd mewn ffioedd o fis Ebrill 2024 ac mae angen yr adolygiad hir-ddisgwyliedig yng Nghymru bellach i ailgydbwyso'r drefn codi tâl i sicrhau bod y rhai sy’n torri’r rheolau yn talu eu ffordd, yn ogystal ag ymgeiswyr, yn hytrach na chostau gorfodi yn disgyn ar drethdalwyr sydd o dan straen, a thrwy hynny hyrwyddo mwy o degwch yn ein cymunedau. Felly mae’r Cyngor hwn Yn gwahodd y Gweinidog i adolygu'r rheoliadau ffioedd ar gyfer Gwasanaethau Cynllunio ar frys i ganiatáu ffioedd lleol i gael eu pennu’n lleol a bod yr egwyddor o adennill costau llawn ar gyfer Rheoli Datblygu yn cael ei gyflawni, ac i ystyried y cynigion canlynol: · Bod ffioedd ceisiadau cynllunio yn seiliedig ar adennill costau llawn, a’u bod yn cael eu diwygio’n flynyddol yn unol â chwyddiant. · Dylid dileu ceisiadau "ail gais" am ddim ar ôl tynnu'n ôl neu wrthod gyda ffi o 50% yn lle hynny. Byddai hyn yn hyrwyddo ymgysylltu cyn ymgeisio a chyflwyniadau ceisiadau cynllunio cychwynnol o ansawdd gwell, tra'n mynd i'r afael â chost ariannol o brosesu ceisiadau sy’n cael eu hailgyflwyno. · Pan fo perchennog tir yn torri rheolaeth gynllunio, dyblu'r ffi am geisiadau ôl-weithredol, lle mae datblygiad wedi mynd yn ei flaen heb gais am ganiatâd cynllunio. · Ffioedd ceisiadau cynllunio yn seiliedig ar adennill costau llawn, a’u bod yn cael eu diwygio’n unol â chwyddiant. · Pan fo perchennog tir yn torri rheolaeth gynllunio ond yn gwrthod cyflwyno cais ôl-weithredol ac nad yw camau gorfodi yn hwylus, rhoddir pwerau i'r Awdurdod Cynllunio lleol ddirwyo'r sawl sydd wedi tramgwyddo, o bosibl ddyblu'r ffi cais cynllunio perthnasol. · Dileu'r gofyn i hysbysebu ceisiadau cynllunio unigol yn y cyfryngau ... gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem 13. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Hysbysiad o Gynnig - Dynodi Parc Cenedlaethol newydd
Nodiadau’rCyngor 1 Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy eisoes yn bodoli. 2 Yr ymrwymiad yn y rhaglen Llywodraeth LB/PC i greu Parc Cenedlaethol newydd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. 3 Cyhoeddi dogfennau cyfarwyddyd ar gyfer Prosiect Dynodi Parc Cenedlaethol Gogledd Ddwyrain Cymru ar 18 Gorffennaf gyda chais i GNC i edrych ar yr achos dros Barc Cenedlaethol newydd.
Mae’r Cyngor am fynegi pryder bod
1
Y ffin ymgynghori wedi'i hymestyn ymhell y tu hwnt
i'r hyn sydd yn Rhaglen y Llywodraeth i gynnwys ardal fawr o Sir
Drefaldwyn cyn belled i'r de â Llangadfan a Llanerfyl ar yr
A458. 2
Mae gan y dynodiad arfaethedig newydd hwn y potensial
i gynyddu'r pwysau ar brisiau tai, mwy o bwysau twristiaeth gyda
chreu potiau mêl a thagfeydd mewn ardal o seilwaith ffyrdd
cyfyngedig, ac ansicrwydd pellach i'r gymuned ffermio. 3 Gyda'r Parciau Cenedlaethol presennol eisoes yn wynebu toriadau a phwysau ariannol, mae'n anochel felly y bydd creu awdurdod lleol ychwanegol yn ei hanfod yn tynnu o'r un pot o arian sy'n lleihau o hyd ac o hyd a bydd hyn ar draul trigolion a busnesau ym Mhannau Brycheiniog.
Mae’r Cyngor o’r farn
2. Bydd y gynrychiolaeth gymharol fach o Bowys ar bwyllgorau yn arwain at ddiffyg democrataidd o ran penderfyniadau cynllunio a datblygu economaidd.
Bod y Cyngor yn penderfynu Gwrthwynebu’n ffurfiol cynnwys ardaloedd o Bowys yn ardal y Parc Cenedlaethol newydd ac yn argymell uchafswm ffin ddeheuol yn seiliedig ar ffin y sir a chribau copaon Bryniau Berwyn.
Cynigirgan y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan Eiliwydgan y Cynghorydd Sir Bryn Davies
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Bydd yr eitem ganlynol yn cael ei gymryd am 12.00 p.m. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tân Derbyn cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tân, Roger Thomas. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||
Ar ol y cyfarfod bydd y Prif Weithredwr yn briffio'r Cynghorwyr ar y Strwythur Arwain Corfforaethol Dogfennau ychwanegol: |