Agenda

Lleoliad: Ar Teams - By Teams. Gweld cyfeiriadau

Cyswllt: Stephen Boyd  01597 826374

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 784 KB

Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2021 fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

3.

Datganiadau o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr Agenda.

4.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor.

5.

Cyhoeddiadau'r Arweinydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd.

6.

Briff gan y Prif Weithredwr

Derbyn briff gan y Prif Weithredwr.

7.

Penderfyniad Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23 pdf icon PDF 971 KB

Cymeradwyo penderfyniad Treth y Cyngor a gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23.

8.

Cymeradwyo Cytundeb Cyflawni ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd Powys a chytuno i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru pdf icon PDF 210 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Eiddo, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

9.

Datganiad Polisi Cyflogau 2022/23 pdf icon PDF 310 KB

Ystyried y datganiad polisi cyflogau ar gyfer 2022/23.

Dogfennau ychwanegol:

10.

Cyfansoddiad pdf icon PDF 157 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

11.

Cynllun Deisebau

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.

 

12.

Penodi Aelodau Annibynnol (Lleyg) ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 368 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.

 

13.

Penodiadau i'r Pwyllgor Safonau

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Demoecrataidd.

14.

Penodiadau i Bwyllgorau

Penodwyd y Cynghorydd Sir Graham Breeze i'r Pwyllgor Cyflogaeth ac Apeliadau yn lle'r Cynghorydd Sir Phil Pritchard gan y gr?p Annibynnol.

 

Penodwyd y Cynghorydd Sir Michael J Jones i Bwyllgor Craffu yr Economi, y Trigolion a Chymunedau yn lle'r Cynghorydd Sir Phil Pritchard gan y gr?p Annibynnol.

 

Penodwyd y Cynghorydd Sir Edwin Roderick i'r Pwyllgor Craffu Iechyd a Gofal yn lle'r Cynghorydd Sir Phil Pritchard gan y gr?p Annibynnol.

 

Penodwyd y Cynghorydd Sir David Evans i'r Pwyllgor Trwyddedu yn lle'r Cynghorydd Sir Phil Pritchard gan y gr?p Annibynnol.

 

 

 

15.

Rhybudd o Gynnig - COEDWIGO CYFRIFOL - DULL CYNALIADWY NAD YW'N ECSBLOETIOL

Mae'r Cyngor yn mynegi ei bryder ynghylch prynu ffermydd teuluol ym Mhowys a'r rhanbarth ehangach gan gwmnïau rhyngwladol i blannu coed er mwyn creu 'credydau carbon' sy'n cael eu gwerthu i gwmnïau sy'n llygru i gyrraedd eu targedau gwrthbwyso carbon.     

  

Er ei fod yn derbyn bod plannu coed ar raddfa fawr yn cael ei gydnabod fel un ffordd o fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae'r Cyngor yn gresynu bod gwrthbwyso carbon yn caniatáu i'r cwmnïau sy'n gollwng llawer o garbon barhau â'u hymddygiad anghynaliadwy. 

  

At hynny, mae'r Cyngor yn nodi bod cwmnïau rhyngwladol eisoes wedi hawlio dros £1.3m gan Lywodraeth Cymru drwy gronfa Glastir - Creu Coetir, sy'n golygu bod trethdalwyr Cymru yn rhoi cymhorthdal i raglenni gwrthbwyso carbon cwmnïau o'r tu allan i Gymru. 

  

Mae'r Cyngor yn cefnogi'r egwyddor o goedwigaeth gyfrifol ond mae'n credu bod yn rhaid gwneud hyn mewn ymgynghoriad â chymunedau lleol, ac ni ddylai gael effaith andwyol ar gyflogaeth leol, diwylliant a hyfywedd cymunedol. 

 

Mae'r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

·                     Sicrhau nad yw cwmniau rhyngwladol sy’n prynu ffermydd i blannu coed er mwyn creu 'credydau carbon' sy'n cael eu gwerthu i gwmnïau sy'n llygru i gyrraedd eu targedau gwrthbwyso carbon yn cael eu sybsideiddio gan drethdalwyr Cymru.     

·                     Cyflwyno deddfwriaeth datblygu cynllunio i alluogi awdurdodau cynllunio lleol fel Powys i reoli prosiectau coedwigo, a phennu terfyn ar gyfran y tir ar unrhyw fferm y gellir ei defnyddio ar gyfer coedwigo heb fod angen caniatâd cynllunio  

·                     Cyflawni ei chynlluniau coedwigo drwy ddatblygu cwmni hyd braich sy'n eiddo cyhoeddus i reoli coedwigaeth Cymru a helpu i gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau allyriadau carbon

 

Mae'r Cyngor yn cydnabod barn ymgyrchwyr amgylcheddol nad ateb syml yw plannu coed i osgoi newid yn yr hinsawdd ac mae'n cytuno mai dim ond cwtogiad sydyn ar losgi tanwydd ffosil all atal y cynnydd parhaus a brawychus mewn tymheredd byd-eang”.   

 

Cynigwydgan Cyngh. Elwyn Vaughan

Eiliwydgan Cyngh. Bryn Davies

 

S151 Sylwadau swyddogion ar y goblygiadau o ran costau

Ni fydd unrhyw ganlyniad ariannol o'r cynnig arfaethedig gan ei fod ond yn gofyn am ohebiaeth â Llywodraeth Cymru am y sefyllfa a nodir uchod.  Ni ddisgwylir unrhyw gamau gweithredu na chostau pellach.

 

 

16.

Rhybudd o Gynnig - Tlodi Tanwydd

Mae'r Cyngor hwn yn nodi bod ei Asesiad Llesiant ei hun o 2017 yn cofnodi bod tua 9,500 o aelwydydd ym Mhowys (17%) mewn tlodi tanwydd.

Mae'r Cyngor hwn yn nodi ymchwil gan felin drafod y Resolution Foundation sy'n datgelu bod nifer yr aelwydydd yn y DU sy'n dioddef o 'straen tanwydd' – y rhai sy'n gwario o leiaf 10% o'u cyllidebau teuluol ar filiau ynni – i fod treblu i 6.3m pan ddaw'r cap newydd ar brisiau ynni i  mewn ar 1 Ebrill 2022.

 

Mae'r Cyngor hwn yn cytuno â'r 'Arbenigwr Arbed Arian' uchel ei barch  Martin Lewis ‘nad gor-ddweud yw dweud y bydd pobl yn y wlad yn dewis rhwng gwresogi a bwyta erbyn mis Ebrill.'

 

Mae'r Cyngor hwn yn nodi ac yn croesawu Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Llywodraeth Cymru a oedd yn rhoi taliad untro o £200 i aelwydydd y gellir eu talu tuag at dalu biliau tanwydd gaeaf.

 

Mae'r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth y DU a'n Haelodau Seneddol lleol i ddod a’r oedi i ben ar ddelio â'r argyfwng costau byw sy'n wynebu teuluoedd Powys a chymryd camau ar unwaith ac yn sylweddol i gefnogi aelwydydd sy'n cael trafferth gyda'r cynnydd sydyn diweddar yng nghostau ynni cartrefi a'r cynnydd i ddod yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

 

Mae'r Cyngor hwn yn penderfynu i alw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau ar unwaith i gefnogi teuluoedd ym Mhowys drwy gael gwared ar TAW ar filiau ynni am o leiaf flwyddyn; cynyddu'r Disgownt Cartrefi Cynnes o £140 i £400 y flwyddyn ac ehangu nifer yr aelwydydd cymwys i 9.3 miliwn; a chyflwyno cynnydd o flwyddyn i flwyddyn i dreth gorfforaethol cynhyrchwyr olew a nwy Môr y Gogledd er mwyn sicrhau gostyngiad o £1.2 biliwn ffawdelw o’r elw yn y cynnydd mewn prisiau i helpu i liniaru biliau ynni cartrefi.

 

Cynigydd: Cyngh. Matthew Dorrance
Eilydd: Cyngh. Sandra Davies

 

Sylwadau’r Swyddog Adran 151 ar y Gofynion Adnoddau

Mae’r cynnig arfaethedig yn gofyn i’r cyngor i ysgrifennu i’r llywodraeth genedlaethol i ofyn am newidiadau ledled y wlad i wella tlodi tanwydd.  Nid yw'n ymddangos bod angen unrhyw beth pellach o'r cynnig hwn, felly prin yw'r effaith ariannol, er y gallai fod angen amser swyddogion i helpu i baratoi'r llythyr, sy'n debygol o fod yn bosibl os caiff ei gynllunio yn eu dyddiaduron.

 

 

 

17.

Rhybudd o Gynnig - Deddf y Lluoedd Arfog 2021

Mae'r Cyngor hwn:

 

·                     Yn sefyll yn gadarn y tu ôl i'n Lluoedd Arfog yn y DU gan gefnogi nodau Cyfamod y Lluoedd Arfog yn llwyr.

·                     Yn croesawu Deddf newydd y Lluoedd Arfog ond yn gweld y ddeddfwriaeth fel cyfle a gollwyd i wella bywydau cyn-filwyr ym Mhowys.

·                     Yn nodi â siom bod y Ddeddf, sy'n gwneud Cyngor Sir Powys a chyrff cyhoeddus lleol yn rhwym yn gyfreithiol i gael "sylw dyledus" i'r Cyfamod wrth ddarparu cymorth i gymunedau'r Lluoedd Arfog, yn eithrio llywodraeth ganolog o unrhyw ddyletswydd o'r fath, gan greu Cyfamod dwy haen ar gyfer cyn-filwyr.

·                     Yn nodi gyda siom pellach bod Aelodau Seneddol Ceidwadol wedi pleidleisio i lawr cynigion a oedd wedi’u harwain gan Lafur, gyda chefnogaeth y Lleng Brydeinig Frenhinol a chyn-benaethiaid y Gwasanaeth, i ymgorffori'r Cyfamod yn llawn yn y gyfraith a gwella llety, cymorth cyflogaeth a phensiynau'r Lluoedd Arfog ac i roi terfyn ar sgandal ffioedd visa ar gyfer personél y Gymanwlad a Gurkha.

·                     Yn penderfynu parhau i ymgyrchu gydag elusennau'r Lluoedd Arfog i gael Llywodraeth y DU i gryfhau'r Cyfamod a gwella gwasanaethau hanfodol i gyn-filwyr.

 

 

CynigyddCyngh. Matthew Dorrance
Eilydd: Cyngh.David Meredith

 

Sylwadau’r Swyddog Adran 151 ar Ofynion Adnoddau:

Mae'r cynnig yn gofyn am gamau i alw ar y llywodraeth i wneud mwy a rhannu'r cyfrifoldeb, y gellid ei wneud drwy ysgrifennu a mynegi barn am ymrwymiad llywodraethau cenedlaethol i gefnogi hyn – sy'n ariannol yn fach iawn o ran cost barhaus, er y gallai fod angen amser swyddogion i helpu i baratoi'r llythyr, sy'n debygol o fod yn bosibl os caiff ei gynllunio yn eu dyddiaduron.

Mae goblygiadau ehangach i'r cyfamod a'r weithred hon, ac efallai y byddwn eisoes yn ymgymryd â neu efallai y bydd yn rhaid i ni ddarparu cymorth ychwanegol gan addysg, tai a gofal cymdeithasol sy'n ymrwymo i welliannau / newidiadau penodol sy'n cefnogi'r cyn-filwyr - ni ymchwiliwyd i natur yr hyn a ddarparwn eisoes a'r hyn y gallai fod ei angen yn y dyfodol ar y pryd hwn.

 

 

18.

Rhybudd o Gynnig - Trawsnewid Ysgolion

Nodiadau'r Cyngor

1 Ffocws Estyn ar bryderon ynghylch perfformiad yr awdurdod wrth gyflawni ar gyfer Ysgolion Uwchradd Powys yn ei adroddiad yn 2019

2 Y sesiynau ymgynghori a briffio a gynhaliwyd cyn Chwefror 2020 i sefydlu'r rhaglen trawsnewid ysgolion presennol

3 Cyflwyniad y Pennaeth o Ddolgellau fel rhan o'r gynhadledd ymgynghori trawsnewid ar fanteision ysgolion clwstwr mewn ardaloedd gwledig

4 Y newidiadau mawr i'r ffordd y mae ysgolion wedi gweithio yn ystod pandemig Covid

5 Y sylwadau diweddar mewn Papur Briffio Aelodau ar Drawsnewid Ysgolion gan Bennaeth Uwchradd Powys mewn ysgol pob oed gan adlewyrchu, er bod ysgol pob oed yn gweithio, ei fod yn dymuno y gallai fod wedi ymestyn y manteision drwy gynnwys pob ysgol gynradd yn y clwstwr

6 Bod y Cyngor ar fin dechrau datblygu Cynllun Datblygu Lleol newydd gan fod yr un presennol wedi methu â chyflwyno nifer yr eiddo mewn ardaloedd trefol yr oedd disgwyl iddo

Y Cyngor yn Credu

1 Mae rhaglenni trawsnewid llwyddiannus yn rhai sy'n pwyso a mesur eu cyfeiriad os oes newidiadau cymdeithasol neu fusnes mawr a allai newid y model o ddarparu gwasanaethau arfaethedig

2 Bod pandemig Covid yn cynrychioli newid mor sylfaenol mae ei effaith dim ond nawr yn dechrau dod yn amlwg ym marchnad dai Powys gydag effaith ddemograffig sy'n deillio o hynny.

3 Bod y cydweithio agos a ddatblygwyd o fewn clystyrau ysgolion dros y 24 mis diwethaf yn golygu y gallai rhannau helaeth o'r sail ar gyfer newid sy'n atgyfnerthu’r rhaglen drawsnewid bresennol, yn enwedig mewn perthynas â chyflwyno'r cwricwlwm newydd, fod wedi'u disodli gan newidiadau i ffyrdd o weithio ar lawr gwlad

4 Nad yw'r model ysgolion clwstwr fel yr amlinellwyd yn y gynhadledd drawsnewid, a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol fel sail ar gyfer newid, wedi'i brofi'n briodol fel ffordd ymlaen yn unrhyw un o'r cynigion trawsnewid presennol, gan adael y Cyngor yn agored i Adolygiad Barnwrol mewn perthynas â pholisi Ysgolion Gwledig Llywodraeth Cymru o fewn y Cod Trefniadaeth Ysgolion

5 Yn absenoldeb y wybodaeth hon, efallai y byddai’r Cabinet wedi gwneud penderfyniadau y byddent am eu hailystyried gyda sesiynau briffio ychwanegol.

 

Felly, mae’r Cyngor yn gofyn i'r Cabinet

1 I oed am flwyddyn holl gynigion cau presennol sydd wedi'u cymeradwyo gan y Cabinet dros y 18 mis diwethaf.

2 Gofyn i'r tîm trawsnewid gynnal adolygiad cynhwysfawr o'r tybiaethau sy'n sail i'r rhaglen mewn perthynas â newidiadau a wnaed i ffyrdd o weithio o fewn clystyrau yn ystod Pandemig Covid

3 Gofyn i'r tîm trawsnewid gynnal adolygiad cynhwysfawr o'r model ysgolion clwstwr a gynigiwyd yn y gynhadledd drawsnewid, a fydd yn helpu i ddatblygu darpariaeth uwchradd ac ôl-19, ond nad yw wedi'i hystyried yn unrhyw un o'r cynigion dilynol.

4 Bod y ddau adroddiad yn cael eu cyhoeddi cyn diwedd tymor academaidd yr haf a'u bod ar gael i'w trafod gan y cyngor llawn a chraffu cyn i'r penderfyniadau presennol naill ai gael eu hailgadarnhau neu y rhoddir y gorau iddynt yn ystod tymor yr hydref 2022 i'w gweithredu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.  ...  gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem 18.

Canlyniadau'r Bleidlais pdf icon PDF 438 KB