Agenda

Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells

Cyswllt: Stephen Boyd  01597 826374

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Derbynymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 663 KB

Awdurdodi’rCadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

3.

Datganiadau o ddiddordeb

Derbynunrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda.

4.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Derbynunrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor.

 

5.

Cyhoeddiadau'r Arweinydd

Derbynunrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd.

6.

Cyhoeddiadau Cyhoeddus

6.1

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Addysg gan Katherine Lewis pdf icon PDF 113 KB

Gan dybio eich bod yn ymwybodol o gynnwys llythyr diweddar Dr Caroline Turner at bob Pennaeth o ran y streic Hinsawdd Fyd-eang ar ddydd Gwener 20 Medi 2019 ac yn ei gymeradwyo, hoffwn wybod ar ba sail y mae’r hyn sydd wedi cael ei ddysgu o fewn y cwricwla Gwyddoniaeth a Daearyddiaeth am y tri degawd diwethaf o leiaf yn cael ei ystyried yn “Wleidyddol”? 

 

7.

DIWEDDARIAD AR EIN CYNLLUN GWELLA CORFFORAETHOL DRAFFT - GWELEDIGAETH 2025 AC ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2019 pdf icon PDF 201 KB

Derbyn ac ystyried Diweddariad ar ein Cynllun Gwella Corfforaethol Drafft – Gweledigaeth 2025 ac Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

8.

Trosglwyddiadau'r Gyllideb

8.1

Trosglwyddiadau Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu pdf icon PDF 247 KB

8.2

Trosglwyddiad ar gyfer Ysgol Uwchradd Gwernyfed pdf icon PDF 80 KB

8.3

Trosglwyddiadau ar gyfer Prosiectau yr Unfed Ganrif ar Hugain pdf icon PDF 287 KB

9.

Newidiadau i'r Rheoliadau Ariannol ar gyfer Trosglwyddiadau pdf icon PDF 18 KB

Ystyriedadroddiad y Pennaeth Cyllid.

10.

Adroddiad ar Arbedion Effeithlonrwydd ar31 Awst 2019 pdf icon PDF 524 KB

Ystyriedadroddiad yr Aelod Portffolio ar faterion Cyllid, Cefn Gwlad a Thrafnidiaeth.

11.

Argymhellion gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 141 KB

Ystyriedargymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

12.

Penodiadau ar Bwyllgorau a Chyrff Allanol

12.1

Cyngor Iechyd Cymunedol Powys

Penodi aelod o Sir Drefaldwyn i Gyngor Iechyd Cymunedol Powys i gymryd lle’r Cynghorydd Sir Heulwen Hulme.

12.2

Partneriaeth Chwaraeon Brycheiniog a Maesyfed

Penodiaelod o Sir Faesyfed i lenwi swydd wag.

12.3

Cist Cymunedol Sportlot

Penodiaelod o Sir Faesyfed i lenwi swydd wag.

12.4

Penodiadau a wnaed gan grwpiau gwleidyddol ac a gymeradwywyd gan y Swyddog Monitro

Nodi’rpenodiadau canlynol a wnaed I bwyllgorau gan grwpiau gwleidyddol ac a gymeradwywyd gan y Swyddog Monitro o dan y bwerau cyffredinol o ddirprwyaeth a roddwyd gan y Cyngor ar 16 Mai 2013:

 

Penodi’rCynghorydd Sir Iain McIntosh I’r Pwyllgor Safonau yn lle Sarah Lewis.

 

13.

RHYBUDD O GYNNIG - YMGYRCH RHUBAN GWYN

Bod Cyngor Sir Powys yn cefnogi’r ymgyrch Rhuban Gwyn.

 

Mae’r ymgyrch Rhuban Gwyn yn annog dynion i:

·         ymgysylltu â dynion eraill i siarad am drais yn erbyn menywod a merched; 

·         gwisgo rhuban gwyn;

·         addunedu i beidio byth â chyflawni, esgusodi na pharhau’n ddistaw am drais gan ddynion yn erbyn merched.

 

Cynigydd: Cynghorydd Matthew Dorrance.

Eilydd: Cynghorydd Michael Williams.

 

14.

RHYBUDD O GYNNIG - FFRAMWAITH DATBLYGU CENEDLAETHOL

Mae’r Cyngor hwn yn gwrthwynebu’n gryf o ran derbyn newid arwyddocaol i’r dirwedd o ganlyniad i effaith gronnus datblygiad gwynt a solar o bwys, a chysylltiad â’r grid, sy’n ymwneud ag Ardaloedd o Flaenoriaeth ar gyfer Ardaloedd Gwynt a Solar o fewn Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Mae’r Cyngor hwn yn gofyn am sicrwydd y bydd cyfeiriad dilys yn cael ei wneud mewn unrhyw ymateb i Bolisi Adnewyddol RE1, Polisi Tirwedd DM4 a’r canllaw Cynllunio Atodol perthynol ar gyfer y polisïau hyn.

 

Cynigydd – Cynghorydd Sir Jonathan Wilkinson

Eilydd – Cynghorydd Sir Amanda Jenner

15.

RHYBUDD O GYNNIG - GWAREDU Â CHYSYLLTIAD CRONFA BENSIWN POWYS Â'R MAES TANWYDD FFOSIL

Mae’r cyngor yn galw am gymorth Pwyllgor Cronfa Bensiwn Cyngor Sir Powys i ystyried y canlynol:

·         Parhau cymorth parhaus ar gyfer yr egwyddor o beidio â buddsoddi mewn  cwmnïau sy’n ymwneud ag echdynnu tanwydd ffosil, er mwyn gwaredu â pherchen ecwitïau a bondiau cofforaethol, ynghyd ag unrhyw gronfeydd cymysg gan gwmnïau sy’n ymwneud ag echdynnu tanwydd ffosil

·         Mabwysiadu Nod 13 Datblygiad Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig:-

“Gweithredu ar frys i fynd i’r afael â newid hinsawdd a’i effaith”

 

·         A: cheisio pwyso ar aelodau Partneriaeth Pensiwn Cymru i bwyso am gytundeb llwyr i waredu â chysylltiad gyda thanwydd ffosil o fewn cyfnod o bum mlynedd. 

 

 

Os ydych yn rhoi mwy o ystyriaeth i effeithiau tanwydd ffosil – yna pleidleisiwch o blaid y cynnig hwn heddiw. Mae cwmnïau tanwydd ffosil yn cael eu sybsideiddio ar draul yr hinsawdd, ein hiechyd a’n dyfodol.

 

Ni allwn fforddio bellach i anwybyddu’r gost gyllidol o sybsideiddio a buddsoddi mewn tanwyddau ffosil.

 

Rydym yn derbyn ymhellach fod Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ymroddedig i fuddsoddi moesegol ond ddim yn glir am waredu â chysylltiad gyda busnesau byd-eang sy’n ceisio parhau i echdynnu tanwyddau ffosil a disbyddu’r amgylchedd naturiol o adnoddau pwysig.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Emily Durrant

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Jackie Charlton

 

 

Rydym yn gofyn fod y Cyngor hwn yn nodi:-

 

Fod Adran 6 dan Ran 1 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 wedi cyflwyno dyletswydd uwch o ran bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau (Dyletswydd Adran 6) ar gyfer cyrff cyhoeddus. Mae’r ddyletswydd yn gofyn bod rhaid i gyrff cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth cyn belled â bod hyn yn gyson ag ymarfer ei swyddogaethau’n gywir gan hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau trwy wneud hyn. Nid yn unig y bydd hyn yn diogelu ond yn gwella amodau i fioamrywiaeth ffynnu ac yn gwneud cyfraniad o bwys tuag at ostwng difrod i’r hinsawdd.

 

Mae Newid yn yr Hinsawdd yn fygythiad o bwys ac mae cymorthdaliadau enfawr a diangen gan Gronfeydd Pensiwn mawr a’r llywodraeth yn sicrhau fod echdynnu tanwyddau ffosil cyfyngedig yn parhau sy’n ychwanegu ar allyriadau carbon a’r argyfwng newid hinsawdd. Ceir cydnabyddiaeth eang ein bod wedi myned i mewn i ‘ARGYFWNG HINSAWDD’.

 

Dylem, fel cynghorwyr, nodi ymhellach gasgliadau’r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd sef “ein bod eisoes yn gweld canlyniadau 1°C o gynhesu byd-eang trwy dywydd mwy eithafol, lefelau’r môr yn codi a’r lleihad yn iâ môr yr Arctig”.

 

Rydym yn gofyn fod cynghorwyr yn nodi canfyddiadau’r Panel Rhynglywodraethol fod “cynhesu o 1.5ºC  neu uwch yn cynyddu’r perygl sy’n gysylltiedig â newidiadau hirhoedlog neu newidiadau na ellir eu gwyrdroi, megis colli rhai ecosystemau,” ac y byddai “cyfyngu ar gynhesu byd-eang i 1.5°C yn gofyn am drawsnewidiadau ‘cyflym a phellgyrhaeddol’ mewn tir, ynni, diwydiant, adeiladau, cludiant/trafnidiaeth a dinasoedd. Byddai angen i allyriadau carbon deuocsid (CO2) net byd-eang a achosir gan ddynol ryw ostwng gan tua 45 y cant o lefelau 2010 erbyn 2030, gan gyrraedd ‘sero net’ erbyn 2050.” 

 

Rydym yn gofyn hefyd fod cynghorwyr yn nodi ein bod, trwy waredu, yn anfon neges i’r llywodraeth fod sybsideiddio  ...  gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem 15.

16.

RHYBUDD O GYNNIG - CADWRAETH AC AIL-WYLLTIO

Mae’r Cyngor yn nodi’r prosiect dan arweiniad Rewilding Britain yn yr ardal o Fachynlleth a Llanidloes hyd at Aberystwyth, o’r enw ‘Mynydd i’r Môr’ sy’n cynnwys 38,000 hectar.

Tra bo’r Cyngor yn nodi ei gefnogaeth i waith cadwraeth o fewn cymunedau, mae’n gwrthwynebu gweithgareddau Rewilding Britain yng nghanolbarth Cymru.

Ymhellach at hyn, mae’n gofyn i ‘brosiect Mynydd i’r Môr’ dorri ei gysylltiadau gyda Rewilding Britain ac i wreiddio unrhyw strwythur rheoli yn y dyfodol o fewn y cymunedau, i’w harwain gan y cymunedau mae’n eu gwasanaethu, ac i gynnwys partneriaid o’r fath megis undebau ffermio, Mentrau Iaith ac awdurdodau lleol fel mannau dechrau sylfaenol.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Bryn Davies

17.

Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad

17.1

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio dros Addysg oddi wrth y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt pdf icon PDF 121 KB

Mae’r Aelod Portffolio yn ddiweddar wedi gwrthod apeliadau gan rieni o ardal dalgylch Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn ymgeisio am gludiant ysgol ar gyfer eu plant i gampws Ysgol Calon Cymru Llanfair-ym-Muallt i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, ar y sail fod y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn debyg i’r ddarpariaeth yn Ysgol Calon Cymru, er gwaetha’r ffaith nad yw’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu yn amlwg ddim mor helaeth ag yr hyn yr ydyw yn Ysgol Calon Cymru, yn enwedig ym Mlynyddoedd 10 a 11.

 

O ystyried yr uchod, sut mae’r Aelod Portffolio yn cyfiawnhau ei phenderfyniad i wrthod yr apeliadau mewn amgylchiadau lle mae Cyngor Sir Powys yn parhau i ddarparu cludiant ysgol i rai dysgwyr o ardal dalgylch Ysgol Uwchradd Aberhonddu i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Calon Cymru, Llanfair-ym-Muallt, ac a yw hi’n gallu cadarnhau bod ei phenderfyniad i wrthod yr apeliadau hyn yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth bresennol ar Gydraddoldeb a’r ddarpariaeth o fewn Cynllun Strategol y Cyngor ar y Gymraeg mewn Addysg?  

 

17.2

Cwestiwn i'r Arweinydd oddi wrth y Cynghorydd Sir William Powell pdf icon PDF 63 KB

O ystyried y tebygolrwydd o naill ai Etholiad Cyffredinol neu Bleidlais Gadarnhau ar Brexit yn ystod yr wythnosau sydd i ddod – a’r pryderon a’r anghysonderau yn ystod yr Etholiad Cyffredinol diwethaf – beth mae’r Arweinydd yn ei wneud, mewn trafodaeth gyda’r Swyddog Canlyniadau i adolygu’r cyfarwyddyd ar Neilltuaeth, gan ei fod yn effeithio ar Swyddogion, Aelodau ac asedau Cyngor Sir Powys, er mwyn sicrhau ei fod yn gyson, yn gyfreithlon ac yn gymesur?

 

17.3

Cwestiwn i'r Arweinydd oddi wrth y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan pdf icon PDF 63 KB

Beth yw’r camau gweithredu arfaethedig gan yr aelod portffolio yn dilyn yr adroddiad annibynnol a sicrhawyd gan drigolion Aber-miwl sy’n awgrymu fod yr arolwg ecoleg a gynhaliwyd gan CSP yn is na’r safon a ddim yn unol ag arfer da na’r ddeddfwriaeth, ac o ganlyniad i hynny na ellir diystyru presenoldeb madfallod cribog yn iawn ar y safle? Yn benodol, a fydd yr aelod portffolio yn cynnig sicrwydd pendant na fydd unrhyw waith yn dechrau ar y safle tan y bydd cydymffurffiaeth lwyr â’r ddeddfwriaeth yn y cyswllt hwn?

 

17.4

Cwestiwn i'r Arweinydd oddi wrth y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt pdf icon PDF 62 KB

A all yr Aelod Portffolio roi amlinelliad o’r ymdrechion a wneir gan Gyngor Sir Powys i hyrwyddo grantiau ‘Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio’ i berchnogion a thenantiaid tymor hir o ran siopau canol tref yn nhrefi marchnad Powys? 

 

17.5

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio dros Addysg oddi wrth y Cynghorydd Sir Jon Williams pdf icon PDF 198 KB

Pan adeiladodd Tesco eu siop newydd yn Llandrindod, fe wnaeth gyflwyno £700,000 i adeiladu caban Sgowtiaid newydd. Adeiladwyd hwn ag arian ychwanegol a gyfrannwyd gan CSP i ychwanegu canolfan ieuenctid ar yr ochr. Am nifer o flynyddoedd, bu’n rhaid i’r Sgowtiaid ddelio â defnyddwyr eraill yr adeilad yn defnyddio eu lle ac yn achosi difrod. Roedd cytundeb dros y defnydd o’r adeilad a ffurfio pwyllgor rheoli i redeg yr adeilad. Nid yw’r rhain wedi cael eu hanrhydeddu er bod y Sgowtiaid wedi ymdrechu dros nifer o flynyddoedd i gael CSP i ddelio gyda’r materion. Ychydig wythnosau yn ôl, cafodd cyfarfod ei alw gan CSP gyda defnyddwyr yr adeilad i ddweud wrthynt eu bod wedi ymgeisio am nawdd grant i wneud rhan o’r adeilad yn swyddfa a chanolfan galw heibio. Mae hyn, yn amlwg, yn fater diogelu i’r grwpiau ieuenctid sy’n defnyddio’r adeilad. Mae nifer o faterion sydd dal heb eu datrys o hyd dros berchnogaeth a rheolaeth yr adeilad, nad yw’r sgowtiaid wedi cael ateb iddynt gan CSP ers mis Ionawr 2019 pan nodwyd ‘y byddwn yn ymateb yn fuan”. A all yr aelod portffolio ddweud wrthym ni pam nad ydynt wedi derbyn ateb, pam nad yw CSP wedi anrhydeddu’r cytundeb i ffurfio pwyllgor rheoli a pham y maent wedi mynd yn erbyn y cytundeb gwreiddiol sy’n nodi “Cynigir y dylid cyfyngu’r defnydd o’r cyfleuster newydd gan sefydliadau eraill i grwpiau ieuenctid yn unig. Bydd unrhyw gynnig yn y dyfodol i ganiatáu defnydd gan grwpiau nad ydynt yn rhai ieuenctid yn destun cytundeb gan y pwyllgor rheoli a chymeradwyaeth yn y pendraw gan Fwrdd y Cyngor yn dilyn ymgynghoriad gyda grwpiau defnyddwyr presennol gan gynnwys y Sgowtiaid.” 

 

17.6

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio dros Gyllid oddi wrth y Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe pdf icon PDF 85 KB

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Cyngor Sir Powys wedi edrych i waredu â gwasanaethau a’u cyflwyno i reolaeth y cymunedau. Fe wnaeth gr?p o wirfoddolwyr ymroddedig gymryd yr awennau gyda phwll nofio’r Gelli Gandryll ac ar hyn o bryd, maent yn cynnig gwasanaeth i dros 450 o bobl. Fe fyddai’r gwasanaeth hwn wedi cael ei golli ac mae’n hanfodol i’r gymuned gan na fyddai’r ysgol leol, hebddo, yn gallu cefnogi lefel y ddarpariaeth ac fe fyddai, o ganlyniad, yn arwain at yr isafswm o wersi pob blwyddyn, dim ond i ddiwallu gofynion y cwricwlwm cenedlaethol. Daw hyn ar gost i’r gymuned leol sy’n gweithio’n ddiwyd i sicrhau fod y gwasanaeth yn parhau ond mae yna filiau cynnal a chadw mawr ar adegau neu ddatblygiad sydd ei angen er mwyn iddynt gyrraedd safon gyfreithlon a diogel. Er enghraifft, mae’n rhaid i bwll nofio’r Gelli adnewyddu leinin y pwll a fydd yn costio tua £18k gan gynnwys TAW. Gyda chefnogaeth trigolion a sefydliadau cymunedol lleol, mae’r gymuned wedi codi ychydig dro £11k.  

Gan ystyried hyn, a all yr aelod portffolio edrych ar ffurfio cyllideb i ganiatáu i grwpiau cymunedol sydd wedi cymryd yr awennau gyda gwasanaeth i ymgeisio am fenthyciadau i gefnogi’r gwasanaeth sydd wedi’i fabwysiadu o fewn eu cymuned?

17.7

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio dros Bobl Ifanc a Diwylliant oddi wrth y Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe pdf icon PDF 78 KB

A all yr aelod portffolio gyflwyno diweddariad ar yr ymgynghoriad gyda chymunedau a grwpiau defnyddwyr ar ddyfodol llyfrgelloedd led led Cyngor Sir Powys yn unol â’r cynigion cyllidebol o ran cyllideb eleni a hefyd y gwaith a gynllunnir ar gyfer y rownd gyllidebol i 2020/21?

 

17.8

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio dros Gyllid, Cefn Gwlad a Thrafnidiaeth oddi wrth y Cynghorydd Sir Karen Laurie-Parry pdf icon PDF 64 KB

Mae gwariant mawr gan Gyngor Sir Powys fel ardal wledig fawr ar gostau Cludo dan Gontract, boed os yw’n gludiant cyhoeddus neu’n gludiant ysgol.

Rwy’n deall fod cyn Gyfarwyddwr wedi gofyn i’r Cabinet, adolygu Costau Cyfan o ran Bysys Cludiant, boed os ydynt yn gludiant cyhoeddus neu ysgol, er mwyn gweld lle y gellid gwneud unrhyw arbedion, ac fe wnes innau hefyd roi amlygrwydd i bryderon oedd gennyf i, o ran bysys gwag yn gweithredu ar adegau penodol o’r dydd. Mae’n debygol bod rhesymau logisteg dros hyn, ond gan ein bod yn disgwyl am grebachu pellach ar gyllidebau, a allwch ystyried cyflawni cais proffesiynol y cyn Gyfarwyddwr? 

 

Tra ein bod unwaith eto yn ystyried hyn yn faes sensitif, a allai’r Aelod Portffolio esbonio a chadarnhau a oes Arolwg Llawn ar Gostau Cludiant Cyhoeddus ac Ysgol wedi’i gynnal neu’n debygol o’i gynnal ai peidio?

17.9

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio dros Bobl Ifanc a Diwylliant oddi wrth y Cynghorydd Sir Karen Laurie-Parry pdf icon PDF 85 KB

Ym mis Mawrth, 2019, cefais sicrwydd oddi wrth cyn Gyfarwyddwr, y byddai dadansoddiad ariannol terfynol, o ran pwy all fod yn gyfrifol am yr oedi wrth adeiladu’r Gaer, Aberhonddu ac felly am y costau cynyddol. 

Byddai’r holl resymau’n cael eu harchwilio’n fforensig, er mwyn ystyried lle mae’r bai yn gorwedd ac roedd y cyn Gyfarwyddwr wedi cynnig parhau i fod ar gael hyd yn oed, i Gyngor Sir Powys er mwyn cynorthwyo gydag unrhyw wybodaeth gefndirol, cyn hired ag yr oedd hyn yn ofynnol.

Mae ffeil fanwl yn cael ei chadw, ar holl agweddau’r gwaith adeiladu. Roedd y ffeil hon i’w dadansoddi tuag at ddiwedd y contract, i ddynodi a ellir dilyn unrhyw hawliadau yn erbyn unrhyw barti yn bwrpasol. Bydd y peryglon o ddilyn hawliad angen dadansoddiad gofalus, oherwydd mae Cyngor Sir Powys yn gwybod y gall y broses gyfreithiol fod yn gostus, heb unrhyw sicrwydd o lwyddiant.

 

Tra’n gwerthfawrogi fod hwn yn faes sensitif, a all yr Aelod Portffolio esbonio a chadarnhau beth yw’r sefyllfa o ran dadansoddiad fforensig? Hefyd, a fydd Cyngor Sir Powys yn gallu gorfodi Gweithdrefnau Llys er mwyn ad-dalu taliadau i’r Cwmni Adeiladu dan gontract a Chwmni Rheoli Prosiect / Syrfewyr Meintiau dan gontract, petai’r Contract ddim yn cael ei gyflwyno ar amser ac o fewn cyllideb y Contract?

 

 

 

18.

Taliadau Uniongyrchol

Gwyliofideo ar daliadau uniongyrchol.  Gellir gweld y fideo yn y fan yma

https://www.youtube.com/watch?v=5xhLhmS1sSY

Canlyniadau'r Bleidlais pdf icon PDF 749 KB