Agenda

Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells

Cyswllt: Stephen Boyd  01597 826374

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 158 KB

Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 21 Chwefror, 7 Mawrth, 3 Mai a 16 Mai 2019 fel cofnodion cywir.

Dogfennau ychwanegol:

3.

Datganiadau o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda.

4.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor.

5.

Cyhoeddiadau'r Arweinydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd.

6.

Briff gan y Prif Weithredwr

Derbyn briff gan y Prif Weithredwr.

7.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

7.1

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Cyllid, Cefn Gwlad a Thrafnidiaeth gan Mr Jeremy Thorp pdf icon PDF 91 KB

Yn ystod cyfarfod y cyngor llawn ar 24 Ionawr 2019, derbyniwyd cynnig gan y cyngor (eitem 13.2) dan y teitl Calon Werdd Cymru.

 

A allech chi roi gwybod i mi:

 

a) Pa gynnydd sydd wedi bod ac yn benodol gydag eitemau 6 a 7 o dan y cynnig hwn (wedi’u hailadrodd isod) ac yn benodol, pa adnoddau ydych chi wedi dyrannu i’w ysgrifennu a pha ddyddiad sydd wedi cael ei bennu ar gyfer cwblhau’r strategaeth hon.

 

Cynnig 13.2, eitemau 6 a 7

       6.   Y dylai’rawdurdodroistrategaetharwaith sy’n ymarferol yn economaidd i leihau ei allbwn carbon ac ymdrechu i ddatblygu arferamgylcheddolgorauyneiadeiladau

 

     7.  Y dylai’rawdurdodedrychararfergorau o awdurdodaueraillmegis robinhoodenergy.co.uk gydaChyngor Swydd Nottingham a  theleccy.co.uk/about/ gydaChyngorDinasLerpwl, nidynuniggydadatblygucadwyniperchen a chyflenwiynnilleolondhefydwrthfyndi’rafaelgydathloditanwydd.

 

b) Pa aelod portffolio sy’n gyfrifol am weithredu’r cynnig hwn.

 

7.2

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion yr Economi a Chynllunio gan Dr Christine Hugh-Jones pdf icon PDF 119 KB

Yn?l bob tebyg, mae’r Adran Gynllunio yn rhoi ar waith gweithdrefnau ‘di-bapurnewydd ar gyfer delio â dogfennau sy’n cael eu derbyn oddi wrth ymgeiswyr, ymgynghorwyr statudol, grwpiau rhanddeiliaid ac aelodau o’r cyhoedd.

Aryr un pryd, nid yw sylwadau gan y cyhoedd a sefydliadau rhanddeiliaid yn cael eu cynnwys ar y porth cynllunio fel y maen nhw ar gyfer nifer o awdurdodau lleol eraill.   

Mae’rgweithdrefnau presennol yn cuddio’n effeithiol wybodaeth o’r cyhoedd sy’n berthnasol i benderfyniadau cynllunio.  Mae hyn yn codi pryderon difrifol am atebolrwydd cyhoeddus a chyfleoedd y cyhoedd i gyfrannu i’r broses gynllunio.

Pa gamau brys mae’r Cyngor yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod yr holl ddogfennau cynllunio perthnasol, yn cynnwys ymatebion gan y cyhoedd i ymgynghoriadau cynllunio, ar gael i’w gweld gan y cyhoedd ar y porth cynllunio a sut bydd y Cyngor yn cysylltu â’r cyhoedd i gyflawni hyn?

7.3

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion yr Economi a Chynllunio gan Mr Nigel Dodman pdf icon PDF 7 KB

A ddylai Adran Gynllunio Powys diddymu’r Amodau Cynllunio cyn-dechrau (ar gyfer Fferm Wynt Hendy) pan nad ydynt wedi gweld y cynlluniau llawn o’r hyn mae’r datblygwr yn bwriadu ei adeiladu?

 

8.

GWELEDIGAETH 2025 Drafft Diweddariad y Cynllun Gwella Corfforaethol ac Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019 pdf icon PDF 204 KB

Derbyn ac ystyried y Gweledigaeth 2025 Drafft Diweddariad y Cynllun Gwella Corfforaethol ac Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019.

Dogfennau ychwanegol:

9.

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 4 MB

Derbyn ac ystyried adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2018/19.

10.

Adroddiad Blynyddol Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau Mai 2018 - Mai 2019 pdf icon PDF 592 KB

Derbyn ac ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu Dysgu a Sgiliau ar gyfer 2018/19

11.

Lwfansau a Threuliau Aelodau 2018/19 pdf icon PDF 136 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

12.

Trosglwyddiadau i Gario Ymlaen Cyllidebau Heb Eu Dyrannu o'r flwyddyn ariannol 2018/19 i 2019/20 pdf icon PDF 158 KB

Ystyriedtrosglwyddiadau ar gyfer cynlluniau cyfalaf sydd ar y gweill y tu hwnt i £500,000 oedd heb eu cwblhau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol 2018/19 i gario ymlaen i 2019/20.

13.

Argymhellion gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

Ystyried argymhellion gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

13.1

Cwestiynau i'r Cyngor Sir gan y Cyhoedd pdf icon PDF 153 KB

13.2

Canllawiau Diogelwch Personol pdf icon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

14.

Penodiadau i Bwyllgorau a Chyrff Allanol gan Grwpiau Gwleidyddol sydd angen eu cymeradwyo gan y Swyddog Monitro

Nodi’rpenodiadau canlynol ar gyrff allanol a wnaed gan grwpiau gwleidyddol a chymeradwywyd gan y Swyddog Monitro o dan y pwer cyffredinol o ddirprwyo a roddwyd gan y Cyngor ar 16 Mai 2013:

 

Penodwyd y Cynghorydd Sir Mark Barnes i’r Pwyllgor Craffu Economi, Trigolion, Cymunedau a Llywodraethu gan y Grwp Ceidwadol.

15.

Rhybudd o Gynnig - Cyfiawnder Bwyd

Mae’rCyngorhwn yn nodi bod:

1. 8 miliwn o bobl yn y DU yn cael trafferth rhoi bwyd ar y bwrdd yn ?l y Cenhedleoedd Unedig;

2. dros 500,000 o bobl wedi defnyddio banciau bwyd yn y DU y llynedd.  Dosbarthodd yr Ymddiriedolaeth Trussell ei hun dros 1.3m o gyflenwadau bwyd brys am dri diwrnod i bobl mewn argyfwng yn ystod y flwyddyn ariannol 2017-2018;

3. 3 miliwn o blant mewn perygl o newyn yn ystod gwyliau’r ysgol;

4. hyd at 1 miliwn o bobl yn byw mewn anialwch bwyd yn y DU;

5. swm sylweddol o gyllideb y GIG yn cael ei wario ar drin diabetes.

Mae’rCyngor hwn yn nodi ymrwymiad Llywodraeth y DU i 17 Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig (Nodau Byd-eang) sy’n ymrwymo’r llywodraeth i ddod â newyn i ben erbyn 2030.

 

Mae’rCyngor hwn yn penderfynu:

1. sefydlu r?l aelod arweiniol gyda chyfrifoldeb am ddarparu cyfiawnder bwyd

2. gweithio gyda grwpiau cymunedol a phartneriaid i sefydlu partneriaeth bwyd (sefydliad dielw sy’n helpu pobl i ddysgu sut i goginio, bwyta diet iach, tyfu eu bwyd eu hunain a gwastraffu llai o fwyd); a

3. rhoi’r dasg i’r pwyllgor craffu i ymchwilio i ehangder y broblem ym Mhowys a’r hyn y gellir ei wneud i fynd i’r afael ag ef

 

Cynigydd: Cynghorydd Matthew Dorrance

Eilydd: Cynghorydd David Meredith

 

16.

Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad

16.1

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Priffyrdd, Ailgylchu ac Asedau gan y Cynghorydd Sir Bryn Davies pdf icon PDF 144 KB

Ynsgil y cyhoeddusrwydd diweddar yngl?n â phlastig a gwastraff arall yn cael ei gludo i Asia, a allwn ni gael cadarnhad am i le mae gwastraff o’r fath o Bowys yn mynd, a sicrwydd nad oes dim ohono’n cael eiddympioar wledydd eraill?

Dogfennau ychwanegol:

16.2

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Priffyrdd, Ailgylchu ac Asedau gan y Cynghorydd Gareth Ratcliffe pdf icon PDF 125 KB

Gyda’rpryderon cynyddol yn genedlaethol am y ffordd mae cynghorau wedi bod yn trosglwyddo ac yn gwaredu eu casgliadau ailgylchu gyda gwastraff wedi cael ei ddarganfod heb ei ailgylchu ond mewn safleoedd tirlenwi miloedd o filltiroedd i ffwrdd mewn mannau fel Tsiena ac India.  Hefyd, tynnwyd sylw at hyn gan Syr David Attenborough a’r plastig ym moroedd ein byd, mae mwy fyth o graffu ar y ffordd yr ydym yn gwaredu ein gwastraff ac yn ailgylchu ym Mhowys yn ogystal â chynghorau eraill yn y DU.  Ar garreg y drws, mae pobl yn gofyn i mi sut mae Cyngor Sir Powys yn gwaredu ein deunydd ailgylchu a’r gwastraff a gasglwn.  Un o’r cwestiynau sy’n cael ei godi yw a ydym yn ailgylchu ar gyfer CSP i fynd ar drywydd ffigwr a osodwyd yn genedlaethol neu a ydym yn ailgylchu er mwyn sicrhau dyfodol ein plant.  Credaf ei fod yn hanfodol bod pwrpas i’r hyn yr ydym yn ailgylchu a beth rydym yn ei ailgylchu i feithrin hyder yn y broses ac os ydym am gael trigolion i ymrwymo i’r broses hyn.

A all yr aelod portffolio briffio aelodau’r cyngor am sut mae’r cyngor yn ailgylchu ac ymhle mae deunyddiau ailgylchu’r cyngor yn cael eu prosesu er mwyn sicrhau bod ailgylchu yn golygu ailgylchu?

16.3

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Priffyrdd, Ailgylchu ac Asedau gan y Cynghorydd Sir Jackie Charlton pdf icon PDF 65 KB

Mae Llangatwg a Chrughywel 4 milltir yn unig o ffin Sir Fynwy a 6 milltir o ganolfan ailgylchu a gwastraff yn y Fenni.  Mae trigolion y ddwy gymuned yn defnyddio Y Fenni ar gyfer siopa, gweithgareddau diwylliannol, ymweliadau ysbyty a llawer mwy.  Mae trigolion Llangatwg a Chrughywel yn gofyn yn gyson pam na allant ddefnyddio'r ganolfan ailgylchu gwastraff yn y Fenni, a fyddai'n llawer haws, yn fwy cynaliadwy ac yn gwneud synnwyr perffaith.
Mae Aberhonddu dros 15 milltir i ffwrdd (taith yn ol ac ymlaen o 30 milltir) ac i rai hyd at 25 milltir (taith yn ol ac ymlaen o 50) ond mae’n rhaid i ni fynd ag unrhyw wastraff na ellir ei gymryd yn yr ailgylchu wythnosol i'r orsaf wastraff yn Aberhonddu.

 

Deallaf o ofyn am y mater hwn fod Powys a Sir Fynwy yn edrych ar drefn  a fyddai'n galluogi ein preswylwyr i ddefnyddio'r safle yn y Fenni.  Cafodd un o’n trigolion a oedd wedi bod yn ceisio trafod gyda Sir Fynwy i fynd a’u gwastraff i’r Fenni yr ymateb canlynol: -

 

Dros amser, rydyn ni wedi defnyddio {Y Fenni} yn llai nag y gwnaethom pan symudon ni gyntaf ond oherwydd rhywfaint o waith adnewyddu t? yn ddiweddar rydym wedi cronni mwy o eitemau diangen, a ddoe gwnaethom lenwi cist y car gyda nhw, dim ond i ddarganfod nad oeddwn yn gallu defnyddio safle Llanfoist mwyach oherwydd ein bod yn byw ychydig y tu allan i Sir Fynyw.  Felly fe wnaethom gael gair gyda swyddfa Powys y bore yma i weld ymhle mae ein cyfleuster agosaf ym Mhowys a dywedwyd wrthym mai Aberhonddu yw’r un agosaf sy’n 15 milltir i ffwrdd a’i fod ar gau heddiw ac yfory.  Mae’n debyg bod y safle agosaf nesaf 40 milltir i ffwrdd yn Llandrindod a dim ond 5 (ry’n ni’n deall) o safleoedd yn yr ardal eang sydd o fewn awdurdod Powys. 

Awgrymwydi ni gan y clerc yn swyddfa Powys y dylem gysylltu â Sir Fynwy i weld a allem felcymydogagos gael trwydded i ddefnyddio safle Llanfoist.  Er mawr syndod i ni, rydyn ni wedi cael gwybod gan glerc yn swyddfa Sir Fynwy fod Sir Fynwy wedi bod yn ceisio’n frwd i drafod trefniadau ar gyfer trigolion nad ydynt yn byw yn Sir Fynwy i ddefnyddio ei safleoedd ond hyd yn hyn mae hyn wedi cael ei wrthod (gan Bowys)”.

 

A allech chi fy sicrhau bod Powys yn gweithio gyda Sir Fynwy i ddod o hyd i ateb?

 

 

16.4

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Priffyrdd, Ailgylchu ac Asedau gan y Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe pdf icon PDF 64 KB

Bellachmae’r cyngor wedi bod yn rhedeg ei gasgliadau gwastraff o’r ardd am 3 mis ac mae bron i 7,000 o gasgliadau yn cael eu gwneud.  Rwy’n falch o weld ei fod yn gwrando ar bryderon trigolion am gasgliadau sy’n cael eu methu ac yn adolygu’r llwybrau casglu.  A all yr aelod portffolio darparu’r costau i’r gwasanaeth ynghyd a’r costau o sefydlu’r gwasanaeth a chostau parhaus ac incwm ar gyfer y gwasanaeth hwn?

16.5

Cwestiwn i'r Arweinydd gan y Cynghorydd Sir Lucy Roberts pdf icon PDF 138 KB

Credafmai un o’r materion pwysicaf y dylai’r cyngor fod yn mynd i’r afael ag ef ar hyn o bryd yw Newid yn yr Hinsawdd.  Dylem fod yn arwain y ffordd ac yn dangos ein hymrwymiad i’n trigolion, yn enwedig ein plant a phobl ifanc sy’n debygol o ddioddef fwyaf os nad yw ein byd yn newid.  Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar blastig un-tro lle’n bosibl ac mae hynny’n ddechreuad, ond mae cymaint mwy y gallwn ei wneud.  Un cam amlwg i’r cyfeiriad cywir fyddai i sicrhau bod pob adeilad newydd sy’n cael ei adeiladu gan y cyngor, yn cynnwys tai / fflatiau ac ysgolion yn cael eu hadeiladu i safonau carbon niwtral.  Un arall fyddai i wneud yn si?r fod pob adeilad y cyngor yn defnyddio ynni o ffynonellau cynaliadwy.  A all yr arweinydd cadarnhau bod hyn eisoes yn digwydd, ac os na, a allith hi roi sicrwydd y bydd mesurau o’r fath yn cael eu cymryd yn y dyfodol.  A allith hi hefyd roi ymrwymiad y bydd y cyngor yn gweithio tuag at fod yn garbon niwtral ar draws pob gwasanaeth, gan osod esiampl i gynghorau eraill, mewn da bryd cyn dyddiad terfyn Llywodraeth y DU o 2050?

 

16.6

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Llywodraethu Corfforaethol, Tai a Gwarchod y Cyhoedd gan y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan pdf icon PDF 8 KB

A all yr aelod portffolio ar faterion tai gadarnhau pryd y cafodd yr holl dai o dan ei gyfrifoldeb profion PAT a pha mor aml mae hyn yn cael ei wneud, fel sy’n ofynnol yn gyfreithiol fel landlord?

16.7

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Llywodraethu Corfforaethol, Tai a Gwarchod y Cyhoedd gan y Cynghorydd Sir Joy Jones pdf icon PDF 72 KB

Gyda’rdatblygiad newydd yn cael ei lansio yn y Drenewydd ychydig o wythnosau yn ol a’r holl addewidion o fflatiau newydd ar y safle drws nesaf i’r clwb bowlio sydd wedi cael ei adael am gyfnod hir, mae wedi bod yn eithriadol o siomedig i glywed o fewn wythnosau bod y contractwyr wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr gan adael ardal hyll yng nghanol y dref.

 

O gofio bod Dawnus wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn gynharach eleni a fydd yr Aelod Portffolio yn esbonio pa wiriadau a wnaed cyn penodi Jistcourt i wneud y gwaith a pham nad oedd gwarant bond banc yn ei le cyn iddynt ddechrau gwaith ar y safle?  Beth fydd yn cael ei wneud i sicrhau bod mwy o wiriadau yn y dyfodol a bod gwarantau bondiau banc yn eu lle cyn i’r gwaith ddechrau?

 

A wnaiff yr Aelod Portffolio rhoi gwybod i’r Cyngor faint o arian a gollwyd oherwydd hyn ac am ba mor hir fydd y cynllun yn cael ei oedi?

16.8

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Llywodraethu Corfforaethol, Tai a Gwarchod y Cyhoedd gan y Cynghorydd Sir David Selby pdf icon PDF 7 KB

A all yr Aelod Portffolio gadarnhau ei ymrwymiad i adeiladu 250 o dai Cyngor newydd o fewn y pum mlynedd nesaf?

16.9

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Llywodraethu Corfforaethol, Tai a Gwarchod y Cyhoedd gan y Cynghorydd Sir Roger Williams pdf icon PDF 85 KB

Faint o unedau tai cymdeithasol sydd wedi cael eu cwblhau gan y Cyngor Sir ers etholiadau’r Cyngor ym Mai 2017?

 

16.10

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Llywodraethu Corfforaethol, Tai a Gwarchod y Cyhoedd gan y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance pdf icon PDF 156 KB

A all yr Aelod Cabinet wneud datganiad am daliadau gwasanaeth a dalwyd i Gyngor Sir Powys gan denantiaid y Cyngor?

 

16.11

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Llywodraethu Corfforaethol, Tai a Gwarchod y Cyhoedd gan y Cynghorydd Sir Huw Williams pdf icon PDF 239 KB

Mewn Asesiad Lles a gynhaliwyd gan swyddogion Powys, gwelwyd bod 16% o aelwydydd Powys yn profi tlodi tanwydd.  Diffinnir hyn fel aelwyd sy’n gwario o leiaf 10% o’i incwm ar danwydd.  Derbyniodd y Cyngor Rhybudd o Gynnig gan y Blaid Lafur yn 2016 yn cytuno bod ynrhaid iddo wneud cymaint ag y gall i helpu trigolion sy’n dioddef tlodi tanwydd i liniaru’r sefyllfa’.  Hefyd, yn ddiweddar cyhoeddodd y Cynulliad Cenedlaethol ganllawiau yn amlinellu’r prif ffynonellau cyllid, a chyngor sydd ar gael i etholwyr sydd am wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.

 

O ystyried y Rhybudd o Gynnig a chanllawiau Cynulliad Cymru a all yr Aelod Portffolio rhoi diweddariad ar waith cyfredol y Cyngor i fynd i’r afael â thlodi tanwydd?

 

16.12

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Llywodraethu Corfforaethol, Tai a Gwarchod y Cyhoedd gan y Cynghorydd Sir Linda Corfield pdf icon PDF 86 KB

A fyddai’r Aelod Portffolio yn rhoi gwybod i Aelodau beth sy’n digwydd o ran symud y cynllun ECO3 newydd yn ei flaen?  Mae’n dipyn o amser ers cyhoeddi’r adroddiad SWAP ar ECO2.  Roedd adroddiad SWAP yn manylu ar nifer o fethiannau ECO2, a oedd wedi cael effaith mor andwyol ar fusnesau plymio lleol ym Mhowys. Ar ?l cyhoeddi adroddiad SWAP cafodd Aelodau gwybod bod gweithgor yn cael ei sefydlu i ystyried sut y byddai’r cynllun ECO3 newydd yn cael ei lunio a’i gweinyddu, fel nad oedd y mannau gwan yn ECO2 a oedd yn hawdd i fanteisio arnynt gan Asiantwyr y tu allan i Bowys yn cael eu hailadroddiad gyda’r cynllun ECO3 newydd.

 

16.13

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Llywodraethu Corfforaethol, Tai a Gwarchod y Cyhoedd gan y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan pdf icon PDF 85 KB

O dan y cynllun ECO2 cymeradwyodd Powys tua 3800 o geisiadau a gyflwynwyd iddynt gan asiantwyr ECO Flex.  O’r rhain, cadarnhawyd eu bod yn ymwybodol o 2048 o osodiadau a gwblhawyd.  Pan oedd y cyfrifoldeb ar asiantwyr ECO Flex i hysbysu’r cyngor o osodiadau a oedd wedi’u cwblhau, pa mor debygol yw hi fod nifer o’r 1800 a gymeradwywyd ac a honnir i fodar gollwedi cael eu cwblhau, ond heb eu hysbysu fel rhai wedi’u cwblhau i’r cyngor gan asiantwyr Eco Flex a gyflogwyd i redeg y cynllun? 

 

 

 

16.14

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Llywodraethu Corfforaethol, Tai a Gwarchod y Cyhoedd gan y Cynghorydd Sir Gwilym Williams pdf icon PDF 8 KB

Osyw’r cyngor yn penderfynu parhau gyda’r ECO3 LA Flex, rwy’n deall y byddant yn defnyddio Bancio Cymunedol Robert Owen i reoli ECO3 LA Flex ym Mhowys.  A yw Cyngor Sir Powys yn mynd i drosglwyddo’r cyfrifoldeb llawn ar gyfer rhedeg hwn i Robert Owen?  Yn cynnwys POB cais, fetio llawn ar gyfer y ddau meini prawf cymhwysedd (tlodi tanwydd ac EPC) cyn eu cymeradwyo

16.15

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Llywodraethu Corfforaethol, Tai a Gwarchod y Cyhoedd gan y Cynghorydd Sir Amanda Jenner pdf icon PDF 68 KB

Yngngoleuni canfyddiadau’r adroddiad ymchwiliad annibynnol i ECO2, a allwch chi roi eich sylwadau ar y canlynol:

 

Aallwch chi roi gwybod a oes swyddog arweiniol yn cadw mewn cysylltiad â gr?p plymio Powys ac aelodau i’w diweddaru’n uniongyrchol ar faterion a phryd y cawson nhw gysylltiad ffurfiol gyda diweddariad?  Os nad oes swyddog arweiniol a ellir mynd i’r afael â hyn. 

 

Rwy’ndeall y cytunwyd yn y pwyllgor cydlynu craffu y dylid llunio gweithgor ar y cyd (gydag aelodau wedi’u dewis o bwyllgorau economaidd ac archwilio) i adolygu’r adroddiad a chynnal unrhyw waith craffu pellach sydd ei angen.  Credaf fod angen eglurder ar eu rôl, er enghraifft gwersi a ddysgwyd o ECO2, camau lliniaru ar gyfer y cynllun yn y dyfodol, fetio datganiadau ymgeiswyr yn y dyfodol ac ystyriaeth o sgôp a’r diffiniad o dlodi tanwydd.  Hoffwn weld sgôp / cylch gorchwyl y gweithgor.

 

A fydd argymhellion pwyllgor y gweithgor ar gael i grwp plymio Powys a phob cynghorydd cyn y gwneir penderfyniad ar ECO2?  Pwy fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a fydd ECO3 yn mynd yn ei flaen neu beidio a’r newidiadau i’r ffordd mae’n cael ei roi ar waith/ gweithredu yn dilyn y pryderon a godwyd gydag ECO2?

16.16

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Priffyrdd, Ailgylchu ac Asedau gan y Cynghorydd Sir Jackie Charlton pdf icon PDF 64 KB

Rwy'n deall y problemau dros y blynyddoedd diwethaf gyda Gorchmynion Traffig y Ffyrdd.  Erbyn hyn mae ôl-groniad sy'n edrych yn anghynaladwy ac na ellir ei reoli.   A allech chi, fel yr Aelod Cabinet, roi rhywfaint o hyder i aelodau ac i drigolion bod Gorchmynion Traffig y Ffyrdd hanfodol yn nhermau lleihau cyflymder mewn ardaloedd a ddylai fod yn 30 mya yn hytrach na'r 60 mya yn eu lle mewn ardaloedd preswyl?

 

 

16.17

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Priffyrdd, Ailgylchu ac Asedau gan y Cynghorydd Sir Pete Roberts pdf icon PDF 9 KB

Ergwaethaf llwyddiant taith menywod OVO, mae’n anarferol i weld mwy nag un neu ddau o feiciau yn y rheseli beiciau yn neuadd y sir.

Pa gyfleusterau sydd ar gael i staff yn swyddfeydd y cyngor i wneud teithio llesol yn fwy atyniadol i staff y cyngor a sut y gellir ehangu’r rhain yn y dyfodol ar gyfer swyddogion ac aelodau o’r cyhoedd sy’n seiclo i’r gwaith yn ein trefi teithio llesol dynodedig?

 

16.18

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Llywodraethu Corfforaethol, Tai a Gwarchod y Cyhoedd gan y Cynghorydd Sir Jeremy Pugh pdf icon PDF 7 KB

Aallwch chi ddweud wrthyf faint o setliadau, cytundebau peidio â datgelu a chytundebau cyfaddawdu sydd wedi’u gwneud gan y Cyngor dros y ddwy flynedd ddiwethaf? 

16.19

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Cyllid, Cefn Gwlad a Thrafnidiaeth gan y Cynghorydd Sir Gwilym Williams pdf icon PDF 84 KB

Dywedodd y Prif Weithredwr Dros Dro yn y cyngor llawn y byddai ailstrwythuro uwch reolwyr yn arbed tua £1 miliwn.  Deallaf nad yw’r swm hwn wedi’i arbed.  A all yr aelod portffolio rhoi’r ffigwr i mi o’r arbedion o uwch reolwyr. 

16.20

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Cyllid, Cefn Gwlad a Thrafnidiaeth gan y Cynghorydd Sir Pete Roberts pdf icon PDF 62 KB

Yn y cyfarfod diweddar am drefniadau wrth gefn ar gyfer Brexit, awgrymais y dylai’r cyngor ystyried cefnogi’r marchnadwyn ysgafnpe bai Brexit dim bargen yn digwydd trwy roi cynlluniau yn eu lle i gynyddu ei ddefnydd o fewn ein hysgolion a gwasanaethau gofal.  Cytunodd yr Arweinydd a dywedodd y byddai hyn yn cael ei ddatblygu trwy gaffael.

 

Aallwch chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sydd wedi’i wneud ers y cyfarfod hwn a pha gynlluniau a rhwystrau i wneud hyn sydd bellach ar waith neu sy’n cael eu datrys?

 

 

16.21

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Cyllid, Cefn Gwlad a Thrafnidiaeth gan y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance pdf icon PDF 7 KB

A all yr Aelod Cabinet rhoi manylion am unrhyw gyfraniadau a wnaed gan Wasanaethau Eiddo Calon Cymru Cyf i gyllideb y Cyngor?

 

Bydd yr eitem canlynol am 2.00 p.m.

17.

Cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tan

Cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tân, Chris Davies.

Canlyniadau'r Bleidlais pdf icon PDF 122 KB