Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Zoom - Neuadd y Sir. Gweld cyfeiriadau
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
||
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2024 fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: |
||
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. Dogfennau ychwanegol: |
||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: |
||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. Dogfennau ychwanegol: |
||
Cwestiynau gan y Cyhoedd Dogfennau ychwanegol: |
||
Cwestiwn i Gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau a Buddsoddi gan Michael Brown A wnaiff y cyngor sicrhau nad oes unrhyw un o'i fuddsoddiadau cronfa bensiwn mewn perygl o fod o fudd i gwmnïau a allai fod yn gysylltiedig â throseddau rhyfel posibl, o ystyried y dystiolaeth gyfreithiol gynyddol o weithredoedd hil-laddiad sy'n cael eu cyflawni yn erbyn poblogaeth Gaza? Mae'n bwysig bod y Cyngor yn amddiffyn ei bensiynwyr presennol a'r dyfodol rhag unrhyw risg bod eu harian wedi'i fuddsoddi mewn gweithgarwch o'r fath yn fwriadol.
Dogfennau ychwanegol: |
||
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach gan Phil Ellis Mae Polisi Cludiant rhwng yr Ysgol a’r Cartref wedi’i diweddaru yn datgan: “Ni fydd hawl gan blentyn/plant i dderbyn cludiant am ddim o’r ysgol i’w cartref os yw rhieni / gofalwyr yn arfer eu hawl i ddewis ysgol nad yw eu hysgol dalgylch. ?
Fodd bynnag mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru 2008 yn nodi: "Mae'r pellteroedd a grybwyllir yng ngholofn 2 (priodoldeb yr ysgol) y tabl yn yr adran hon i'w mesur gan y llwybr byrraf sydd ar gael."
Yn benodol, nid oes cyfeiriad at ddalgylchoedd fel amod ar gyfer y gofyniad hwn. O ystyried hyn, hoffwn ofyn: A all deiliad y portffolio gadarnhau, os yw disgybl yn byw yn agosach at ysgol sydd y tu allan i'w dalgylch dynodedig, y bydd cludiant yn dal i gael ei ddarparu yn unol â'r Mesur Teithio i Ddysgwyr ac os na, a all deiliad y portffolio esbonio sut mae'r polisi hwn yn bodloni gofynion y Mesur Teithio i Ddysgwyr (Cymru)?
Dogfennau ychwanegol: |
||
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar gyfer Powys Fwy Diogel gan Gareth Hopkins Yn 2024, cynhaliais arolwg o holl Awdurdodau Lleol Cymru i gael gwybod am eu darpariaeth o gaeau chwarae. Ymatebodd pob cyngor heblaw am Sir y Fflint yn briodol. Yn benodol, roedd gen i ddiddordeb mewn darpariaeth caeau chwarae 3G, sef y cae pêl-droed artiffisial o ansawdd uchel sy'n rhoi’r cyfle i chwarae ym mhob tywydd ac sy'n bodloni gofynion pêl-droed.
Mae’r canlyniadau i’w gweld yn y tabl sydd wedi’i atodi.
0 cae pêl-droed 3G maint llawn ym Mhowys. 61 mewn mannau eraill yng Nghymru.
Dim ond 2 gae pêl-droed 3G llai ym Mhowys, ond nid yn Llanfair Caereinion, fel yr oedd y Cyngor yn falch iawn o’i gyhoeddi ym mis Chwefror 2022. Mae hyd yn oed y ddau gae 3G hyn ag oriau agor cyfyngedig iawn ar benwythnosau, sy'n golygu nad yw’n hawdd o gwbl eu llogi.
Pam fod y cyngor hwn wedi methu pêl-droedwyr ar lawr gwlad, yn enwedig y miloedd o ferched a bechgyn sy'n cael eu sesiynau hyfforddi a'u gemau wedi'u canslo bob wythnos gydag ychydig iawn o ddewisiadau eraill ym Mhowys, a beth y mae'n bwriadu ei wneud am y sefyllfa ar gyfer y dyfodol?
Dogfennau ychwanegol: |
||
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel gan Bev Jones Pryd ydych chi'n mynd i osod wyneb newydd ar fy ffordd er mwyn i mi allu mynd i siopa a mynychu apwyntiadau yn yr ysbyty heb fod yn bryderus fy mod yn mynd i ddistrywio fy nghar yn gyrru trwy dyllau ofnadwy yn y ffordd?
Dogfennau ychwanegol: |
||
Penderfyniad Treth y Cyngor ar gyfer 2025/26 Cymeradwyo penderfyniad Treth y Cyngor a gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2025/26. Dogfennau ychwanegol: |
||
Trosglwyddiadau'r Gyllideb Ystyried trosglwyddiadau’r gyllideb sydd angen cymeradwyaeth y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: |
||
Datganiad Polisi Cyflogau 2025/26 Ystyried Datganiad Polisi Cyflogau. Dogfennau ychwanegol: |
||
Estyniad i Dymor yn y swydd fel Aelod (Lleyg) Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyfreithiol a Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: |
||
Penodiadau i Gyrff Allanol Pwyllgor Rheilffordd Arfordir y Cambrian
Ystyried gwneud penodiad i’r Pwyllgor hwn. Mae’r Pwyllgor sy’n cwrdd dwywaith y flwyddyn yn cael ei rhedeg gan Gyngor Gwynedd. Y Cynghorydd ar gyfer Machynlleth sydd wedi bod y cynrychiolydd ar gyfer Powys ers nifer o flynyddoedd. Dogfennau ychwanegol: |
||
Hysbysiad o Gynnig - Argyfwng Diogelwch ar y Ffyrdd ym Mhowys Bu farw dros 100 o bobl ar ffyrdd Powys yn y 10 mlynedd hyd at 2024, gan wneud ein ffyrdd ymhlith y rhai mwyaf peryglus yn y DU.
Ym mis Mawrth 2024, cafodd adroddiad "Yr Argyfwng Diogelwch ar y Ffyrdd ym Mhowys" ei baratoi ar gais Gweinidog Priffyrdd Cymru ac fe'i cymeradwywyd gan Gabinet Powys. Fe'i hysgrifennwyd gan y Cyng, Jackie Charlton a Richard Church, gyda chymorth Priffyrdd Powys a Heddlu Dyfed Powys. Cafodd ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.
Er gwaetha'r adroddiad, mae marwolaethau ac anafiadau difrifol ar gefnffyrdd gwledig ym Mhowys yn parhau, ac nid yw'r argymhellion yn yr adroddiad wedi eu mabwysiadu eto.
Mae 73.5% o wrthdrawiadau difrifol ym Mhowys yn digwydd ar ffyrdd sydd â therfynau cyflymder cenedlaethol, yn bennaf ar gefnffyrdd.
Mae 35% o wrthdrawiadau angheuol yn ardal Heddlu Dyfed Powys yn cynnwys beicwyr modur, gyda 48% o'r rhain yn digwydd ym Mhowys. Amcangyfrifwyd bod cost pob anaf angheuol ar y ffordd yn y DU yn £2,527,520 yn 2022, yn ogystal ag effeithiau personol enfawr o drawma a phrofedigaeth.
Nod treial PRIMES (Gwybodaeth Canfyddiadol am Feicwyr ar gyfer Gwneud y Mwyaf o Arbenigedd a Mwynhad) yn yr Alban oedd gwella diogelwch beiciau modur trwy ddefnyddio marciau ffordd arbennig i arwain beicwyr modur drwy droeon. Mae mwy o wybodaeth am PRIMES ar gael ar y gwefannau canlynol: Project PRIME gains international recognition from road safety experts — Road Safety Trust a New road markings transform behaviour of motorcyclists on bends | Transport Scotland
Dyma’r prif ganfyddiadau:
Mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu y gallai gweithredu system marcio ffyrdd PRIMES ym Mhowys wella diogelwch beiciau modur ar ffyrdd gwledig. Cynnig y Cyngor
Dogfennau ychwanegol: |
||
Hysbysiad o Gynnig - Gwasanaethau yn Ysbyty Bronglais Mae Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth yn darparu gwasanaethau gofal iechyd hanfodol i gleifion yng Ngheredigion, Powys a'r Canolbarth ehangach. Yn ddiweddar codwyd pryderon unwaith eto am y posibilrwydd o gwtogi gwasanaethau yn yr ysbyty gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - y tro hwn gyda chwtogiad yn gwasanaethau strôc. Mae'r gr?p Diogelu Gwasanaethau Bronglais yn gweithio i ddiogelu'r gwasanaethau hanfodol hyn a sicrhau bod darpariaeth gofal iechyd yn cael ei cynnal ar gyfer y rhanbarth.
Cynnig:
Mae'r Cyngor hwn yn cefnogi ac yn annog, mewn egwyddor, waith y gr?p Diogelu Gwasanaethau Bronglais yn ei ymdrechion i atal unrhyw ostyngiad pellach o wasanaethau yn Ysbyty Bronglais gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Cynigwyd gan y Cynghorydd Elwyn Vaughan Eiliwyd gan y Cynghorydd Alwyn Evans
Dogfennau ychwanegol: |