Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Zoom - Neuadd y Sir. Gweld cyfeiriadau
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | |
---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
||
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2023, 24 Ionawr 2024 a 25 Ionawr 2024 fel cofnodion cywir. Dogfennau ychwanegol:
|
||
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. Dogfennau ychwanegol: |
||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: |
||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. Dogfennau ychwanegol: |
||
Cwestiynau gan y Cyhoedd Dogfennau ychwanegol: |
||
Cwestiynau i'r Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach gan Richard Miles A fyddai’n bosibl i ni gael canolfan ailgylchu ar gyfer ardal Crughywel, mae'n ofnadwy bod yn rhaid i ni wneud taith gron o 30 milltir i gael gwared ar sbwriel na ellir ei gymryd yn y casgliadau wythnosol o ymyl y ffordd.
Byddai'n cynnwys Crughywel, Llangatwg, Llanbedr, Llangrwyney, Llangenni, Llangynidr.
Dogfennau ychwanegol: |
||
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach gan Bob Jones Pam bo ni’n gorfod dioddef casgliadau bin bob 3 wythnos, nid yw’r biniau'n ddigon mawr a phan fyddwch yn gwneud cais i gael bin mwy, ry’ch chi’n cael yr ateb NA !!! Ond mae’r cyngor yn gallu gwastraffu arian ar feintiau enfawr o stwff gwallgof nad yw'n berthnasol i bobl Powys !!!
Dogfennau ychwanegol: |
||
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach gan Alan Austin Tua 5 mlynedd yn ôl, drafftiodd Cyngor Sir Powys Memorandwm o Gytundeb yn nodi'r sail y gellid rhannu ei gyfrifoldeb dros gynnal a gwella hawliau tramwy gyda Chynghorau Tref a Chymuned, a fyddai'n gofyn am gymorth gwirfoddolwyr lleol. A fwriedir datblygu'r dull hwn ac, os felly, pa gamau sydd wedi'u cynllunio?
Dogfennau ychwanegol: |
||
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach gan James Prothero PDF 70 KB Dogfennau ychwanegol: |
||
Penderfyniad Treth y Cyngor ar gyfer 2024/25 PDF 365 KB Cymeradwyo penderfyniad Treth y Cyngor a gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: |
||
Trosglwyddiadau Refeniw PDF 101 KB Ystyried trosglwyddiadau’r gyllideb sydd angen eu cymeradwyo gan y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: |
||
Ffyrdd Newydd o Weithio a chyfarfodydd y Cyngor - Arolwg Aelodau 2023 PDF 90 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Trawsnewid a Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: |
||
Canllaw Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Aelodau PDF 78 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Trawsnewid a Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: |
||
Datganiad Polisi Cyflogau 2024/25 PDF 105 KB Ystyried y Datganiad Polisi Cyflogau. Dogfennau ychwanegol: |
||
Penodiadau i Gyrff Allanol Gwneud penodiadaui I’r cyrff allanol canlynol
1. Partneriaeth Tref Y Drenewydd – swydd wag ar gael aelod y Drenewydd
2. Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) – swydd wag ar gyfer aelod Sir Frycheiniog
3. Gweithgor Cynllun Datblygu Lleol – swydd wag ar gyfer aelod Sir Frycheiniog Dogfennau ychwanegol: |
||
Rhybudd o Gynnig - Ceisio gwerthusiad technegol o osod ceblau pwer tan ddaearol o barciau ynni Cydnabyddiryn eang bod angen mwy o ffermydd gwynt a solar ac ynni niwclear ar y DU yn y blynyddoedd i ddod i gyrraedd targedau ynni carbon isel a bydd y galw ar y grid ond yn cynyddu po fwyaf y bydd trafnidiaeth, diwydiant a gwresogi domestig yn cael eu trydaneiddio i leihau allyriadau carbon.
Dywedodd y corff masnachu ynni adnewyddadwy RenewableUK Cymru fod angen i Gymru gynyddu ei ph?er gwynt bedair gwaith mewn ychydig dros ddegawd er mwyn aros ar y trywydd iawn i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru i sicrhau bod trydan yn 100% adnewyddadwy erbyn 2035. ( https://www.renewableuk- cymru.com/wp-content/uploads/Future-Energy-Wales-The-Critical-Role-of-Welsh-Wind-Power.pdf)
Yn ystod y misoedd diwethaf mae Green GEN Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer dwy set o beilonau i gysylltu Parciau ynni arfaethedig ym Mhowys â'r grid cenedlaethol ymhellach i ffwrdd. Gall cynlluniau o’r fath fod yn ddadleuol yn lleol a byddant yn cael eu penderfynu fel Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) gan gorff a benodwyd gan y Llywodraeth PCAC (Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru).
Mae cofnod gan Lywodraeth Cymru sy’n dweud “Mae diweddaru grid Cymru’n hanfodol os ydym am gael system ynni sy’n addas i’r diben yn y tymor hir. Mae ein polisi cynllunio’n nodi y dylid gosod llinellau o dan y ddaear lle bynnag y bo modd" i leihau'r effaith weledol.
Mae hwn yn gynnig rhesymol y ceir cafeat yn ei gylch gan mai dyma'r ateb cost-effeithiol gorau a mwyaf priodol sydd ar gael. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cydnabod y bydd amgylchiadau lle mai ceblau uwchben newydd fydd yr ateb cywir. Mae’r sector yn amlygu bod y “fanyleb dechnegol ar gyfer ceblau tanddaearol yn debygol o fod yn fwy sylweddol, yn gostus ac yn amharu ar yr amgylchedd i’w cynnal a’u cadw a’u trwsio”, ond maent wedi ymrwymo i weithio gyda’r llywodraeth i ddod o hyd i ffordd dderbyniol ymlaen.
Ym mis Tachwedd, dywedodd y Gweinidog dros y newid yn yr hinsawdd, Julie James AS, y byddai sefydlu a yw aredig cebl yn dechnegol bosibl ar gyfer y llinellau p?er mwyaf yn bwysig er mwyn deall a ellid mabwysiadu 'tanddaearu' yn ehangach. Mae hwn yn ddull synhwyrol cyn i gynigion o'r fath gael eu cyflwyno i'w penderfynu. Fel y cyfryw:
Mae’rCyngor hwn yn penderfynu: 1. Galwar Lywodraeth Cymru i gomisiynu astudiaeth annibynnol, gyda threialon cymharol fel y bo'n briodol, i ymarferoldeb technegol aredig cebl yn cael ei ddefnyddio'n helaeth ar gyfer y llinellau p?er mwyaf i wasanaethu'r parciau ynni sy'n deillio o gynlluniau ynni adnewyddadwy'r Llywodraeth ar gyfer y sir, er mwyn lleihau effeithiau gweledol parhaus.
Cynigiwyd: y Cyng Jake Berriman Eiliwyd: y Cyng Glyn Preston
Dogfennau ychwanegol: |
||
Rhybudd o Gynnig - Gwyliau Ysgol Rydymyn galw ar y Cyngor i lobïo Llywodraeth Cymru a gwrthwynebu'r gwyliau haf Ysgol byrrach arfaethedig.
Rydymyn galw ar hyn am sawl rheswm gan gynnwys:
Yreffaith andwyol y bydd hyn yn ei chael ar economi wledig Powys a'r effaith enfawr y bydd yn ei chael ar Sioe Frenhinol Cymru.
Y diffyg tystiolaeth y bydd y cynnig yn cael canlyniad cadarnhaol i’n dysgwyr.
Cynigiwyd: y Cyng Gareth D Jones Eiliwyd: y Cyng Gwynfor Thomas
Dogfennau ychwanegol: |
||
Rhybudd o Gynnig - Effeithiau'r Rhyfel yn Gaza Mae’rCyngor yn nodi Y trais heb ei ddatrys a pharhaus o dros 76 mlynedd a'i gyd-destun yn y digwyddiad trasig a ddigwyddodd ar Hydref 7fed. Yn arwain at y golled annerbyniol o fywyd a'r drosedd o gymryd gwystlon a ddigwyddodd ar Hydref 7fed. Y lladd ac anafu anghymesur a heb ei debyg o sifiliaid o fewn Tiriogaethau Meddianedig Palesteina – Yn cynnwys bywydau newyddiadurwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr dinesig ac achub. Y dinistr digynsail a di-hid o seilwaith sifil ar draws Llain Gaza - Gan gynnwys gwersylloedd ffoaduriaid, henebion, safleoedd treftadaeth, addoldai, mynwentydd, ysbytai, prifysgolion ac ysgolion. Arôl i Dde Affrica gyflwyno achos yn erbyn Israel i’r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol ynghylch gweithredoedd a datganiadau honedig a wnaethpwyd gan lywodraeth Israel a swyddogion milwrol, mae mesurau dros dro wedi’u rhoi ar waith yn erbyn Israel. Yn ogystal, mae ymchwiliad i honiadau credadwy o hil-laddiad hefyd wedi'i gychwyn gan y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol. Cynhaliwyd y "Gynhadledd Dychwelyd i Gaza" ar Ionawr 28ain. Roedd yn cynnwys aelodau amlwg o Lywodraeth Israel yn rhannu llwyfan ag unigolion yn eiriol dros lanhau ethnig Gaza a hyrwyddo adeiladu aneddiadau Israel ar dir a feddiannwyd yn flaenorol gan gymunedau Gaza oedd wedi’u dinistrio. Mae methiant ymddangosiadol llywodraeth Israel i fynd i'r afael â'r datganiadau radical a wnaethpwyd yn ystod yr achlysur hwn yn groes i'r Mesur Dros Dro a osodwyd ar Israel gan y LlysCyfiawnder Rhyngwladol. Y datganiadau parhaus a phenodol o fwriad i gynnal gweithredu milwrol tebyg yn Rafah, yr un fath ag ardaloedd ymhellach i'r gogledd. Bod Rafah, a ddatganwyd yn flaenorol yn 'Ardal Ddiogel' ar gyfer y boblogaeth sifil, ar hyn o bryd yn gartref i dros 1.7 miliwn o sifiliaid sydd wedi'u dadleoli'n fewnol (85% o gyfanswm y boblogaeth). Yn nodi hefyd bod 47% o'r boblogaeth yn blant. Bod swyddfa’r Cenhedloedd Unedig yn Genefa yn nodi bod 70% o seilwaith sifil wedi’i ddinistrio neu ei ddifrodi’n ddifrifol yn Gaza a bod afiechyd yn lledu wrth i’r system iechyd “chwalu” gyda 13 o 36 o ysbytai’n unig yn rhannol weithredol. Ac mae 25% o'r boblogaeth yn mynd i'r afael â lefelau trychinebus o ansicrwydd bwyd. Mae costau enfawr cefnogi ffoaduriaid mewn gwersylloedd neu drydydd gwledydd yn gosod baich ar y gymuned fyd-eang, ac yn uniongyrchol ar Bowys pan fo’r DU yn rhan o gynllun cynnal. Buddsoddiadaucronfa bensiwn Powys mewn trefniadau cyfun sy'n cefnogi'r diwydiant arfau. Mae nifer y gwylnosau heddwch ar gynnydd mewn trefi ledled Powys, a’r protestiadau torfol parhaus sy’n cael eu cynnal yn rhyngwladol, yn annog rhoi’r gorau i elyniaeth er mwyn atal newyn ac afiechyd rhag achosi cynnydd amlwg mewn cyfraddau marwolaethau. Mae’r Cyngor yn credu Y dylid cael cadoediad ar unwaith a pharhaus i alluogi dychwelyd yn ddiogel y gwystlon sy'n weddill, rhyddhau Palestiniaid a gedwir o dan gadw gweinyddol, ac ehangu mynediad at gymorth ... gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem 15. Dogfennau ychwanegol: |
||
Rhybudd o Gynnig - Cynllun Ffermio Cynaliadwy Mae Cyngor Sir Powys yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i oedi ac ailystyried y 'Cynllun Ffermio Cynaliadwy'
Mae Cyngor Sir Powys yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i oedi ac ailystyried yr ymgynghoriad 'Cynllun Ffermio Cynaliadwy: cadw ffermwyr i ffermio', o ystyried cryfder teimladau presennol y diwydiant. Mae’n amlwg bod y ffermwyr ledled Cymru sydd wedi mynychu digwyddiadau ‘sioe deithiol’ Llywodraeth Cymru, a’r rhai a gynhaliwyd gan yr undebau ffermio, yn gwrthod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig.
O ystyried pwysigrwydd y sector ffermio i economi Powys mae’n bwysig cael cynllun cymorth y dyfodol yn iawn; mae parhau â’r ymgynghoriad presennol ar gynllun diffygiol yn gamgymeriad a bydd yn arwain at rwystredigaeth a drwgdeimlad difrifol gan ffermwyr ledled Cymru.
Mae effaith gronnol newidiadau i bolisi amaethyddol yng Nghymru, o Reoliadau Adnoddau D?r (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (NVZs) i derfynu contractau Glastir, ynghyd â’r gwallau yng Nghynllun Cynefin Cymru a pharhad TB mewn gwartheg yn golygu bod y sector Cymraeg o dan bwysau cynyddol.
Mae’rCyngor hwn yn penderfynu fel a ganlyn:
Mae Cyngor Sir Powys yn credu ei bod yn beth doeth i oedi’r ymgynghoriad, adnewyddu ymgysylltiad ag undebau’r ffermwyr cyn cysylltu â’r sector amaethyddol unwaith y bydd diwygiadau difrifol wedi’u gwneud i gynnig y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Mae'r sefyllfa bresennol yn anghynaladwy.
Cynigwydgan y Cynghorydd Sir Lucy Roberts Eiliwydgan y Cynghorydd Sir. Geoff Morgan
Dogfennau ychwanegol: |