Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Zoom - Neuadd y Sir. Gweld cyfeiriadau
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2023 fel cofnodion cywir. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau o ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau I’w hystyried ar yr agenda. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y Cyhoedd Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet ar gyfer ar gyfer Powys sy'n Dysgu gan Laura Hares PDF 79 KB Beth sy'n cael ei wneud i hyrwyddo lles a chyfyngu ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ymhlith ein plant ADY mewn ysgolion prif ffrwd? Pam mae'n cymryd 1-2 flynedd ac, yn aml, achosion tribiwnlys ym Mhowys cyn diwallu anghenion ein plant ADY? Pwy sy'n atebol am esgeuluso anghenion ein plant a pham nad yw ymyrraeth gynnar byth yn cael ei rhoi ar waith? Mae fy mhlentyn bellach ar amserlen rhan amser iawn ac mae ei bediatregydd wedi mynegi'n benodol bod methiant CSP i diwallu ei anghenion yn creu problemau iechyd corfforol a meddyliol ac eto, dros flwyddyn yn bellach ymlaen ers i'r ysgol ofyn am gymorth 1:1, nid oes unrhyw beth dal yn ei le. Pryd fydd ein corff addysg yn cyrraedd yr un lefel â’r gefnogaeth a gynigir dros y ffin yn Sir Amwythig? Ac o fewn y gofynion cyfreithiol?
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach gan Philip Ellison PDF 67 KB A allwch chi ddweud wrthyf faint o gasgliadau biniau ailgylchu a gollwyd ym mhedair ward Llandrindod a sut mae hyn yn cymharu â nifer y casgliadau biniau ailgylchu a gollwyd yn Wardiau Llansantffraid a Llanrhaeadr a'r rheswm dros unrhyw anghysondeb?
Rwy'n gwneud yr ymholiadau hyn gan fy mod yn credu ei fod yn peri risg iechyd i bobl oedrannus sy'n rhoi eu biniau allan bob dydd Mawrth yn fy ardal ac yna'n gorfod dod â nhw yn ôl i mewn eto gan nad oes casgliadau’n cael eu gwneud yr wythnos honno.
Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn yn ogystal â nodi bod Swydd Amwythig (a llawer o rai eraill) yn ei roi unrhyw newidadau ar eu tudalen gartref, ac rwy'n si?r y gellir gwneud hyn cyn gynted ag y bydd problem naill ai y noson cynt neu am 7 y bore ar wefan Cyngor Powys.
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn ar gyfer yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Cysylltu gan Penny Higgs PDF 70 KB O dan ba amgylchiadau na fyddai camau gorfodi yn cael eu cymryd am dorri rheolau cynllunio difrifol?
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodi Swyddog Canlyniadau Dros Dro a Swyddog Cofrestru Etholiadol PDF 82 KB Ystyried adroddiad gan y Prif Weithredwr Dros Dro. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pleidlais Sengl Drosglwyddiadwy PDF 186 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyfreithiol a Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 86 KB Ystyried argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Cymeradwywyd yr adroddiad atodedig gan y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau i Gyrff Allanol Ystyried gwneud y penodiadau i’r canlynol
1. Cronfa Ysgoloriaeth Sirol Aberhonddu Mae'r gr?p hwn yn cyfarfod unwaith y flwyddyn i roi grantiau i fyfyrwyr israddedig o Sir Frycheiniog sy'n mynychu neu ar fin mynychu Prifysgol Cymru, Caerdydd.
2. Pwyllgor Cynghori Mordwyo’r Wy Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymgynghori â'r pwyllgor ar faterion sy'n effeithio'n sylweddol ar fordwyo a defnyddio afonydd Gwy a Lugg. Mae'n cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn. Bydd y cyfarfod nesaf ar 8 Tachwedd.
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cefndir Cytunodd y Cyngor Sir, fel rhan o'i strategaeth gyllidebol ar gyfer 2023-24, i gyrraedd y targed o £50,000 o incwm ychwanegol ar gyfer taliadau parcio ceir mewn meysydd parcio sy’n cael eu rhedeg gan y cyngor yn ei strategaeth gyllidebol ar gyfer 2023-24 drwy gynyddu taliadau parcio ceir hyd at 40% yn unol â'r tabl isod.
Byddai cymhwyso'r taliadau hyn i ffigurau o ddefnydd 2021-22 isod yn arwain at amcangyfrif o incwm cynyddol i'r awdurdod o oddeutu £317,000, chwe gwaith yn fwy na'r targed a nodwyd, heb gynnwys y gost untro o wneud newidiadau i'r peiriannau parcio a'r arwyddion ac ati.
Ochr yn ochr â chynyddu'r ffioedd ar gyfer y tri band amser isaf gwnaed y cynnig a'i dderbyn i gael gwared ar yr opsiwn tocynnau "hyd at awr" yn y meysydd parcio arhosiad hir niferus ledled y sir, gan arwain at gynnydd yn y tâl am rywun sy’n picio i'r siopau am ychydig o bethau neu goffi cyflym gyda ffrindiau o £1.00 i £2.50 cynnydd o 150%.
Mae'r tabl isod yn dangos bod 40% o'r tocynnau Parcio Ceir a brynwyd rhwng Awst 2021 a Gorffennaf 2022, blwyddyn pan oedd y Wlad yn dal yn dod dros bandemig COVID 19, ar gyfer arosiadau o hyd at awr, gyda thua 80% o'r tocynnau hyn yn cael eu prynu mewn meysydd parcio arhosiad hir ac a fyddai’n golygu y byddai 272,000 o docynnau yn gweld cynnydd o 150% mewn cost ac yn darparu mwy o incwm o £299,000 sydd pan gaiff ei ychwanegu i’r £317,000 a nodwyd uchod yn rhoi cyfanswm incwm ychwanegol o £616,000 yn erbyn y targed o £50,000, cyn bod unrhyw addasiadau ar gyfer unrhyw ostyngiad yn nifer y tocynnau a brynwyd. Mae'n debygol y byddai'r flwyddyn lawn, heb bandemig, yn golygu mwy o werthiant o docynnau nag mewn blwyddyn pan oeddem yn dal yn dod allan o'r Pandemig
Gyda chynnydd mor sylweddol mewn taliadau, mae'r awdurdod wedi disgwyl ac wedi ystyried gostyngiad yn nifer y tocynnau a brynir, yn enwedig y rhai yn y ddau fand amser isaf. Mae aelodau sy'n cynrychioli'r trefi mwy yn yr awdurdod ac fel yr adroddwyd yn y wasg leol yn gwbl ymwybodol o gynnydd yn nifer y cerbydau sy'n cael eu parcio ar y strydoedd ac o fewn ystadau lleol ac mae llawer o siopwyr yn y trefi wedi adrodd eu bod wedi gweld gostyngiad mewn masnach a oedd yn cyd-fynd â chyflwyno'r taliadau parcio ceir newydd.
Yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf, ... gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem 11. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Diwygiad i'r Rhybudd o Gynnig - Meysydd Parcio Arhosiad Hir Dileu 2 a gosod y canlynol:-
Tra'n cydnabod y bydd rhai costau ychwanegol yn codi wrth newid y peiriannau parcio a'r arwyddion, mae'n amlwg yn seiliedig ar y ffigurau a roddwyd gan y Pennaeth Cyllid (Swyddog A151) yn yr asesiad ariannol isod fod yr incwm o ailosod y ffi parcio ceir un awr i £1.00 ar gyfer 2023-24, gan gofio ein bod 7 mis i mewn i'r flwyddyn ariannol lle mae £2.50 wedi'i godi , Bydd yn dal i fod ymhell dros £50,000 sydd wedi'i gynnwys yn y cynllun ariannol tymor canolig ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.
Mae'r costau manwl yn dangos y byddai ailosod i £1 yn dal i gynhyrchu incwm ychwanegol o £239,000 o'i gymharu â'r targed o £50,000.
Mae yna le ariannol i wneud hyn gan fod rhagolygon diweddaraf HTR ar gyfer 2023-24 yn nodi y rhagwelir y bydd gor-gyflawni o £392,000 mewn incwm taliadau meysydd parcio y flwyddyn ariannol hon.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Pete Lewington Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Iain McIntosh
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol gan y Cynghorydd Elwyn Vaughan PDF 73 KB Mae'rCyngor yma ar sawl achlysur wedi datgan cefnogaeth i'r Gymraeg ac mae'r ewyllys gwleidyddol trawsbleidiol yn glir yn y dymuniad hynny. Serch hynny, wrth dynnu sylw yr Adran Gynllunio yn ddiweddar at arwyddion enwau stryd uniaith Saesneg ar ystad tai newydd yn Llanfihangel yng Ngheri yr ymateb oedd mae nid nhw oedd yn gyfrfiol, er ei fod yn ystad newydd dan oruchwyliaeth yr Adran Gynllunio ! Yr Adran Briffyrdd oedd ar fai dywedwyd.
Wrthholi yr Adran Briffyrdd yr ymateb oedd mae bai y datblygwr ydoedd ac mi fyddai'r datblygiad wedi ei gwbwlhau ymhen y flwyddyn. Hynny, er fod y datblygiad eisioes wedi'u gwbwlhau a phob ty efo trigolion ! Yr unig gasgliad mae rhywun yn gallu dod iddo ydy fod pawb yn ceisio beio rhywun arall yn lle cymeryd cyfrifoldeb gan obeithio fydd y mater yn mynd yn angof. Wel medrai eich sicrhau ni fydd yn mynd yn angof.
Yng ngwyneb hyn, eich cyfrifoldeb am y Gymraeg oddi fewn y Cyngor, disgwyliadau y Safonau Iaith gan y Comisiynydd, dymuniad y Cyngor yma a synnwyr cyffredin; a ydych yn cytuno a mi fod y sefyllfa hyn yn anfoddhaol ac y byddwch yn ceisio mynd i wraidd y mater er mwyn cywiro'r sefyllfa.
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu gan y Cynghorydd Elwyn Vaughan PDF 107 KB Yn ystod y trafodaethau ar y Bartneriaeth y Mers a gafwyd yn y cyfarfod Cabinet 19/09 nodwyd i'r deilydd portffolio addysg ddatgan - Mae Powys yn bwriadu cynnig addysg Gymraeg i blant o Loegr fel rhan o bartneriaeth newydd gyda’r siroedd sydd dros y ffin.
Bydd Powys yn cydweithio â Sir Fynwy, Sir Henffordd, a Sir Amwythig ar bynciau gan gynnwys trafnidiaeth, tai, yr amgylchedd ac ynni.
Dywedodd deiliad portffolio addysg y cyngor, Pete Roberts bod yna “lawer o deuluoedd yng Nghroesoswallt sy’n dod o gefndiroedd oedd yn siarad Cymraeg”.
“Mae gan Groesoswallt yr unig Gylch Meithrin y tu allan i Gymru," meddai. “Felly rydw i’n gobeithio mai un o’r cyfleoedd fydd gweithio gyda chydweithwyr yng Nghroesoswallt ac ar hyd y ffin i ymestyn y gallu i deuluoedd gymryd rhan mewn addysg iaith Gymraeg.” Wrth nodi hyn pa ystyriaeth sydd wedi’u neud o Siarter Ewropeaidd Ieithoedd llai neu Ranbarthol a'r grymoedd hynny yn y cyd-destun yma? O gofio fod adolygiad o ysgolion ardal Llanfyllin ar y gweill gan gynnwys dyfodol ysgol Bro Cynllaith, sut rhagwelir y gwaith yma o ddarparu mynediad at addysg Gymraeg i rai o Groesoswallt ddigwydd a beth ydy'r amsrlen?
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Arweinydd gan y Cynghorydd Aled Davies PDF 80 KB Faint mae aelodaeth CLlLC yn ei gostio i'r Cyngor?
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn i'r Arweinydd gan y Cynghorydd Gwynfor Thomas PDF 64 KB Pa fath o gyfathrebu sydd wedi bod rhwng Cyngor Sir Powys â Bute Energy/Green Gen Cymru?
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiwn Brys i'r Arweinydd gan y Cynghorydd Aled Davies A allwch chi egluro'r ffeithiau y mae'r Cabinet wedi eu hystyried wrth wneud y penderfyniad ar yr eitem gyfrinachol 14 yng nghyfarfod y Cabinet, 19 Medi 2023, 'Gwerthu Eiddo'? A oes gwybodaeth ychwanegol nad oedd ar gael i chi adeg penderfyniad y Cabinet sydd bellach wedi dod i'r amlwg? Beth yw'r wybodaeth ychwanegol hon, ac a wnewch chi ailedrych ar y penderfyniad nawr, neu a ydych chi'n meddwl bod y penderfyniad gwreiddiol yn gadarn? Ydych chi'n fodlon ar sut yr ymdriniwyd â'r mater hwn, os na, wnewch chi ysgrifennu llythyr ymddiheuriad at bawb sydd wedi’u heffeithio?
Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bydd y cyflwyniad canlynol yn cael ei gynnal am 2 p.m. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyniad gan CFfI Brycheiniog, Sir Drefaldwyn a Maesyfed Dogfennau ychwanegol: |