Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Zoom - Neuadd y Sir. Gweld cyfeiriadau
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem | |||||
---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
||||||
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2022 fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: |
||||||
Datganiadau o ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. Dogfennau ychwanegol: |
||||||
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: |
||||||
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. Dogfennau ychwanegol: |
||||||
Briff gan y Prif Weithredwr Derbyn briff gan y Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: |
||||||
Cwestiynau Cyhoeddus Dogfennau ychwanegol: |
||||||
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol gan Mike Hall PDF 87 KB Allwch chi ddweud wrthyf am yr holl gyllidebau gwariant sydd wedi bod o 2010 i'r presennol a pha wasanaethau a thorrwyd? Gallwch gynnwys canrannau + neu - os yw hynny'n helpu a gallai gynnwys codiadau treth gyngor i roi golwg gron ar y cwestiwn.
Dogfennau ychwanegol: |
||||||
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol gan Nigel Williams PDF 74 KB Sut, ar adeg pan fo'r cyngor yn cael trafferth i gyflawni ei rwymedigaethau statudol, y mae’r cyngor yn cyfiawnhau gwario £300,000 o arian trethdalwyr ar "ailddychmygu" y cyngor? Mae'r cyhoedd eisiau gwasanaethau nid ymadroddion bachog sy’n golygu dim.
Dogfennau ychwanegol: |
||||||
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet ar gyfer Cysylltu Powys gan James Holloway PDF 71 KB A yw Cyngor Sir Powys yn gefnogol i Ffermydd Tyrbinau Gwynt ar y Tir, ac os felly, a yw’r Cyngor wedi ystyried y modd o wneud hynny h.y. y seilwaith sydd ei angen i drosglwyddo’r ynni i'r Grid Cenedlaethol?
Dogfennau ychwanegol: |
||||||
Cwestiwn i'r Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Ffyniannus gan David Balmer-Cribb PDF 74 KB Pa gynnydd mae Cyngor Sir Powys wedi'i wneud wrth adolygu'r Canolfannau Hamdden yn y Sir a rhoi cynllun ar waith i wella cyfleusterau a sicrhau eu dyfodol tymor hir? Mae Canolfannau Hamdden yng nghalon cymunedau anghysbell gan ddarparu addysg, rhyngweithio cymdeithasol a lles. Fel rhan o'r cwestiwn hwn, cyfeiriaf at yr adolygiad a addawyd ym mis Rhagfyr 2022. https://cy.powys.gov.uk/article/13733/Datganiad-ynghylch-adolygiad-o-wasanaethau-hamdden
Dogfennau ychwanegol: |
||||||
Penderfyniad Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24 PDF 379 KB Cymeradwyo Penderfyniad Treth y Cyngor a gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24. Dogfennau ychwanegol: |
||||||
Datganiad Polisi Cyflogau ar gyfer 2023/24 PDF 106 KB Ystyried datganiad polisi cyflogau ar gyfer 2023/24. Dogfennau ychwanegol: |
||||||
Cynnig ar gyfer Diwygiadau i Strwythur a nifer y Seddi ar Bwyllgorau Craffu PDF 206 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: |
||||||
Penodiad i'r Panel Maethu Penodi aelod i’r Panel Maethu. Dogfennau ychwanegol: |
||||||
CYNNIG IAITH 2023 CYNNIG IAITH 2023
Amlygodd canlyniadau diweddar y Cyfrifiad yr angen dybryd i weithredu ar fyrder ac yn gynhwysfawr o blaid y Gymraeg ym Mhowys. Rydym wedi clywed llawer iawn am gynaladwyedd amgylcheddol a’r angen am weithredu, wel mae’r un peth yn wir am ein cymunedau Cymraeg.
Collodd Powys dros 2,600 o siaradwyr Cymraeg rhwng 2011 a 2021, lle mae’r gyfran bellach i lawr i 16%. Mae hyn yn cynnwys cwymp o 1,864 hefyd yn nifer y plant 3-15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg.
Powys ydy’r unig Sir yn ystod y blynyddoedd diwethaf ble cafwyd canran llai yn cael mynediad at addysg Gymraeg na’r canran o siaradwyr yn y gymuned. Does ryfedd felly ein bod yn gweld dirywiad pob degawd yn y ffigyrau.
Wrth gwrs mae nifer o resymau am y dirywiad, gwendid economaidd, newid ym mhatrwm amaethyddiaeth efo llai yn gweithio ar y tir, sef sector traddodiadol efo canran uchel o siaradwyr Cymraeg, allfudiad pobl ifanc a mewnlifiad pobl h?n, gor-ddatblygu tai mewn rhai cymunedau nad ydynt yn gwir adlewyrchu y cymunedau hynny, ond hefyd y diffyg gweithredu hanesyddol gan Gyngor Powys o blaid y Gymraeg a diffyg statws ac addysg Gymraeg. Dyna pam mae angen hybu y sylfaen economaidd a chael corff datblygu tebyg i’r hyn oedd Bwrdd Datblygu Cymru Wledig.
Os yw cynaladwyedd i olygu unrhyw beth felly, ac os am newid y sefyllfa erbyn y Cyfrifiad nesa yna mae’n rhaid gweithredu nawr. Peidied â meddwl bod Powys yn unigryw yn hyn o beth, mae cymunedau traddodiadol neu ieithyddol hanesyddol eraill ar hyd Ewrop wedi wynebu heriau tebyg ac felly mae gwersi medrir eu dysgu yn arbennig o Wlad y Basg ym maes iaith ac economi. Rhaid gwneud hyn efo pecyn o weithgaredd yn cynnwys –
Mae’r Cyngor felly am weld -
· Derbyn yr egwyddor bo’r Gymraeg yn perthyn i bob rhan o Bowys.
· Cefnogi yr alwad am asiantaeth datblygu economaidd gwledig.
· Galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn ARFOR (cynllun economaidd ieithyddol gwerth £11m yng Ngorllewin Cymru) i Faldwyn i hybu y Gymraeg a’r economi.
· Dysgu gwersi ac efelychu yr hyn a wnaed yn ANDOAIN yng Ngwlad y Basg drwy gydblethu gweithgaredd economaidd ac iaith. Bydd y ffocws ar sut y gall Powys ddysgu ac elwa cymunedau cynaliadwy sy’n siarad Cymraeg.
· Cefnogi datblygu cynllun twristiaeth diwylliannol gan wneud y mwyaf o’n cyfoeth hanes megis Sycharth, Brynglas, Cilmeri, Canolfan Glynd?r ac ati gan sicrhau bod Powys yn gymaint rhan o’r dyfodol ag y bu o’r gorffennol. Gwneir hyn drwy adnabod grantiau posib i’w gweithredu.
Dogfennau ychwanegol: |
||||||
Ar ddiwedd y cyfarfod ffurfiol bydd cyflwyniad a sesiwn Cwestiwn ac Ateb ar y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y Cyfarwyddiaeth yr Economi a'r Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: |
||||||
Canlyniadau'r Bleidlais PDF 172 KB Dogfennau ychwanegol: |