Lleoliad: Cyfarfod Hybrid - Zoom - Neuadd y Sir. Gweld cyfeiriadau
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2022 fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiadau o ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. Dogfennau ychwanegol: |
|
Briff gan y Prif Weithredwr Derbyn briff gan y Prif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: |
|
Trosglwyddiadau Refeniw PDF 111 KB Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Sir David Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cryfach, Tecach, Gwyrddach Cyflwyniad ar y Cynllun Corfforaethol. Dogfennau ychwanegol: |
|
Penodiadau i Gyrff Allanol Dogfennau ychwanegol: |
|
Penodi Ymddiriedolwyr ar gyfer Ymddiriedolaeth Amgueddfa Powysland Penodi pedwar ymddiriedolwr. Dogfennau ychwanegol: |
|
Ymddiriedolaeth Neuadd y Farchnad a Smithfield Rhaeadr Gwy Penodi un Ymddiriedolwr. Dogfennau ychwanegol: |
|
RHYBUDD O GYNNIG - YMRWYMO I WEINI CYNNYRCH CIG A LLAETH O ANSAWDD DA Ar 14egRhagfyr 2021, roedd cynghrair o’r Democratiaid Rhyddfrydol, Llafur a’r Blaid Werdd sy’n llywodraethu Cyngor Sir Rhydychen, mewn cyfarfod o’r cyngor llawn, wedi cymeradwyo cynnig i wahardd gweini cynnyrch cig a llaeth mewn digwyddiadau swyddogol. Aeth y canlyniad gerbron eu Cabinet i’w gymeradwyo, a digwyddodd hynny ar 15fed Mawrth 2022.
Denodd y penderfyniad hwn feirniadaeth gan ffermwyr sy’n cynhyrchu cynnyrch cig a llaeth ar draws y DU, ynghyd â nifer o enwogion, newyddiadurwyr, ASau a’r Cyhoedd. Roedd y cynnig yn cynnwys honiadau amheus fod cynhyrchu cynnyrch cig a llaeth ar lefel fyd eang yn “gwneud cyfraniad sylweddol at allyriadau nwyon t? gwydr a datgoedwigo” a bod lleihau defnydd o’r bwydydd hyn yn “rhan allweddol o fynd i’r afael â newid hinsawdd”. Yn ôl un ffarmwr o Swydd Rydychen a frawychwyd gan y penderfyniad – “Maen nhw wedi derbyn cyngor am leihad, ac wedi penderfynu dewis newid o 100%; yn fy marn i, mae hyn yn awgrymu bod rhywun yn hyrwyddo agenda hollol wahanol,”. Aeth ymlaen “Mae’r holl ddadl am effaith ffermio da byw ar yr amgylchedd yn cael ei herwgipio gan y ddadl am garbon, ac yn anwybyddu unrhyw fuddion sy’n deillio o gael cig coch o ansawdd da ac ar lefel synhwyrol, yn y diet. Mae cig a gynhyrchir gan dda byw sy’n cael eu bwydo ar laswellt sy’n cael eu magu yn y DU yn cael effaith amgylcheddol lawer is na chig a gynhyrchir trwy ddulliau ffermio dwys ar system bwydo soia ac indrawn yn Ne America.” Ffynhonnell newyddion: https://www.fwi.co.uk/news/environment/fury-after-oxfordshire-council-moves-to-ban-meat-and-dairy
Ersgwneud y penderfyniad hwn, mae ffermwyr ar hyd a lled gweddill y wlad wedi mynegi pryder pellach, yn enwedig mewn siroedd lle mae gan gynghorwyr pleidiau Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol neu’r Blaid Werdd reolaeth weinyddol dros gynghorau. Y pryder yw y gall awdurdodau’r siroedd hynny efallai ddilyn yr un trywydd a chyflwyno gwaharddiadau tebyg, fydd yn dangos diffyg cefnogaeth ar gyfer ffermwyr, yn niweidio busnesau cynnyrch cig a llaeth lleol, yn anfon y neges anghywir i’r cyhoedd, a niweidio enw da ein sector amaethyddol.
Yndilyn trafodaethau gyda llawer o ffermwyr, busnesau ac aelodau’r cyhoedd, mae pryder sylweddol gan fod Cyngor Sir Powys dan reolaeth cynghorwyr Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol, y gall gwaharddiad ar gynnyrch cig a llaeth ddod i rym yma ym Mhowys hefyd.
Mae’rCyngor hwn felly’n galw ar weinyddiaeth Lafur/Democratiaid Rhyddfrydol Cyngor Sir Powys i:
Ymrwymoi weini cynnyrch cig a llaeth o ansawdd da (a gynhyrchir yn lleol ble bynnag fo’n bosibl) ym mhob cyfarfod a digwyddiad swyddogol lle caiff bwyd ei weini, ac ym mhob adeilad sy’n cael ei redeg gan y cyngor, lle caiff bwyd ei weini, gan gynnwys holl ysgolion a cholegau Powys lle caiff bwyd ei weini, am weddill tymor y weinyddiaeth hon.
Ymrwymoi weini ... gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem 10. Dogfennau ychwanegol: |
|
RHYBUDD O GYNNIG - CHWARAE TEG I ADNODDAU YNNI A DWR POWYS Ynsgil COP 27 yn yr Aifft, a’r ffaith fod Powys wedi cyhoeddi argyfyngau hinsawdd a natur, mae’r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraethau’r DU a Chymru i lunio fframweithiau a darpariaethau deddfwriaethol angenrheidiol i alluogi trigolion Powys i gadw rhywfaint o’r budd ariannol sy’n deillio o’r adnoddau d?r ac ynni sy’n cael eu dal ac a gynhyrchir ym Mhowys i’w hallforio a’u defnyddio mewn mannau eraill o’r wlad.
Ynbenodol, mae’r Cyngor yn gofyn am y gallu i godi ardoll ar gwmnïau cynhyrchu/cyflenwi d?r ac ynni ar gyflenwad d?r piben ac ynni i’w allforio, ac nid er budd uniongyrchol neu i’w defnyddio gan drigolion Powys. Yn y lle cyntaf ni ddylai’r gyfradd enillion ar gyfer cyd-ddefnyddio’r adnoddau hyn fod yn llai na £1 fesul megalitr a £1 fesul megawat, gyda thaliad chwyddo a seilir ar y raddfa chwyddiant blynyddol (RPI). Yn ei dro, mae’r Cyngor hwn yn ymrwymo y caiff unrhyw arian a godir trwy’r drefn yma, ei wario gan Gyngor Powys i fynd i’r afael ag, a datblygu gwydnwch o ran, yr argyfwng rydym yn ei wynebu oherwydd cynhesu byd-eang.
Cynigydd: Y Cynghorydd Sir Jake Berriman Eilydd: Y Cynghorydd Sir Geoff Morgan
Sylw’r Adran Gyllid o ran Gofynion Adnoddau
Arhyn o bryd, effaith ariannol finimol sydd i’r cynnig hwn ar wahân i amser swyddogion o ran cynorthwyo i ddrafftio llythyrau sy’n delio gyda gofynion y cynnig hwn; byddai’r costau hyn yn cael eu bodloni o gyllidebau gwasanaeth cyfredol.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig - Ysgolion Powys Mae cyd-aelodau’r cyngor, rhieni a’r cyhoedd wedi mynegi pryder yn sgil cyhoeddi’r posibilrwydd o leihau’r wythnos ysgol i 4 diwrnod yn unig, ac wrth gael ei ystyried gan yr awdurdod fel cam i liniaru yn erbyn costau ynni cynyddol a phwysau ar y gyllideb. Nodwnfod Estyn, yn ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021-2022 wedi nodi: · Ar y cyfan, mae’r pandemig wedi cael effaith negyddol ar sgiliau dysgwyr. Mae hyn yn wir yn benodol yn achos sgiliau rhifedd a llythrennedd, ac yn enwedig sgiliau llafaredd. Effeithiwyd hefyd ar sgiliau cymdeithasol a phersonol lleiafrif o ddysgwyr, yn enwedig y plant ieuengaf, a’r sawl sydd wedi cael trafferth ymsefydlu eto i arferion addysgol mwy ‘normal’. · O ganlyniad i’r pandemig bu dirywiad cyffredinol yn nefnydd dysgwyr o Gymraeg llafar. · Mae’r cyfyngiadau wedi cael effaith negyddol ar ddysgu sy’n cynnwys elfennau ymarferol, gan gynnwys lleoliadau gwaith, asesiadau ymarferol ar gyfer cymwysterau galwedigaethol a phynciau megis cerddoriaeth, dylunio a thechnoleg ac addysg gorfforol. · Ar y cyfan, mae’r cynnydd a wneir gan ddarparwyr tuag at weithredu’r Cwricwlwm i Gymru’n rhy amrywiol. · Ar draws pob sector, bu gostyngiad sylweddol yn y galw ar gyfer cymorth ym maes llesiant ac iechyd meddwl. · Yn benodol mewn ysgolion, mae presenoldeb yn parhau o dan lefelau presenoldeb cyn y pandemig a bu cynnydd ym mhroblemau o ran absenoldeb cyson. Mae’rargyfwng oherwydd costau byw yn effeithio ar bob un ohonom, ac mae teuluoedd yn wynebu pwysau sylweddol yn barod; nid yw’r math yma o syniad, hyd yn oed os taw cysyniad yw ar hyn o bryd, yn helpu; mae’n annoeth ac, os caiff ei weithredu, byddai’n achosi niwed arwyddocaol i’n pobl ifanc, ac yn ychwanegu at bwysau ar eu cartrefi. Wrthystyried darganfyddiadau negyddol Estyn, mae pwysigrwydd cefnogi ein pobl ifanc, cydnabod nad yw’r pwysau cyllidebol / ariannol yn effeithio ar y cyngor yn unig, a’r angen i gynnal asesiad effaith llawn a phriodol ar y Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru cyn gwneud unrhyw newidiadau - Mae’rCyngor yn derbyn pwysigrwydd mynychu’r ysgol am 5 diwrnod, ac ni ddylid gofyn i unrhyw ysgol ym Mhowys leihau’r wythnos ysgol i 4 diwrnod o ganlyniad i gynigion y cyngor mewn perthynas â’i gyllideb.
Cynigydd: Y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan Eilydd: Y Cynghorydd Sir Bryn Davies Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tan rhwng 12 ac 1. Dogfennau ychwanegol: |
|
Cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tan Derbyn cyflwyniad gan y Prif Swyddog Tân, Roger Thomas. Dogfennau ychwanegol: |
|
Yn dilyn y cyfarfod bydd y Pennaeth Cyllid yn rhoi cyflwyniad ar y gyllideb. Dogfennau ychwanegol: |
|
Canlyniadau'r Bleidlais PDF 113 KB Dogfennau ychwanegol: |