Agenda

Cyngor Sir - Dydd Iau, 23ain Medi, 2021 11.30 am

Lleoliad: By Teams. Gweld cyfeiriadau

Cyswllt: Stephen Boyd  01597 826374

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. 

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 809 KB

Awdurdodi'r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

3.

Datganiadau o fudd

Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant gan Aelodau mewn perthynas ag eitemau i'w hystyried ar yr agenda.

 

4.

Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor.

 

5.

Cyhoeddiadau'r Arweinydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd.

 

6.

Briff gan y Prif Weithredwr

Derbyn briff gan y Prif Weithredwr.

 

7.

Cyfansoddiad pdf icon PDF 216 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.

(Tudalennau 11 - 104)

 

Dogfennau ychwanegol:

8.

PENODI AELODAU ANNIBYNNOL (LLEYG) AR Y PWYLLGOR SAFONAU e pdf icon PDF 224 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.

(Tudalennau 105 - 108)

 

9.

Cyngor Cymuned Llanddew – Diffyg cworwm pdf icon PDF 102 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Etholiadau. 

Dogfennau ychwanegol:

10.

LWFANSAU CADEIRYDD Y PWYLLGOR PENSIYNAU A BUDDSODDI pdf icon PDF 367 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Adran 151.

(Tudalennau 109 - 112)

 

11.

HYSBYSIADAU O GYNNIG

11.1

Cynigion a gyflwynir i’r Cyngor yn y dyfodol

 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o gynigion wedi cael eu cyflwyno i gyfarfodydd cyngor llawn i’w hystyried, gan grwpiau’r gwrthbleidiau, heb unrhyw ddadansoddiad o’r gost ariannol neu’r adnoddau sy’n angenrheidiol.

 

Mae Cynghorwyr Sir Etholedig Powys yn cydnabod pwysigrwydd cyfrifo acystyried y costau o ran arian ac adnoddau a ysgwyddir gan y cyngor hwn, wrth ystyried neu gynnig cynnig, neu welliant, i'w gyflwyno i'r cyngor hwn.

 

Mae Cynghorwyr Sir Etholedig Powys yn cydnabod pwysigrwydd gwario arian trethdalwyr y cyngor neu gyllid a ddyrennir i’r cyngor hwn yn ddarbodus gan lywodraethau canolog, ar wasanaethau’r cyngor sir a rhwymedigaethau statudol, neu anstatudol eraill.

 

Mae Cynghorwyr Sir Etholedig Powys yn sylweddoli y byddai’n anghyfrifol cyflwyno unrhyw gynnig, neu welliant, heb roi ystyriaeth ddyledus i’r costau ariannol neu’r adnoddau y byddai’n rhaid i’r cyngor hwn eu darparu pe bai’r cynnig, neu’r gwelliant hwnnw yn cael ei gymeradwyo.

 

Cyfrifoldeb y cynigydd fyddai ceisio’r cymorth priodol i werthuso’r goblygiadau o ran cost ac adnoddau o fewn y cyngor.

 

 

Felly mae'r cyngor hwn yn penderfynu:

 

Bod yn rhaid i bob rhybudd o gynnig, neu unrhyw welliant i gynnig, a gyflwynir i’r cyngor hwn i’w ystyried, fod â  dadansoddiad wedi’i gostio o’r goblygiadau ariannol a’r goblygiadau o ran adnoddau y byddai’r cynnig hwnnw, neu welliant i gynnig, yn eu cael ar y cyngor hwn, pe bai'n cael ei gymeradwyo.

 

Cynigydd: Y Cynghorydd Sir Iain McIntosh

Eilydd: Y Cynghorydd Sir Lucy Roberts

 

 

11.2

Datgan Argyfwng Ecolegol a Chefnogi'r Mesur Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol

Y Datganiad ynghylch yr Argyfwng Hinsawdd, a basiwyd o’r diwedd gan Gyngor Powys union 12 mis yn ôl, oedd y cam cyntaf ar daith i ddarparu gwasanaethau a chamau gweithredu ym Mhowys a fyddai’n cyrraedd targed uchelgeisiol Sero-Net erbyn 2030.  Mae’r Gweithgor Trawsbleidiol a’r Cynghorwyr i gyd wedi cael eu briffio am y cynnydd a wnaed hyd yma tuag at atal gweithredoedd trychinebus y gorffennol a gwneud gwahaniaeth i'r dyfodol, ond mae angen mwy o hyd. Mae adroddiad diweddaraf  IPPC y Cenhedloedd Unedig “Crynodeb ar gyfer Gwneuthurwyr Polisi”, a lansiwyd cyn COP26, yn “god coch i ddynoliaeth” yn ôl Ysgrifennydd y Cenhedloedd Unedig. Mae Llywydd COP26, Alok Sharma, yn cydnabod y bydd y degawd nesaf yn “dyngedfennol” wrth i Lywodraeth y DU baratoi cynlluniau i gyrraedd sero net erbyn 2050. I aralleirio Jeremy Clarkson, “anghofiwch am newid yn yr hinsawdd, os bydd pryfed yn diflannu, diflannu hefyd fydd pob ffurf ar fywyd ar y Blaned hon”. Mae’r ddau, fodd bynnag, wedi’u cysylltu’n annatod; rydym yn wynebu dau argyfwng, y cynnydd mewn tymereddau a dirywiad mewn natur ac eto dim ond 15% o Gynghorau (gan gynnwys Swydd Henffordd gyfagos) sydd wedi datgan argyfwng ecolegol / bioamrywiaeth wrth ymateb i'r bygythiad i fywyd gwyllt ac ecosystemau. Fel enghraifft o natur yr argyfwng hwn, mae Adroddiad Cyflwr Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed (2017) yn nodi bod 40 o rywogaethau planhigion, 95% o’n poblogaeth frodorol o lyswennod Ewropeaidd a 63% o loÿnnod byw Cymru wedi’u colli’n barod.

 

Bellach mae gan y Mesur Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol, a gyflwynwyd i'r Senedd i ddechrau ym mis Medi 2020, gefnogaeth dros 100 o AS ar draws wyth plaid wleidyddol. Mae’r Mesur yn gofyn i'r DU gymryd cyfrifoldeb am ei chyfran deg o allyriadau nwyon t? gwydr, adfer cynefinoedd bioamrywiol yn y DU ac atal difrod i'r amgylchedd trwy gynhyrchu, cludo a chael gwared ar y nwyddau rydyn ni'n eu defnyddio.

 

Felly mae'r Cyngor hwn yn penderfynu:

1. Datgan argyfwng ecolegol i ddangos ymrwymiad y Cyngor i warchod amgylchedd naturiol, bioamrywiaeth a bywyd gwyllt Powys;

2. Datgan ei gefnogaeth i'r Mesur Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol (CEE);

3. Rhoi gwybod i’r cyfryngau lleol am y penderfyniad hwn, gan gynnwys rhannu gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol;

4. Ysgrifennu at ein Haelodau Seneddol lleol yn gofyn iddynt gefnogi’r Mesur CEE wrth iddo fynd trwy’r Senedd; ac 

4. Ysgrifennu at Gynghrair Mesur CEE, trefnwyr yr ymgyrch ar gyfer y Mesur, yn mynegi ein cefnogaeth (campaign@ceebill.uk).

 

Cynigydd: Y Cynghorydd Sir Jake Berriman

Eilydd: Y Cynghorydd Sir Jackie Charlton

 

 

11.3

Cefnogi Trwydded Syml ar gyfer Tân Gwyllt pdf icon PDF 616 KB

Yn ystod y pandemig ychydig iawn o dân gwyllt a welwyd, os gwelwyd rhai o gwbl. Mae hyn wedi rhoi llonydd mawr ei angen i anifeiliaid a bodau dynol na allant fwynhau tân gwyllt.

Efallai fod ein barn yn amrywio o ran a ddylid gwahardd tân gwyllt yn llwyr ond gallwn i gyd gytuno, os cânt eu defnyddio, y dylid gwneud hyn yn gyfrifol. Mae'r cynnig hwn yn nodi rhai mesurau y gallwn eu rhoi ar waith i ganiatáu arddangosfeydd tân gwyllt trwyddedig, rheoledig a diogel. 

Derbyniodd Pwyllgor Dethol Deisebau T?’r Cyffredin ddeiseb yn 2019 a ddenodd dros 750,000 o lofnodion ac o ganlyniad fe wnaethant argymell tri pheth: -

·       Dylid grymuso awdurdodau lleol i gyfyngu ar nifer yr arddangosfeydd tân gwyllt yn eu hardaloedd

·       Y Llywodraeth i ariannu a chydlynu ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol ar ddefnydd cyfrifol o dân gwyllt a ddylai gynnwys gwybodaeth benodol am yr effaith y gallai tân gwyllt ei chael ar gyn-filwyr a'r rhai â PTSD

·       Gofalu nad yw cynhyrchion â chyfyngiadau oedran arnynt yn cael eu pecynnu mewn ffordd sy’n denu ac yn apelio at blant.

Mae'r Cyngor hwn yn nodi:

·       Dywed y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA) fod y gyfraith yn methu. Nid yw’n atal nac yn lleihau’r risg yn ddigonol y bydd tân gwyllt yn achosi trallod, anaf neu bryder i bobl, yn ogystal â marwolaeth, anaf neu drallod i anifeiliaid.

·       Mae angen ymchwil bellach i ddeall effaith s?n ar anifeiliaid a phobl yn iawn. Yn y cyfamser, gellir gwneud sawl peth i wella'r sefyllfa i fywyd gwyllt a phobl sydd mewn perygl o gael eu heffeithio gan ffrwydradau tân gwyllt.

·       Mae angen adolygu’r mesurau presennol ac annog trwyddedu pob ARDDANGOSFA TÂN GWYLLT GYHOEDDUS, gan sicrhau bod arddangosfeydd yn cael eu hysbysebu’n well i’r cyhoedd gan roi gwybod iddynt am lefelau s?n a sut y gallai hyn effeithio ar bobl ac anifeiliaid.  Sylwch ar y cynnig a wnaed gan Gabinet Rhondda Cynon Taf ar 13 Hydref 2020.  Mae hwn yn canolbwyntio ar dir sy’n eiddo i’r cyngor ond y mae'n ymrwymiad i reoleiddio a hysbysu.

·       Codi ymwybyddiaeth am y niwed a’r trallod y gallai tân gwyllt ei achosi gyda lefel s?n a llygredd tân gwyllt llawer mwy pwerus yn cael eu gwerthu ar gyfer arddangosfeydd preifat a chyhoeddus.

Mae'r Cyngor hwn yn penderfynu:

1.     Hyrwyddo ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd am effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl agored i niwed - gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu cymryd i liniaru risgiau fel canlyniadau anfwriadol tân gwyllt cyfreithiol.

2.     Cefnogi’r RSPCA yn y gwaith sy’n cael ei wneud i newid y ddeddfwriaeth ar arddangosfeydd tân gwyllt i alluogi a sicrhau bod yr holl arddangosfeydd tân gwyllt cyhoeddus yn cael eu hysbysebu cyn y digwyddiad, gyda gwybodaeth briodol mewn perthynas â maint yr arddangosfa, gan ganiatáu i breswylwyr gymryd rhagofalon ar gyfer pobl ac anifeiliaid anwes.

  1. Annog, trwy godi ymwybyddiaeth, cyflenwyr tân gwyllt lleol i wahanu tân gwyllt ‘tawelach’ oddi wrth y rhai swniog fel y  ...  gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem 11.3

11.4

Credyd Cynhwysol: Canslo’r Cwtogi

Mae'r Cyngor hwn yn nodi:

 

Bydd cynlluniau Llywodraeth y DU i gwtogi ar Gredyd Cynhwysol yn taro’r rhai ar y cyflog isaf galetaf ac yn amharu ar ein hadferiad economaidd.

 

Bydd mwy nag wyth mil o deuluoedd ym Mhowys yn colli £1,000 y flwyddyn tra bydd cefnogaeth ar gyfer bod allan o waith yn cael ei gadael ar ei lefel isaf mewn degawdau.

 

Ym Mhowys, mae mwy na 40% o'r bobl sy'n derbyn Credyd Cynhwysol mewn gwaith.

 

Mae elusennau, undebau llafur, a’r gweinyddiaethau datganoledig i gyd yn gwrthwynebu’r cwtogiad arfaethedig ar Gredyd Cynhwysol.

 

Bydd y cwtogiad arfaethedig ar Gredyd Cynhwysol yn cymryd mwy nag £8 miliwn allan o economi Powys.

 

Mae'r cyngor hwn yn penderfynu:

 

  1. Ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau a’r Prif Weinidog i wrthwynebu’r cwtogiad arfaethedig i Gredyd Cynhwysol;
  2. Galw ar Fay Jones AS a Craig Williams AS i sefyll dros deuluoedd ym Mhowys a gwrthwynebu’r gostyngiad i Gredyd Cynhwysol; a
  3. Gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau cynghori i gefnogi preswylwyr y mae’r cwtogi ar Gredyd Cynhwysol yn effeithio arnynt.

 

Cynigydd: Y Cynghorydd Liz Rijnenberg

Eilydd: Y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance

 

 

11.5

Ehangu argaeledd ac ymwybyddiaeth Diffibrilwyr ym Mhowys

Mae'r Cyngor yn nodi bod 30,000 o bobl bob blwyddyn yn dioddef ataliad sydyn ar y galon y tu allan i'r ysbyty, a bod 20% o'r digwyddiadau hyn yn digwydd mewn mannau cyhoeddus. Mae’r Cyngor yn nodi ymhellach mai dim ond 10% o ddioddefwyr ataliadau ar y galon sy’n goroesi pan fydd y digwyddiad yn digwydd y tu allan i'r ysbyty.

Gall Diffibrilwyr Allanol Awtomataidd (AEDs) chwarae rhan sylweddol wrth achub bywydau pobl sy'n dioddef trawiadau ar y galon yn gyhoeddus. Amcangyfrifir bod sioc o AED, ochr yn ochr â thriniaeth CPR, yn cynyddu cyfraddau goroesi i 75-80%.

Mae’r Cyngor yn nodi’r digwyddiadau trasig ym Machynlleth ac mewn mannau eraill yng Nghymru yr haf hwn lle gallai unigolion fod wedi cael eu hachub trwy ddefnydd diffibriliwr ond nad oedd dyfeisiau naill ai ar gael neu nid oedd pobl yn gwybod amdanynt.

Mae’r Cyngor yn nodi nad yw’r gwefannau presennol heartsafe.org.uk, calonhearts.org, 111.wales.nhs.uk a’r ap symudol “staying alive” yn gweithio ar draws Powys gyfan neu nid oes ganddynt gyfleuster chwilio yn seiliedig ar leoliad.

Mae’r Cyngor yn canmol gwaith Cyngor Tref Llandrindod, y gr?p lleol yn Rhaeadr Gwy ac eraill ledled y sir wrth sefydlu diffibrilwyr newydd ar draws eu hardaloedd a darparu cypyrddau i sefydliadau i’w galluogi i osod diffibrilwyr presennol mewn mannau sy'n hygyrch i'r cyhoedd.

Mae’r Cyngor yn croesawu symudiadau gan Alun Davies AoS i gyflwyno Bil trawsbleidiol i’r Senedd i ddarparu diffibrilwyr ym mhob man yng Nghymru a fyddai’n ymdrin â rhai o’r problemau hyn gan gynnwys mater hanfodol y rhwymedigaethau cynnal a chadw ynghylch AEDs ledled Cymru.

Ond mae’r Cyngor yn pryderu er bod diffibrilwyr cyhoeddus ar gael mewn sawl man ledled y sir, gan gynnwys llawer o adeiladau ac asedau’r cyngor, bod yna fylchau yn y ddarpariaeth o AEDs sy’n hygyrch i’r cyhoedd ac ar hyn o bryd nid oes system fapio gyfannol yn rhestru’r holl AEDs ym Mhowys.

Felly mae'r Cyngor yn gofyn i'r Cabinet ystyried y canlynol:

·        Llunio rhestr ac yna ei chyhoeddi a’i diweddaru o’r holl ddiffibrilwyr sy’n cael eu cynnal ar safle’r cyngor gyda gwybodaeth am sut i gael mynediad atynt.

·       Gwneud adolygiad o, a lle bo hynny’n briodol, cynyddu hygyrchedd cyhoeddus diffibrilwyr sydd wedi’u lleoli mewn safleoedd sy’n eiddo i’r cyngor gan gynnwys parciau cyhoeddus, canolfannau cymunedol, ysgolion, cyfleusterau hamdden, ac ardaloedd y mae llawer o’r cyhoedd yn eu defnyddio.

·        Gofyn i Gadeirydd y Cyngor anfon llythyr ar ran y Cyngor at yr Ysgrifenyddion Iechyd ac Addysg yn y Senedd yn eu hannog i gefnogi symudiadau i ehangu argaeledd AEDs a hyrwyddo eu defnydd, ac yn arbennig trwy hyfforddiant o fewn y system addysg.

Cynigydd: Y Cynghorydd Sir Pete Roberts

Eilydd: Y Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe

 

 

 

 

12.

Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad

12.1

Cwestiwn i’r Aelod Portffolio ar faterion Gofal Cymdeithasol i Oedolion, yr Aelod Portffolio ar faterion Tai, Cynllunio ac Adfywio Economaidd a’r Aelod Portffolio ar faterion Addysg ac Eiddo gan y Cynghorydd Sir Timothy Van-Rees pdf icon PDF 146 KB

Ar ôl elwa ar gymorth cyfieithwyr a phersonél eraill a ymrestrwyd yn lleol yn ystod fy ngwasanaeth dramor, byddwn yn canmol y Cabinet am benderfynu cynnig llety i chwe theulu o ffoaduriaid o Afghanistan. 

 

O ystyried y sefyllfa yn y wlad drist honno mae'n debygol y bydd gofyn am lety i nifer sylweddol fwy o ffoaduriaid ac yn wir ddarpariaeth ar gyfer addysg eu plant.  Pa gynlluniau wrth gefn y mae’r Cabinet wedi’u gwneud pe bai Llywodraeth EM / Llywodraeth Cymru yn gofyn am gymorth ychwanegol? 

 

12.2

Cwestiwn i’r Aelod Portffolio ar faterion Pobl Ifanc a Diwylliant gan y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt

 

A allai’r Aelod Portffolio roi ffigurau mewn termau gwirioneddol ac o ran canrannau ar gyfer cyfanswm y gostyngiadau blynyddol yng nghyllid grant Cyngor Sir Powys i sefydliadau celfyddydol a diwylliannol a gynhwyswyd yng Nghyllideb y Cyngor ym mhob blwyddyn rhwng 2017/18 a 2021/22?

 

 

12.3

Cwestiwn i’r Aelod Portffolio ar faterion Tai, Cynllunio ac Adfywio Economaidd gan y Cynghorydd Sir William Powell pdf icon PDF 378 KB

A wnaiff yr Aelod Portffolio ar faterion Tai ddiweddaru’r Cyngor ynghylch y cynigion diweddaraf ar gyfer ad-drefnu Gwasanaeth Tai Cyngor Sir Powys, sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd?

 

Ar adeg o bwysau dwys ynghylch y sefyllfa o ran tai - ac o ystyried y pwyslais o’r newydd gan Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James AoS, ynghylch pwysigrwydd adfer Eiddo Gwag ar fyrder, a allai’r Aelod Portffolio dawelu meddwl yr Aelodau na fydd Tîm y Tai Sector Preifat sydd wedi ennill gwobrau, yn cael ei ddiddymu na'i erydu mewn unrhyw ffordd?

 

 

12.4

Cwestiwn i’r Aelod Portffolio ar faterion Gofal Cymdeithasol i Oedolion gan y Cynghorydd Sir Jon Williams pdf icon PDF 388 KB

Fel cynghorwyr dywedir wrthym yn gyson bod staff yn cael eu secondio i feysydd gwasanaeth eraill oherwydd Covid.  Oherwydd y llwyth gwaith ychwanegol y mae’n rhaid i wasanaethau cymdeithasol oedolion ddelio ag ef a’r pwysau enfawr y maent yn eu hwynebu o ddydd i ddydd, a allai’r Aelod Portffolio ddweud wrtha’ i faint o staff sydd wedi’u secondio i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol oedolion, faint o staff o’r maes gwasanaeth hwn sydd ar ffyrlo a pha gamau y mae'r cyngor yn eu cymryd i sicrhau lles y staff yn y maes gwasanaeth hwn?

 

 

12.5

Cwestiwn i'r Arweinydd gan y Cynghorydd Sir William Powell pdf icon PDF 379 KB

Mae gan Fargen Twf Canolbarth Cymru y potensial i fod yn sbardun enfawr i economi Canolbarth Cymru yn y blynyddoedd heriol sydd i ddod ac mae angen cydnabod ymdrechion Aelodau a Swyddogion, sy’n gweithio gyda chyfranogwyr o fewn Llywodraeth y DU a Chymru.

 

Ond mae profiad Cymru o fentrau Bargen Twf eraill yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn Rhanbarth Bae Abertawe, wedi dangos pwysigrwydd hanfodol craffu wrth brofi cadernid a hyfywedd strategaethau penodol.

 

Gyda hyn mewn golwg, pa ystyriaeth y mae’r Arweinydd wedi’i rhoi i hyrwyddo craffu ar y cyd gan Aelodau, a dynnir o Gynghorau Sir Ceredigion a Powys, er mwyn rhoi sicrwydd a darparu tryloywder, a thrwy hynny sicrhau mwy o gefnogaeth gan y cyhoedd

 

 

12.6

Cwestiwn i’r Aelod Portffolio dros yr Amgylchedd gan y Cynghorydd Pete Roberts.

Hynt a helynt y cynllun trwsio tyllau yn y ffordd – Cronfa Adfer Covid

Gan ein bod ni nawr bron i hanner ffordd twy’r flwyddyn ariannol ac felly cyfnod cylch ariannu adfer Covid.  All yr aelod portffolio roi manylion yn ôl pob ward o gostau a sgôp y cynlluniau trwsio tyllau yn y ffordd sydd wedi’u gwneud hyd yma o ganlyniad i’r buddsoddiad hwn a rhoi manylion tebyg o’r gwaith a fydd yn cael ei wneud dros weddill y flwyddyn.

 

 

 

Cymerir yr eitem ganlynol am 2.00 y prynhawn

13.

YMDDIRIEDOLAETH GIG GWASANAETH AMBIWLANS CYMRU

Briff gan Jason Killens, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.