Agenda

Lleoliad: Ar Teams - By Teams. Gweld cyfeiriadau

Cyswllt: Stephen Boyd  01597 826374

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 355 KB

Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

3.

Datganiadau o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda.

4.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor.

5.

Cyhoeddiadau'r Arweinydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd.

6.

Briff gan y Prif Weithredwr

Derbyn briff gan y Prif Weithredwr.

7.

Rhybudd o Gynnig - Sefyll Lan dros Ofalwyr

Mae COVID wedi cyflwyno cymaint o heriau i ni ers mis Mawrth 2020.  Mae’r cynnig hwn yn canolbwyntio ar gyfle i SEFYLL LAN DROS OFALWYR. 

Arddiwedd 2019 ym Mhowys roedd tua 2627 o ofalwyr gyda’r hawl i dderbyn Lwfans Gofalwyr, 1563 yn derbyn y lwfans a 1064 o breswylwyr Powys sy’n gofalu am rywun yn ddi-dal.  

 

1. Nodiadau’r Cyngor ar gyfer y cynnig:

a.    Gofalwyr rhai sy’n cael eu talu ac yn ddi-dal, ifanc a hen – maen nhw’n gwneud gwaith anhygoel a phwysig.  Mae’r gofalwyr hyn yn rhan annatod o gymuned Powys.  Maen nhw’n haeddu ein cymorth ond yn llawer rhy aml maen nhw’n cael eu hanghofio a’u hanwybyddu.

b.    Mae gofalwyr ym Mhowys a ledled Cymru yn wynebu heriau mawr bob dydd; heriau sydd wedi’u gwneud yn llawer mwy anodd gan bandemig COVID-19.  Mae’r rhan fwyaf yn gorfod treulio mwy o amser yn gofalu am anwyliaid yn ystod y pandemig; mae’r rhan fwyaf heb allu cymryd un seibiant ers iddo ddechrau; ac mae’r rhan fwyaf wedi blino’n lân. 

c.    Mae gofalwyr di-dal yn arbed o leiaf £8 biliwn y flwyddyn i Lywodraeth Cymru.  Gofynnir i ofalwyr weithio unrhyw beth o 35 awr i 168 awr yr wythnos am y taliad cyflawn o £67.25, pan fod gofalwyr sydd wedi’u recriwtio ac yn cael eu talu gan y Cyngor yn gallu ennill hyd at £1,176 yn ystod yr un cyfnod o amser.

2. Rhagor o nodiadau’r Cyngor :

a.    Yn £67.25 yr wythnos, Lwfans Gofalwyr yw’r budd-daliad isaf o’i fatha.

b.    Mewn ymateb i bandemig Covid-19, cynyddodd y Llywodraeth y lwfans safonol Credyd Cynhwysol ac elfen sylfaenol y Credyd Treth Gwaith o £20 yr wythnos yn uwchben y cynnydd arfaethedig ym mis Ebrill 2020, ond nid yw wedi cynyddu Lwfans Gofalwr.

c.    Mae llawer o ofalwyr di-dâl yn wynebu caledi ariannol eithafol. Canfu arolwg diweddar gan Carers UK fod mwy na thraean o'r rhai sydd ar Lwfans Gofalwr yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Mae llawer wedi bod yn ei chael hi’n anodd ers misoedd, gan ddibynnu'n aml ar fanciau bwyd i fwydo eu hunain a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Mae gan Bowys un o'r cyfraddau uchaf o ofalwyr di-dâl yng Nghymru.  Mae gofalwyr di-dâl yn cyfateb i 41% o'r holl ofalwyr a dim ond Gwynedd sy’n cyfateb i'r lefel honno (Ystadegau Gwladol y DU 2019).

d.    Canfu arolwg Carers UK fod "43% o ofalwyr yn teimlo y byddai cynnydd yn y Lwfans Gofalwr yn eu helpu, o ystyried y pwysau ariannol sy’n eu hwynebu."

3. Bod y Cyngor yn penderfynu:

a.     Rhaid i ni sefyll lan dros ofalwyr, gwneud mwy i'w cefnogi, ac adeiladu cymdeithas fwy gofalgar wrth i ni ddod allan o bandemig Covid-19.

4. Bod y Cyngor yn cyfarwyddo Arweinydd y Cyngor i:

a.    Ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, gan eu hannog i godi Lwfans Gofalwr o £20 yr wythnos ar  ...  gweld testun llawn yr agenda ar gyfer eitem 7.

8.

Adolygiad Blynyddol 2021 o'r Weledigaeth 2025 Ein Cynllun Gwella Corfforaethol gan gynnwys ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 pdf icon PDF 577 KB

Ystyried Adolygiad Blynyddol 2021 o’r Weledigaeth 2025 Ein Cynllun Gwella Corfforaethol, gan gynnwys ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol 2020-2024.

Dogfennau ychwanegol:

9.

Datganiad Polisi Cyflog 2021/22 pdf icon PDF 311 KB

Ystyried y Datganiad Polisi Cyflog 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

10.

Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad

10.1

Cwestiwn gan y Cynghorydd Sir Stephen Hayes i'r Aelod Portffolio ar faterion Pobl Ifanc a Diwylliant pdf icon PDF 197 KB

 

Ar 21 Awst ysgrifennodd y Swyddfa Gartref, yr Adran Addysg, ADCS a'r Gymdeithas Llywodraeth Leol at gynghorau mewn perthynas ag Ymfudwyr sy’n Blant Di-gwmni (cyfeirir atynt weithiau fel plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches) yn datgan bod argyfwng gofal yn codi yng Nghaint oherwydd nifer y bobl ifanc sy'n agored i niwed sydd angen gofal.

 

Roedd y llythyr yn nodi ‘… mae angen cymorth brys pellach ar gyfer y canlynol ar draws pob rhan o’r DU: 

  Cynigion o leoliadau yn eich ardal

Cynigion i gymryd cyfrifoldeb llawn o dan Ddeddf Plant 1989 am y bobl ifanc hyn

Cynigion i oruchwylio pobl ifanc wedi’u gosod yn eich ardal

Cynigion i roi llety yn unigyrchol i bobl ifanc o’r ‘Kent Intake Unit’ yn Dover.’

(gellir gweld y testun llawn yma https://www.local.gov.uk/sites/default/files/documents/20200821%20joint%20letter%20re%20Kent%20crisis.pdf )

 

Ar 28 Awst cyhoeddwyd yn y cyfryngau lleol fod Powys wedi gwrthod yr apêl hon ac na fyddai'n cynnig croeso i Ymfudwyr sy’n Blant Di-gwmni. Mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi yn gofidio am y penderfyniad hwn, gan bwysleisio'r tosturi y maen nhw’n teimlo y dylem ni, fel sir a chenedl, ei deimlo a'n dyletswydd i ddangos hynny ar waith. 

 

A allech egluro pa ymateb a roddwyd i'r llythyr dyddiedig 21 Awst; pa gamau sydd wedi'u cymryd, fel Cyngor ac mewn cydweithrediad â chynghorau eraill, i gynnig croeso i Ymfudwyr sy’n Blant Di-gwmni; a nifer y plant o'r fath sydd wedi’u helpu hyd yma neu dros bwy y mae Cyngor Sir Powys wedi derbyn cyfrifoldeb o dan y Ddeddf Plant?

 

Canlyniadau'r Bleidlais pdf icon PDF 513 KB

11.

Penderfyniad Treth y Cyngor 2021/22 pdf icon PDF 900 KB

Cymeradwyo penderfyniad Treth y Cyngor a gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2021/2022.