Agenda

Lleoliad: Ar Teams - By Teams. Gweld cyfeiriadau

Cyswllt: Stephen Boyd  01597 826374

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

To receive apologies for absence.

2.

Datganiadau o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda.

3.

Cofnodion pdf icon PDF 259 KB

Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 28 Chwefror a 5 Mawrth 2020 fel cofnodion cywir.

Dogfennau ychwanegol:

4.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor.

5.

Cyhoeddiadau'r Arweinydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd.

6.

Briff gan y Prif Weithredwr

Derbyn briff gan y Prif Weithredwr.

7.

Gweledigaeth 2025: Ein Cynlllun Gwella Corfforaethol Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019-2020 a Chynllun Cydraddoldeb Strategol Adroddiad Monitro Blynyddol 2019-2020 pdf icon PDF 140 KB

Ystyried Gweledigaeth 2025: Ein Cynllun Gwella Corfforaethol Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019-2020 a Chynllun Cydraddoldeb Strategol Adroddiad Monitro Blynyddol 2019-2020.

 

Cynllun Gwella Corfforaethol Adroddiad Perfformiad Blynyddol

Adroddiad llawn a chrynodeb un tudalen wedi’I atodi.

 

Gellir gweld y fersiynau hawdd i’w darllen ar y dolenni isod

SWAY Cymraeg: https://sway.office.com/HTKfNSnmhCitVzcC?ref=Link

SWAY Saesneg: https://sway.office.com/g6SVxXovHt8MQRHq?ref=Link

 

 

Cynllun Cydraddoldeb Strategol Adroddiad Monitro Blynyddol

SWAY Cymraeg: https://sway.office.com/QfWhJFfA0LT5wLzH?ref=Link   

SWAY Saesneg: https://sway.office.com/qUnDl41pRiFXSnOY?ref=Link

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

8.

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Iaith Gymraeg 2019-2020 pdf icon PDF 134 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Sir Myfanwy Alexander Aelod Portffolio ar faterion Gofal Cymdeithasol Oedolion a’r Iaith Gymraeg.

Dogfennau ychwanegol:

9.

Trosglwyddiadau

Ystyried unrhyw drosglwyddiadau sydd angen eu cymderadwyo gan y Cyngor.

10.

Lwfansau a Threuliau Aelodau 2019-20 pdf icon PDF 211 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

11.

Cyflogau, Lwfansau a Threuliau Aelodau 2020-21 pdf icon PDF 353 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

12.

Argymhelliad gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 199 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

13.

Penodiadau a wnaed gan grwpiau gwleidyddol a chymeradwywyd gan y Swyddog Monitro

Nodi’r penodiadau canlynol a wnaed i bwyllgorau a chyrff allanol gan grwpiau gwleidyddol a chymeradwywyd gan y Swyddog Monitro o dan bwerau cyffredinol dirprwyedig gan y Cyngor ar 16 Mai 2013.

 

Penodwyd y Cynghorydd Sir James Evans i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gan y Grwp Ceidwadol yn lle’r Cynghorydd Sir Iain McIntosh.

 

Penodwyd y Cynghorydd Sir Gwynfor Thomas i’r Awdurdod Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gan y Grwp Ceidwadol yn lle’r Cynghorydd Sir Claire Mills.

14.

Ol Trefniadau y Bwrdd Gwella a Sicrwydd

Derbyn adroddiad y Cabinet ar Ol-Argymhellion y Bwrdd Gwella a Sicrwydd, er gwybodaeth.

Dogfennau ychwanegol:

15.

Rhybudd o Gynnig: Datganiad am Argyfwng Hinsawdd a Galwad i Weithredu ar Ynni Lleol

Mae'r Cyngor hwn yn nodi bod adroddiad y Panel IPPC ar gynhesu byd-eang yn rhagweld effeithiau difrifol ar iechyd, y cartref a'r amgylchedd, gyda'r llifogydd difrifol ym mis Hydref 2019 a Chwefror 2020 yn peryglu cymunedau Powys, gan ddangos yn glir nad ydym yn barod am yr heriau a wynebwn fel Cyngor.

Mae'r Cyngor hwn yn nodi bod cynghorau, drwy ddatgan argyfwng hinsawdd, yn dangos eu harweinyddiaeth ar y cyd ac yn arwydd o’r brys y maen nhw’n eu rhoi, fel corff atebol cyhoeddus, ar fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio'r economi fel sy'n ofynnol yn ôl Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Mae'r Cyngor hwn yn nodi y bydd y Cyngor, drwy gefnogi'r Bil Trydan Lleol, yn dileu'r rhwystrau i gyflenwad ynni lleol, ac y gallai arwain drwy esiampl wrth leihau ei ôl troed carbon corfforaethol drwy ddefnyddio ein hystâd fferm i fod yn ddarparwr trydan adnewyddadwy lleol, tra'n cefnogi cymunedau i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o leihau eu hôl troed carbon a buddsoddi mewn cyfleusterau cymunedol a'u cefnogi.

Mae’r Cyngor hwn yn nodi ymrwymiad Fay Jones AS i'r ymdrech drawsbleidiol i droi’r Bil Trydan Lleol yn gyfraith, gan helpu Cynghorau i roi hwb cychwynnol i chwyldro ynni lleol sydd â'r potensial i leihau ôl troed carbon Powys unwaith ac am byth tra'n dosbarthu'r manteision i gymunedau lleol yn barhaus.

Mae'r Cyngor hwn felly yn penderfynu:

1. Ymuno â chynghorau eraill ledled Cymru wrth ddatgan Argyfwng Hinsawdd

2. Cefnogi'r broses o weithredu Ffyniant i bawb: Cymru Carbon Isel (Mawrth 2019) er mwyn sicrhau bod Cyngor Sir Powys yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030.

Cynigiwydgan y Cynghorydd Sir Jake Berriman

Eiliwydgan y Cynghorydd Sir Jackie Charlton

 

16.

Rhybudd o Gynnig: Taliadau Meysydd Parcio

Er mwyn cefnogi busnesau lleol a helpu i adfywio'r economi ym Mhowys, mae'r cyngor hwn yn gofyn i'r Cabinet ystyried rhoi ar waith cyfnod parcio am ddim cychwynnol o 2 awr ar gyfer pob cerbyd sy’n defnyddio holl feysydd parcio Cyngor Sir Powys, i'w adolygu bob 6 mis.

 

Mae'r Cyngor hefyd yn annog Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Portffolio ar faterion Cyllid i ofyn am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru (drwy'r cynlluniau a ariennir gan y Llywodraeth sy'n dod i'r amlwg i gefnogi'r economi yn dilyn Covid-19) ar gyfer unrhyw incwm a gollir o ganlyniad i'r mesur hwn. Os na fydd hyn yn llwyddiannus i gefnogi’r defnydd o arian wrth gefn o'r tanwariant yn ystod blwyddyn gyllideb 2019/20 i gefnogi unrhyw ddiffyg.

 

Cynigydd y Cynghorydd Sir James Gibson-Watt

 

Eilydd y Cynghorydd Sir William Powell

 

17.

Rhybudd o Gynnig: Effaith Covid-19 ar Ystradgynlais

Ym mis Ebrill 2020, cyhoeddodd y Ganolfan Trefi ei hadroddiad, 'effaith pandemig COVID-19 ar ein trefi a'n dinasoedd".  Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar 'ble' mae effaith COVID-19 yn fwyaf tebygol o gael ei theimlo.

 

Mae'r Cyngor hwn yn nodi bod Ystradgynlais wedi ei dynodi fel un o'r ugain lle mwyaf difreintiedig yng Nghymru a Lloegr yn ôl mesurau y Ganolfan ar gyfer Trefi.

 

Mae'r Cyngor hwn yn penderfynu sefydlu gr?p 'Gorchwyl a Gorffen' brys gydag Aelodau, Swyddogion a rhanddeiliaid i:

1.            Ystyried canfyddiadau adroddiad Canolfan Trefi;

2.            Datblygu strategaeth economaidd ar gyfer Ystradgynlais sy'n canolbwyntio ar adferiad, cefnogaeth i fusnesau a sgiliau; a

3.            Rhoi cynlluniau clir a mesuradwy ar waith i fynd i'r afael ag amddifadedd ac anghydraddoldebau iechyd.

 

Cynigwydgan y Cynghorydd Sir Huw Williams

Eiliwydgan y Cynghorydd Sir Sue McNicholas

 

18.

Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad

18.1

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Llywodraethu ac Ymgysylltu Corfforaethol a'r Aelod Portffolio ar faterion Pobl Ifanc a Diwylliant gan y Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe pdf icon PDF 113 KB

Beth mae Cyngor Sir Powys yn ei wneud i gydnabod ymgyrch ‘Mae Bywydau Duon o Bwys’?

 

18.2

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar fateiron Addysg ac Eiddo gan y Cynghorydd Sir Sandra Davies pdf icon PDF 429 KB

Rhoddodd y Gweinidog dros Addysg, Kirsty Williams y dewis i Awdurdodau Lleol bod staff ysgol yn gweithio pedwerydd wythnos ychwanegol ‘yn wirfoddol' ar ddiwedd mis Gorffennaf (gwyliau ysgol arferol) a chael pythefnos o wyliau ym mis Hydref - neu beidio.

Mae Cyngor Sir Powys yn un o dri awdurdod lleol sydd wedi cytuno i fabwysiadu hyn.

A yw'r Awdurdod hwn wedi ystyried yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar addysg pobl ifanc?

 

Mae’r system “Dal i fyny” cyfredol, yn cynnwys pellter cymdeithasol yn cyfateb i bobl ifanc yn mynychu ysgol unwaith yr wythnos ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb am dair neu bedair wythnos.

 

Ni fydd ysgolion ar agor am y bedwaredd wythnos ar ddiwedd mis Gorffennaf gan Awdurdodau Lleol eraill sydd ddim wedi derbyn y system hon ond bydd eu hysgolion yn agored am wythnos lawn ym mis Hydref ar gyfer eu holl bobl ifanc: pedwar diwrnod ychwanegol o fynychu'r ysgol.

 

18.3

Cwestiwn i'r Arweinydd gan y Cynghorydd Sir Sandra Davies pdf icon PDF 373 KB

Mae llawer o waith cynllunio a pharatoi ar waith ar hyn o bryd i alluogi ysgolion i agor ym mis Medi, er mwyn i bobl ifanc ddychwelyd i ysgolion.

Pa ddyddiad y bydd yr awdurdod hwn yn ailddechrau ei fusnes arferol a phryd bydd Swyddfeydd y Cyngor yn agor i aelodau'r cyhoedd?

 

18.4

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion yr Amgylchedd gan y Cynghorydd Sir William Powell

Pa gamau y mae adran Priffyrdd Cyngor Sir Powys yn eu cymryd i sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng ei gweithlu, staff dan gontract a gweithwyr Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (N&MWTRA) o ran cynnal a chadw ffyrdd, cau ffyrdd ac ati er mwyn lleihau canlyniadau anfwriadol ar gymunedau lleol a'r cyhoedd sy'n teithio?

 

18.5

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion yr Amgylchedd gan y Cynghorydd Sir William Powell

Yng ngoleuni sylwadau cadarnhaol a wnaed yn ddiweddar gan Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Thrafnidiaeth am yr ymgyrch dros derfyn cyflymder o ‘20 yn Ddigon' ym mhob ardal drefol, pa ystyriaeth a roddwyd gan Gyngor Sir Powys i osod terfyn o 20mya gwirfoddol ar bob cerbyd y mae'n berchen arno, neu sy'n darparu ei wasanaethau, yn ein trefi a phentrefi?

 

Gan y byddai'r mesur hwn yn talu ar ei ganfed o ran diogelwch y cyhoedd a cherddwyr, prysurdeb adwerthu a'r sector lletygarwch a diogelu'r amgylchedd, a fydd yr Aelod Portffolio yn barod i ymrwymo i gomisiynu arolwg dichonoldeb, i'w adolygu gan gyfoedion y Ganolfan Dechnoleg Amgen ym Machynlleth?

 

Voting Results - 30th July, 2020 pdf icon PDF 558 KB