Agenda a chofnodion

Lleoliad: Ar Teams - By Teams. Gweld cyfeiriadau

Cyswllt: Stephen Boyd  01597 826374

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.

Cofnodion pdf icon PDF 608 KB

Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2020 fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

3.

Datganiadau o ddiddordeb

Derbynunrhyw ddatganiadau o fuddiant oddi wrth Aelodau mewn perthynas ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda.

4.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Derbynunrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor.

5.

Briff gan y Prif Weithredwr

Derbynbriff gan y Prif Weithredwr.

6.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol

Derbyn ac ystyried adroddiad blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. 

Dogfennau ychwanegol:

7.

Cyhoeddiadau'r Arweinydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd.

8.

Bwrdd Pensiynau Powys pdf icon PDF 122 KB

Ystyriedadroddiad gan y Cynghorydd Sir Aled Davies, Aelod Portffolio Cyllid, Cefn Gwlad a Chludiant.

Dogfennau ychwanegol:

9.

Rhybudd o Gynnig - Datganiad o Argyfwng Hinsawdd a Galwad i Weithredu ar Ynni Lleol

Mae’r Cyngor hwn yn nodi bod adroddiad Panel IPPC ar gynhesu Byd-eang yn rhagfynegi effeithiau difrifol ar iechyd, cartrefi a’r amgylchedd, wrth i lifogydd difrifol Hydref 2019 a Chwefror 202 beryglu cymunedau Powys, a dangos yn eglur nad ydym wedi paratoi’n ddigonol ar gyfer yr heriau a wynebwn fel Cyngor.

Mae’r Cyngor hwn yn nodi bod cynghorau, trwy ddatgan argyfwng hinsawdd, yn dangos eu harweinyddiaeth gyfun ac yn amlygu arwydd o taerineb y maent yn ei harddel fel corff sy’n atebol i’r cyhoedd, ar fynd i’r afael â newid hinsawdd a datgarboneiddio’r economi yn unol â gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Mae’r Cyngor hwn yn nodi y bydd y cyngor, trwy gefnogi’r Bil Trydan Lleol, yn symud y rhwystrau i gyflenwi ynni’n lleol a gallent arwain trwy esiampl gan leihau ei ôl-troed carbon corfforaethol trwy ddefnyddi’n stad ffermydd i ddod yn ddarparwr trydan adnewyddadwy lleol, a hefyd cefnogi cymunedau i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o leihau eu hôl-troed carbon a buddsoddi mewn cyfleusterau cymunedol a buddsoddi ynddynt.

Mae’r Cyngor hwn yn nodi ymrwymiad Fay Jones’ AS i’r ymdrech drawsbleidiol i sefydlu’r Bil Trydan Lleol yn gyfraith, gan helpu Cynghorau i ysgogi chwyldro ynni lleol sydd â’r potensial i leihau ôl-troed carbon Powys unwaith ac am byth, a dosbarthu’r manteision i gymunedau lleol am byth.

Mae’r Cyngor hwn felly’n penderfynu:

1. Ymuno â chynghorau eraill ledled Cymru i ddatgan Argyfwng Hinsawdd

2. Cefnogi rhoi Ffyniant i bawb: Cymru Carbon Isel (Mawrth 2019) ar waith i wneud Cyngor Sir Powys yn awdurdod carbon sero-net erbyn 2030.

3. Gofyn i’r Arweinydd ystyried aseinio swyddogaethau o fewn y cabinet i arwain ar liniaru Newid Hinsawdd ac ymgysylltu’n weithredol â’r holl aelodau a rhanddeiliaid trwy: A sefydlu gweithgor trawsbleidiol a, B sefydlu gr?p aml-randdeiliaid ar draws Powys i ddatblygu darlun o’r sefyllfa sylfaen @2020 a llunio strategaeth a chynllun gweithredu @2021 ar gyfer Powys wirioneddol gynaliadwy.

4. Cefnogi ein AS i sicrhau bod y Bil Trydan Lleol yn llwyddo mewn Dadl Ohiriedig i alluogi cyflenwi trydan a hwyluso cymunedau mwy cadarn ym Mhowys.

5. Gofyn i Lywodraethau Cymru a’r DU ddarparu’r gefnogaeth a’r adnoddau angenrheidiol i alluogi lleihad carbon effeithiol a throsi i’r economi werdd ym Mhowys.

Cynigiwydgan y Cyng Jake Berriman

Eiliwydgan y Cyng Jackie Charlton

 

10.

Rhybudd o Gynnig - Gollyngiadau Carbon

Bod y cyngor hwn yn ceisio lleihau ei ollyngiadau carbon i sero-net yn unol â tharged Llywodraeth Cymru ar gyfer 2030 a, galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ac adnoddau digonol i allu cyflawni’r targedu yma.

 

Bod y cyngor hwn, gyda chymorth yr aelod portffolio’ priodol, y swyddog newid hinsawdd sydd newydd ei benodi a’r gweithgor newid hinsawdd, yn adeiladu ar y cyflawniadau hyd yma ac yn datblygu strategaeth gweithio a’r cynlluniau gweithredu cysylltiedig i gyflawni’r targed yma.

 

Bod y cyngor hwn yn adolygu’r holl bolisïau, strategaethau a chynlluniau perthnasol, gan gynnwys ei gynllun corfforaethol a’i gynllun datblygu lleol, i gefnogi cyflawni’r targed yma.

 

Bod y cyngor hwn, ynghyd â chymorth ac adnoddau priodol gan Lywodraeth Cymru, yn gweithio gyda phartneriaid, awdurdodau lleol eraill a sefydliadau i helpu i ddatblygu a rhoi ar waith yr arferion gwaith gorau i gyfyngu cynhesu byd-eang a rhoi cyhoeddusrwydd i’r datganiad o argyfwng hinsawdd.

Bod y cyngor hwn yn hyrwyddo ac yn cyhoeddi arferion gwaith gorau wrth gyfyngu cynhesu byd-eang ac ar yr un pryd yn annog preswylwyr a busnesau i fynd ati i gymryd camau gweithredu eu hunain hefyd i leihau gollyngiadau carbon yn unol â tharged Llywodraeth Cymru ar gyfer 2030.

 

Cynigiwydgan y Cyng Iain McIntosh

Eiliwydgan y Cyng Lucy Roberts

 

11.

Rhybudd o Gynnig - Cartrefi Gwyliau

Mae gan Bowys oddeutu 1262 o gartrefi gwyliau/ail gartrefi o fewn y rhestr Treth y Cyngor sy’n talu’r premiwm presennol o 50%, sy’n cynhyrchu tua £700k.

 

Yng ngoleuni’r pryder cymdeithasol mawr am effaith niferoedd uchel eiddo o’r fath mewn sawl cymuned, mae’r Cyngor yn galw:

 

·         am gynyddu’r premiwm cyfredol i 75% yn y flwyddyn ariannol nesaf, gan gynhyrchu tua £350k i’r awdurdod

·         ac am i’r cyngor weithio gydag awdurdodau gwledig eraill trwy CLlLC i sicrhau bod Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Brisio’n defnyddio dull cyson wrth asesu ceisiadau am Drethi Busnes ar gyfer eiddo o’r fath o ystyried bod angen iddynt gael eu gosod am o leiaf 140 o ddyddiau’r flwyddyn er mwyn bod yn fusnes dilys.

Cynigiwydgan y Cyng Elwyn Vaughan

Cynigiwydgan y Cyng Bryn Davies

 

12.

Rhybudd o Hynnig - Cyfyngiadau Cyflymder mewn Trefi Bychain

Datganolwyd grym dros gyfyngiadau cyflymder cenedlaethol i Gymru yn 2018.

Yn 2019, dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford: Mae gan awdurdodau lleol y disgresiwn i gadw parthau 30 mya ar briffyrdd allweddol, ond y tu hwnt i hynny, ac mewn ardaloedd preswyl, gwyddom fod parthau 20mya yn lleihau cyflymder y traffig, yn lleihau damweiniau – yn enwedig damweiniau i balnt, ac rydym am weld hynny yn rhagosodiad ar hyd a lled Cymru.’ Dywedodd yr AS Llafur John Griffiths fod cefnogaeth drawsbleidiol i bolisi y credai fod ganddi lawer o fanteision i gymdeithas. ‘Bydd pobl h?n yn teimlo’n hapusach os gallant gerdded ar hyd y strydoedd gyda chyfyngiadau cyflymder o 20mya mewn grym, a bydd rhieni’n teimlo’n hapusach wrth alluogi eu pobl ifanc i chwarae y tu allan.’

 

Ar 15 Gorffennaf eleni, pleidleisiodd y Senedd i sefydlu rhagosodiad cyflymder o 20mya mewn strydoedd preswyl, yn amodol ar ymgynghori a phenderfyniad terfynol, gyda diwrnod targed o 2023 i roi hyn ar waith.

 

Mae’r ddogfen ganllaw gyfredol mewn perthynas â chyfyngiadau cyflymder i’w gynnwys yn Nghylchlythyr Rhif 24/20009 Llywodraeth Cynulliad Cymru Gosod Cyfyngiadau Cyflymder Lleol yng Nghymru, dyddiedig Hydref 2009. Ymhlith pethau eraill, mae’n datgan inter alia:

 

·         Mai sicrhau dosbarthiad ‘diogel’ o gyflymderau’ sy’n adlewyrchu swyddogaeth y ffordd ac yn effeithio ar y gymuned leol ddylai fod yn nod sylfaenol. Dylid ystyried yn llawn anghenion defnyddwyr ffyrdd agored i niwed a chymunedau.

·         Dylid ystyried cymeriad y ffordd ac anghenion y defnyddwyr ffyrdd agored i niwed yn ffactorau wrth osod cyfyngiad cyflymder.

·         Rhaid ystyried yn llawn anghenion defnyddwyr ffyrdd agored i niwed er mwyn annog ymhellach eu symudedd a gwella’u diogelwch. Mae gosod cyfyngiadau cyflymder yn elfen bwysig iawn wrth reoli diogelwch trefol, gyda manteision sylweddol i gerddwyr a beicwyr.

Cynnig:

Mae’r Cyngor yn croesawu pleidlais ddiweddar y Senedd i gyflwyno rhagosodiad cyflymder o 20mya mewn ardaloedd preswyl o 2023. Gan gydnabod bod Powys yn cynnwys nifer o drefni bychain o ddiddordeb hanesyddol eithriadol, lle mae cyflymder y traffig yn effeithio’n andwyol ar ddiogelwch a mwynhad trigolion ac ymwelwyr, mae’r Cyngor yn cytuno i:

1.    Weithio’n gydweithredol gyda chymunedau sy’n dymuno asesu budd posibl ystyried cyfyngiad cyflymder o 20 mya yn eu hardaloedd canol tref, a os yw’n briodol, sefydlu’r cyfryw gyfyngiad.

2.    Manteisio’n llawn ar y cyfleoedd a gynigir yng Nghylchlythyr 24/2009, i wella diogelwch defnyddwyr ffyrdd agored i niwed ac ystyried effaith cyfyngiadau cyflymder traffig ar gymunedau.

3.    Dangos a chyflwyno tystiolaeth o ystyriaeth briodol o anghenion defnyddwyr y ffyrdd ac eithrio’r rheiny mewn cerbydau modur (er enghraifft y rheiny ar droed, ar gefn ceffyl ac ar feic) a’r rheiny ag amhariad aer eu symudedd neu amddifadedd synhwyraidd wrth ddylunio a rhoi ar waith orchmynion traffig newydd.

 

Cynigiwydgan y Cyng Stephen Hayes

Eiliwydgan y Cyng Jackie Charlton

 

13.

Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad

13.1

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion yr Amgylchedd gan y Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe pdf icon PDF 145 KB

Mae busnesau yn y Gelli yn bositif ar y cyfan am effaith y 2 awr o barcio am ddim ar fasnach gydol mis Awst, ac mae rhai busnesau’n priodoli rhwng 20 a 30% o gynnydd ar ffigyrau y llynedd i’r ffaith fod ymwelwyr a phreswylwyr erbyn hyn yn gallu parcio’n hirach am ddim. Mae hyn wedi bod yn fenter lwyddiannus dros ben – a diolch am wneud hyn. Gyda hyn mewn golwg, a llawer o fusnesau hefyd yn dweud bod angen cymaint o help â phosibl wrth i ni symud i mewn i’r misoedd distawach, a yw CSP wedi cynnal unrhyw asesiad effaith ar y parcio am ddim i fusnesau ym Mhowys, a sut mae’r cyngor yn bwriadu ceisio cynorthwyo busnesau dros y gaeaf. Hefyd, yng ngoleuni’r adborth, a fyddai Cyngor Sir Powys yn estyn hyn o leiaf drwy’r gaeaf i roi’r gefnogaeth orau bosibl iddynt? Fe allai wneud y gwahaniaeth o ddifrif rhwng llwyddo a methu i rai busnesau yn y dref, ac mae’r cymorth yn hanfodol i sicrhau nad oes gennym drefi anghyfannedd yng nghanolbarth Cymru erbyn dechrau 2021.

 

13.2

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Cyllid, Cefn Gwlad a Chludiant gan y Cynghorydd Jeremy Pugh pdf icon PDF 144 KB

Pwy, a pha adran sy’n gyfrifol am y methiant i ddarparu mygydau wyneb i’n pobl ifanc sy’n teithio ar gludiant ysgol Powys i ysgolion ac yn ôl, gan na wnaethant gyrraedd hyd sawl diwrnod yn ddiweddarach?

 

13.3

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Cyllid, Cefn Gwlad a Chludiant gan y Cynghorydd Karen Laurie-Parry pdf icon PDF 229 KB

Ydw i’n gywir yn deall bod Cyngor Sir Powys yn berchen ar 10 bws sy’n cael eu defnyddio ar gyfer cludiant cyhoeddus a chwmnïau bysus yn eu rhedeg?

Wedi teithio’n ddiweddar ar fws dan gontract oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cludiant cyhoeddus mewn Awdurdod arall, sylwais fod y cwmni bysus ei hun yn gallu hysbysebu ei fanylion llawn ar fws cludiant cyhoeddus yr Awdurdod hwnnw, ynghyd â hysbysebion eraill.

 

Rwy’n siwr bod fy nghyd Gynghorwyr Sir hefyd yn ceisio dod o hyd i ddulliau o gynhyrchu incwm i gynorthwyo’r refeniw. Oes gennym ni bolisi o godi tâl am hysbysebion ar fysus rydym yn berchen arnynt? Os nad oes, tybed a allai hynny fod yn ystyriaeth?

 

14.

Notice of Motion - Declaration of a Climate Emergency and Call to Action on Local Energy