Lleoliad: Ar Teams - By Teams. Gweld cyfeiriadau
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfarfod Blynyddol |
|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd ar gyfer y flwyddyn i ddod. |
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer y flwyddyn i ddod. |
|
Ethol Is-Gadeirydd Cynorthwyol Ethol Is-gadeirydd Cynorthwyol y Cyngor am y flwyddyn sydd i ddod.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd. Dogfennau ychwanegol:
|
|
Cyfarfod Busnes |
|
Awdurdodi’r Cadeirydd i arwyddo cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 24 Medi 2020 fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiadau o ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr Agenda. |
|
Trosglwyddiadau Refeniw a Chyfalaf PDF 134 KB Ystyried trosglwyddiadau sy’n gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor.
|
|
Argymhellion oddi wrth y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd PDF 123 KB Ystyried argymhellion oddi wrth y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Adroddiad Diweddaru oddi wrth y Pwyllgor Trwyddedu - Adolygiad o'r Polisi Trwyddedu 2003 PDF 11 KB Ystyried cymeradwyo’r polisi Deddf Trwyddedu 2003 diwygiedig.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig - Cefnogaeth ar gyfer y Sector Amaethyddol PDF 251 KB
Mae’r sector amaethyddol yn allweddol bwysig i’n heconomi, a chymunedau Powys fel y dynodwyd ar y map hwn. Gyda 9.5 miliwn o ddefaid yng Nghymru, rydym wedi gweld un o’r prif gynnyrch naturiol, gwlân, yn cael prisiau eithriadol o isel yn ystod y cyfnod diweddar yma. Mae gennym ganolfannau graddio gwlân yn Y Drenewydd ac Aberhonddu, ac mae’r sector defaid yn eithriadol o bwysig ym Mhowys. Mae gwlân hefyd yn gynnyrch naturiol, sy’n wrthdan ac yn ecogyfeillgar.
O ystyried hyn, mae’r Cyngor yn cynnig y dylai’r awdurdod, fel rhan o fargen Tyfu Canolbarth Cymru, edrych ar gyfleoedd i ychwanegu gwerth at ein cynnyrch amaethyddol ac i weithio’n benodol gyda’r undebau ffermio a Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain er mwyn hwyluso sefydlu corff sy’n debyg i WRONZ (Wool Research Organisation New Zealand) yng nghanolbarth Cymru gan fod yn gatalydd felly ar gyfer syniadau, cynnyrch ac ymgyrchoedd masnachol dyfeisgar sy’n defnyddio gwlân.
Cynigydd: Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan Eilydd: Cynghorydd Sir Bryn Davies
|
|
Rhybudd o Gynnig - Cyfraith Lucy Mae’rcyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer gresynus o gael ffermydd cathod a ch?n bach trydydd parti sydd â safonau lles isel, gan ddefnyddio “Cyfraith Lucy” (y cyflwynwyd deddf ar ei gyfer yn Lloegr ym mis Ebrill 2020) fel y sail ddeddfwriaethol ar gyfer y gwaharddiad. Ymhellach at hyn, mae’r Cyngor yn condemnio’r oedi diangen gan Lywodraeth Cymru wrth gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon ar les anifeiliaid sylfaenol a ddylai fod yn rhagofyniad i gymdeithas wâr.
Cynigydd: Cynghorydd Sir James Evans Eilydd: Cynghorydd Sir Amanda Jenner
|
|
Rhybudd o Gynnig - Campfeydd yn ystod y Cyfnod Clo Mae Cyngor Sir Powys yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud campfeydd yn hanfodol yn ystod unrhyw gyfnod cyfyngiadau symud a chyfnodau atal byr yn y dyfodol.
Fel sector allweddol o fewn Economi Cymru, mae campfeydd yn cynnig cyfleoedd ac atebion iechyd meddwl/corfforol a llesiant hanfodol i gyfran fawr o boblogaeth Powys.
Ynystod yr amseroedd heriol hyn, nid yw campfeydd erioed wedi bod mor bwysig i bob gr?p a demograffeg oedran. Mae perchnogion campfeydd yn llwyr barchu a deall y rhesymau dros Gyfnodau Atal Byr a Chyfnodau Cyfyngiadau Symud, ond mae cau ac ailagor campfeydd yn barhaus yn gosod straen cynyddol ar eu dichonolrwydd ariannol, swyddi, ac yn bwysicaf oll, y cyhoedd sy’n dibynnu ar gampfeydd am ystod eang o resymau, boed yn gorfforol ac iechyd meddwl.
Rydymyn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddosbarthu campfeydd fel ‘Gwasanaeth Hanfodol’, gan ganiatáu i’n campfeydd barhau i weithredu trwy gyfnodau cyfyngiadau symud yn y dyfodol, er budd iechyd meddwl a chorfforol y cyhoedd.
Cynigydd: Cynghorydd Sir James Evans Eilydd: Cynghorydd Sir Karl Lewis
Mae Cyngor Sir Powys yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud campfeydd yn hanfodol yn ystod unrhyw gyfnod cyfyngiadau symud a chyfnodau atal byr yn y dyfodol.
Fel sector allweddol o fewn Economi Cymru, mae campfeydd yn cynnig cyfleoedd ac atebion iechyd meddwl/corfforol a llesiant hanfodol i gyfran fawr o boblogaeth Powys.
Ynystod yr amseroedd heriol hyn, nid yw campfeydd erioed wedi bod mor bwysig i bob gr?p a demograffeg oedran. Mae perchnogion campfeydd yn llwyr barchu a deall y rhesymau dros Gyfnodau Atal Byr a Chyfnodau Cyfyngiadau Symud, ond mae cau ac ailagor campfeydd yn barhaus yn gosod straen cynyddol ar eu dichonolrwydd ariannol, swyddi, ac yn bwysicaf oll, y cyhoedd sy’n dibynnu ar gampfeydd am ystod eang o resymau, boed yn gorfforol ac iechyd meddwl.
Rydymyn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddosbarthu campfeydd fel ‘Gwasanaeth Hanfodol’, gan ganiatáu i’n campfeydd barhau i weithredu trwy gyfnodau cyfyngiadau symud yn y dyfodol, er budd iechyd meddwl a chorfforol y cyhoedd.
Cynigydd: Cynghorydd Sir James Evans Eilydd: Cynghorydd Sir Karl Lewis
|
|
Mae’rCyngor i nodi ar gyfer y Cynnig:-
1. Mae Troseddau Casineb yn broses gyfreithiol ac yn weithred droseddol sy’n cael ei thrafod gan y system Gyfiawnder yn rheolaidd. Mae Heddlu Dyfed Powys yn cytuno i ddelio gyda Throseddau Casineb lle bynnag y byddant yn digwydd. 2. Mae rhan gan awdurdodau lleol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â Throseddau Casineb. 3. Mae hyfforddiant wedi cael ei ddatblygu gan Gymorth i Ddioddefwyr led led Cymru trwy gydol y flwyddyn hon ac fe fyddant yn parhau i wneud hynny. 4. Mae arbenigedd gan C S Powys o ran troseddau casineb ac mae cydnabyddiaeth i’r ffaith nad yw cymunedau gwledig yng Nghymru yn imiwn i hyn.
Gofynniri’r Cyngor gefnogi:-
1. Y prif flaenoriaethau sydd o fewn y Siarter Troseddau Casineb. 2. Yrangen i godi ymwybyddiaeth am Droseddau Casineb drwy’r arweinwyr addysg, arweinwyr gofal cymdeithasol ac Aelodau. 3. Ysgolioni ystyried mabwysiadu ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb o fewn y cwricwlwm lle bo hynny’n briodol. 4. Darparuhyfforddiant i’r holl Aelodau a staff er mwyn deall yr angen i godi ymwybyddiaeth ymhellach am droseddau sy’n cynnwys Troseddau Casineb a’r effaith ar gymunedau gwledig ym Mhowys. Mae Cymorth i Ddioddefwyr eisoes yn cyflwyno hyfforddiant pwrpasol y gellir cael mynediad ato am ddim.
Mae’rCyngor hwn felly yn penderfynu:-
1. Cytunofod CS Powys yn derbyn y Siarter Troseddau Casineb gan Gymorth i Ddioddefwyr sy’n cynnwys help a chefnogaeth i ddioddefwyr a chymunedau.
Cynigydd: Cynghorydd Sir Jackie Charlton Eilydd: Cynghorydd Sir William Powell
|