Agenda

Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells

Cyswllt: Stephen Boyd  01597 826374

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

2.

Cofnodion pdf icon PDF 775 KB

Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020 fel cofnod cywir.

Dogfennau ychwanegol:

3.

Datganiadau o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda.

Dogfennau ychwanegol:

4.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan Gadeirydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

5.

Cyhoeddiadau'r Arweinydd

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd.

Dogfennau ychwanegol:

6.

Briff gan y Prif Weithredwr

Derbyn briff gan y Prif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

7.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

7.1

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Cyllid, Cefn Gwlad a Thrafnidiaeth gan Kate Jones pdf icon PDF 334 KB

Rwyf am ofyn beth y mae Cyngor Sir Powys yn ei wneud er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd presennol mae ein planed yn dioddef?

 

Er enghraifft:

 

O ran ailgylchu – i le mae e’n mynd yn y pen draw??  A yw e’n cael ei ailgylchu i gyd mewn gwirionedd?

 

Gwastraff cyffredinol - sut mae tirlenwi'n ymdopi??

 

Ynni adnewyddadwy - a yw Powys yn buddsoddi mewn ffermydd gwynt, cynlluniau hydro (ry’n ni’n cael digon o law!), pympiau gwres o'r ddaear ac ati ...

 

A oes safonau eco penodol yn cael eu gosod ar bob adeilad newydd fel eu bod yn niwtral o ran carbon?

 

Pam mae ein harchfarchnadoedd ym Mhowys yn dal i ddefnyddio CYMAINT o blastig untro???

 

Pam mai dim ond llond dwrn o siopau 'ail-lenwi' sydd gennym??  Dylai pob archfarchnad roi'r dewis i ni ail-lenwi ein siamp?, sebon dwylo, hylif golchi llestri, powdr golchi, powdr golchi llestri, pasta, reis, coffi ac ati (ac yn sgil hynny lleihau plastig)

 

Dewch mlan Powys dylai ein sir werdd ffrwythlon fod yn arwain y ffordd o ran newid yn yr hinsawdd i weddill Cymru a gweddill y DU.

 

Buddsoddwch fwy yn y diwydiant coedwigaeth.   Mae angen plannu mwy o goed i amsugno mwy o CO2 ac i gynhyrchu fwy o ocsigen. Mae gan Bowys yr arwynebedd.  Dewch i ni fynd ati i blannu.

 

A ydych yn mynd i wneud yn si?r bod newid yn yr hinsawdd a gwyddoniaeth amgylcheddol yn dod yn bwnc allweddol yn ein system addysg o'r cyfnod cyn ysgol i'r Brifysgol?

Dogfennau ychwanegol:

7.2

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar fateiron yr Amgylchedd gan Ann Rooney Evans pdf icon PDF 105 KB

Beth fydd y Cyngor yn ei wneud i gychwyn a chefnogi treial yn y canolfannau ailgylchu sy'n caniatáu i breswylwyr gymryd unrhyw eitemau sy’n ddefnyddiol i’w ailddefnyddio, yn hytrach na’u gweld yn cael eu taflu i ffwrdd ar gyfer ailgylchu neu dirlenwi;  gan ddilyn yr hierarchaeth o Leihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu?

Byddai hyn yn gam gwerthfawr tuag at economi gylchol, byddai'n helpu i normaleiddio'r arfer o gynnig pethau i'w hailddefnyddio yn hytrach na'u taflu i ffwrdd.  Rwy’n cael fy syfrdanu a'm siomi gan y stwff da sy'n cael ei daflu i ffwrdd, ac y gellid ei ail-ddefnyddio.   Mae’n rhaid bod staff y ganolfan ailgylchu yn teimlo’n rhwystredig iawn amdano hefyd.  Gallech ofyn am roddion ar gyfer eitemau sy’n cael eu cymryd (gwirfoddol).   Mae cynlluniau tebyg ar waith mewn mannau eraill sydd wedi goresgyn unrhyw heriau o ran iechyd a diogelwch, neu hyfforddi staff.

 

Dogfennau ychwanegol:

7.3

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion yr Amgylchedd gan Wendy Joss pdf icon PDF 219 KB

Cyhoeddodd y Prif Weinidog Boris Johnson yr wythnos diwethaf y byddai gwaharddiad ar geir tanwydd ffosil yn cael ei ddwyn ymlaen i 2035, bum mlynedd yn gynharach na'r disgwyl.

 

Sut y mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu darparu pwyntiau gwefru niferus a dibynadwy ar gyfer ei breswylwyr a thwristiaid er mwyn gallu buddsoddi mewn cerbydau trydan newydd mewn da bryd ar gyfer 2035?

 

Dim ond 1.8 o bwyntiau gwefru cyhoeddus sydd ym mhob 100000 yng Nghymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

8.

Penderfyniad Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21

Cymeradwyo penderfyniad Treth y Cyngor a gosod Treth y Cyngor ar gyfer  2020/2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

9.

Adolygiad Blynyddol 2020/2021 Gweledigaeth 2025 Ein Cynllun Gwella Corfforaethol gan gynnwys ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 pdf icon PDF 143 KB

Derbyn ac ystyried diweddariad 2020 Gweledigaeth 2025 Ein Cynllun Gwella Corfforaethol.  

Dogfennau ychwanegol:

10.

Datganiad Polisi Cyflogau pdf icon PDF 295 KB

Ystyried y Datganiad Polisi Cyflogau ar gyfer 2020/2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

11.

Rhybudd o Gynnig

Yng ngoleuni'r ffaith bod Cyngor Sir Powys wedi talu bron i £4m yn y defnydd o orchmynion cau ceg; sy’n cael eu hadnabod yn dechnegol fel cytundebau cyfaddawdu neu setlo; rhwng 2005 i 2019; gyda 105 o gytundebau peidio â datgelu; mae'r Cyngor yn galw i bob cytundeb o'r fath a thaliadau dros 5k i gael eu cymeradwyo gan aelod o'r Cabinet gydag adroddiad chwarterol yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio, gan sicrhau didwylledd a thryloywder.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sir Bryn Davies

 

 

Dogfennau ychwanegol:

12.

Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad

Dogfennau ychwanegol:

12.1

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion yr Amgylchedd gan y Cynghorydd Sir David Selby

A all yr Aelod Portffolio gadarnhau bod y cyn brif ffordd drwy'r Drenewydd (A483) bellach wedi'i hisraddio’n swyddogol, ac felly cadarnhau pa waith sydd bellach ar y gweill ar ffordd Llanidloes i wella wyneb y ffordd a diogelwch ar gyfer cerddwyr a beicwyr?

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

12.2

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Llywodraethu ac Ymgysylltu Corfforaethol gan y Cynghorydd Sir Gwilym Williams

A all yr Aelod Cabinet roi gwybod i mi ac i aelodau eraill, cyfanswm nifer y cytundebau peidio â datgelu (NDA) sydd wedi cael eu gwneud gan Gyngor Powys yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf hyd at y dyddiad cyfredol, gan gynnwys y gost ariannol.  A ellir rhestru pob blwyddyn ar wahân? A ellir rhoi cyfanswm y gost ariannol am N D A ar gyfer pob blwyddyn?

 

Dogfennau ychwanegol:

12.3

Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Gofal Cymdeithasol Oedolion gan y Cynghorydd Sir Francesca Jump pdf icon PDF 126 KB

Rydym i gyd yn ymwybodol o'r adroddiadau diweddar yn y wasg mewn perthynas â'r anawsterau mewn rhai rhannau o Bowys o ran darparu adnoddau ar gyfer gofal yn y cartref i bobl sydd ag anghenion gofal a chymorth.  A all y deilydd portffolio ar gyfer Gofal Cymdeithasol Oedolion roi gwybod i'r cyngor beth yw'r sefyllfa bresennol o ran pobl sy'n aros am wasanaethau; faint o bobl sy'n aros am ofal yn y cartref ar hyn o bryd heb gymorth?  Ar gyfartaledd pa mor hir mae’n rhaid i bobl aros am ofal yn y catref a pa mor hir yw’r aros hiraf?  Hefyd, a all deilydd y portffolio roi gwybod i'r cyngor beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn?

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Canlyniadau'r Bleidlais pdf icon PDF 432 KB

Dogfennau ychwanegol: