Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Awdurdodi’r Cadeirydd i arwyddo cofnodion y cyfarfodydd diwethaf a gynhaliwyd ar 22 Ionawr a 24 Ionawr fel cofnodion cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiadau o ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb oddi wrth Aelodau mewn perthynas ag eitemau sydd i’w hystyried ar yr agenda.
|
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau oddi wrth Gadeirydd y Cyngor. |
|
Cyhoeddiadau'r Arweinydd Derbyn unrhyw gyhoeddiadau oddi wrth yr Arweinydd. |
|
Briff gan y Prif Weithredwr Derbyn briff oddi wrth y Prif Weithredwr. |
|
Cwestiynau gan Aelodau'r Cyhoedd |
|
Ai rhywbeth yn y gorffennol yw’r angen i bob Amod Cynllunio gael ei gyflawni cyn i’r gwaith ddechrau ym Mhowys bellach? |
|
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion yr Economi a Chynllunio oddi wrth Iain Aitken PDF 52 KB Mae Cyngor Powys wedi synnu a siomi’r cyhoedd ar hyd a lled Cymru trwy wrthod gorfodi Fferm Wynt Hendy i gydymffurfio er gwaethaf mynd yn groes i’r ddeddf cynllunio sawl tro. Yn gryno: • Mae’r datblygwr wedi torri Amod 2 trwy beidio â chadw at y cynlluniau a ganiateir: mae’r safle adeiladu a’r trac yn gyfan gwbl y tu allan i linell goch y safle; • Mae’r datblygwr wedi cyflwyno elfen newydd, sef llain galed ar gornel Ogledd-ddwyreiniol y Comin, ond ni chyflwynodd unrhyw gais am gynllunio na chaniatâd Deddf Tir Comin. Mae’n rhaid bod y Rheolwr Datblygu yn gwybod yn iawn bod rhywfaint o ‘waith cyfyngedig’ ar y comin yn hanfodol er mwyn caniatáu i rannau o’r tyrbinau gyrraedd y safle; • Mae’r datblygwr wedi torri Amod 49 trwy ddechrau’r gwaith adeiladu heb ganiatâd gofynnol y Ddeddf Tir Comin; • Yn wir, mae’r datblygwr bron wedi cwblhau gosod tyrbin cyn i unrhyw un o’r amodau uchod gael eu cyflawni. Dywedwyd wrth y cyhoedd dro ar ôl tro na fyddai’n ‘hwylus’ eu gorfodi.
A all yr Aelod Portffolio ar faterion yr economi a chynllunio, y Cyng Martin Weale, rannu manylion manwl y meini prawf a ystyriwyd wrth asesu ‘hwylustod’ gorfod yn erbyn y datblygwr yma?
|
|
A wnaiff y Cynghorydd rannu â ni dueddiadau cyfredol y 6 mis diwethaf o ran ailgylchu yng Ngogledd Powys, ac yn arbennig y tunelli ar gyfer pob defnydd gwastraff y mae’n bwriadu ei brosesu trwy’r Cyfleuster Ailgylchu yn Abermiwl, pan ddaw hwnnw yn weithredol?
|
|
Bydd Cynghorwyr Powys yn sylweddoli’n iawn bod newidiadau cyflym bron iawn yn wythnosol, i’r dulliau, y dechnoleg a’r rheoliadau llywodraethu ynghylch y diwydiant gwastraff. Yma ym Mhowys, mae’r gwaith ailgylchu yn cael ei wneud yn ‘allanol’ ar hyn o bryd, a hynny’n bur llwyddiannus. Ar y busnesau hynny y bydd y baich yn disgyn o ran costau newidiadau drud yn y diwydiant gwastraff yn y dyfodol. Yn sgil y ffaith mai prif ddyletswydd Powys yw casglu gwastraff, yn hytrach na rhedeg busnesau sy’n cystadlu ag eraill o fewn y diwydiant gwastraff, ai penderfyniad doeth ar ran y cyngor yw buddsoddi ymdrech enfawr a miliynau o bunnoedd mewn sefyllfa sy’n newid mor gyson yn y cyfnod sydd ohoni gyda’r holl doriadau? |
|
Ystyried y Gyllideb ar gyfer 2019 - 2020, y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2019 - 2024 a’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2019 - 2024. Dogfennau ychwanegol:
|
|
Penderfyniad Treth y Cyngor ar gyfer 2019/20 PDF 187 KB Cymeradwyo’r penderfyniad ar Dreth y Cyngor, a gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2019/2020. |
|
Datganiad Blynyddol y Ddarpariaeth Lleiafswm Refeniw 2019/20 PDF 85 KB Ystyried Datganiad Blynyddol y Ddarpariaeth Lleiafswm Refeniw 2019/20. |
|
Trosglwyddiadau |
|
Trosglwyddiad ar gyfer Prosiectau Ysgolion: Estyniad Ysgol Uwchradd Crughywel PDF 63 KB |
|
Trosglwyddiad ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai: Safon Ansawdd Tai Cymru PDF 65 KB |
|
DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R STRATEGAETH BUDDSODDI BLYNYDDOL PDF 229 KB Ystyried Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Blynyddol. |
|
Datganiad Polisi Cyflog 2019 - 2020 PDF 82 KB Ystyried Datganiad Polisi Cyflog ar gyfer 2019 – 2020. Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig - Gwastraff Niwclear Ynsgil yr ymgynghoriad presennol ar ddatblygu cyfleuster storio tanddaearol ar gyfer gwastraff niwclear, bod y Cyngor yn datgan yn glir na fydd yn derbyn cyfleuster o’r fath o fewn y Sir.
Cynigydd: Cynghorydd Sir Elwyn Vaughan Eilydd: Cynghorydd Sir Bryn Davies |
|
Ni fydd y ddau Adroddiad Moderneiddio Ysgolion yn cael eu hystyried cyn 2.00 p.m. |
|
Ysgol Pob Oed Llanfyllin PDF 108 KB Trafod y cynigion ynglyn â sefydlu ysgol pob oed newydd yn Llanfyllin i alluogi’r Cabinet i ystyried barn y Cyngor wrth wneud penderfyniad. Dogfennau ychwanegol:
|
|
Ysgol G.G. Banw ac Ysgol yr Eglwys Yng Nghymru (Sefydledig) Llanerfyl PDF 112 KB Trafod yr argymhelliad arfaethedig i’r Cabinet mewn perthynas ag Ysgol G.G. Banw ac Ysgol yr Eglwys yng Nghymru (Sefydledig) Llanerfyl, i alluogi’r Cabinet i ystyried barn y Cyngor wrth wneud penderfyniad.
Dogfennau ychwanegol:
|
|
Cwestiynau yn unol â’r Cyfansoddiad |
|
Pa adnoddau sydd gan Gyngor Sir Powys i gefnogi aelodau o staff â phroblemau iechyd meddwl?
|
|
Cwblhawydadolygiad o Ysgolion Uwchradd De Powys rhyw 3 blynedd yn ôl, a chadarnhawyd y byddai adolygiad o Ysgolion Uwchradd Gogledd Powys yn dilyn yn fuan wedi hynny, gan gyfeirio’n arbennig at 3 ysgol uwchradd o fewn radiws o 11 milltir. Ni chynhaliwyd adolygiad o’r fath hyd yma. Byddwn yn ddiolchgar pe medrech gadarnhau pryd y bydd yr adolygiad ar gyfer Gogledd Powys yn cael ei gynnal (fel yr addawyd yn flaenorol), ac y bydd adolygiad yn cael ei gynnal o ryw 7 i 8 ysgol gynradd fechan, pob un ohonynt ryw 8 milltir o Lanfair Caereinion, gan ddod o hyd i arbedion posibl i Gyngor Sir Powys.
|
|
Cytunodd y cabinet yn flaenorol pe na byddai Cynghorau Tref yn ymaflyd â chyfrifoldeb llawn am redeg y Canolfannau Dydd, byddai CSP yn eu cau, gan greu arbedion ariannol perthnasol a mawr iawn. Allwch chi fanylu ar gostau cadw’r holl Ganolfannau Dydd hyn ar agor hyd yma, a chadarnhau a fydd unrhyw adolygiad yn debygol gael ei gynnal yn y dyfodol agos. Yn enwedig mewn perthynas â’r cynnig arfaethedig sy’n cael ei awgrymu o gynnydd o 9.5% yn nhreth y cyngor.
|
|
Pa ddarpariaethau sydd ar gael i sicrhau bod adeilad Llyfrgell gyfredol Aberhonddu yn Heol y Defaid yn cael ei gynnal mewn cyflwr sy’n gymesur â’i statws fel Adeilad Rhestredig?
|
|
Mae Llywodraeth Lafur Cymru’n ymrwymedig i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’i hariannu gan y llywodraeth i rieni plant tair a phedair blwydd oed am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
A fydd y Cabinet datgan beth yw ei baratoadau i gyflwyno’r Cynnig Gofal Plant y mae Llywodraeth Cymru’n ei ariannu?
|
|
Faint o gost y mae penderfyniad Cyngor Sir Powys i ddatblygu man glanio i hofrenyddion ar y Prom yn Aberhonddu wedi ei olygu i drethdalwyr?
|
|
Cwestiwn i'r Arweinydd oddi wrth y Cynghorydd Sir David Jones A fydd yr Arweinydd yn cyfeirio aelodau o’r cabinet i ateb cwestiynau atodol cyn i’r amser ddod i ben i holi cwestiwn dilynol yng nghyfarfod nesaf y cyngor?
|
|
Bu tuedd i leihau canran yr arian i ysgolion o gyfanswm y gyllideb addysg, ac ar yr un pryd i gynyddu canran yr arian i wasanaethau canolog. A oes ganddi unrhyw gynlluniau i droi’r duedd yma yn nôl, o ystyried arfer gorau? |
|
Materion wedi'u Heithrio Mae'r Swyddog Monitro wedi penderfynu bod yr adroddiad canlynol yn destun categori 1 y Rheolau Trefn Mynediad at Wybodaeth. Ei farn o ran prawf lles y cyhoedd (wedi ystyried darpariaethau Rheol 14.8, Rheolau Mynediad at Wybodaeth y Cyngor), oedd y byddai gwneud y wybodaeth hon yn gyhoeddus yn groes i egwyddorion y Ddeddf Gwarchod Data ac yn datgelu data personol yn ymwneud ag unigolyn. Oherwydd hyn a chan nad oedd yn ymddangos bod yna galw mawr ymhlith y cyhoedd am ddatgelu'r data personol yma, roedd o'r farn bod diddordeb y cyhoedd wrth gadw'r eithriad yn fwy pwysig na diddordeb y cyhoedd wrth ddatgelu'r wybodaeth. Gofynnir i Aelodau ystyried y ffactorau hyn wrth benderfynu ar brawf lles y cyhoedd, a dylent benderfynu hyn wrth iddynt ystyried eithrio'r cyhoedd o'r rhan hon o'r cyfarfod.
|
|
Rhybudd o Gynnig Y dylai’r Cyngor trafod, ystyried a gwneud unrhyw argymhellion i Swyddogion i gytuno eithriad un tro i Gynllun Dyrannu Tai y Cyngor i ddyrannu eiddo gwag i fam tenant sydd wedi marw yn y Trallwng er diddordeb plant y tenant sydd wedi marw yn unol â Rheoliadau Ewropeaidd Hawliau’r Plentyn, a deddfwriaeth arall. |
|