Lleoliad: Council Chamber - County Hall, Llandrindod Wells
Cyswllt: Stephen Boyd 01597 826374
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
Awdurdodi’r Cadeirydd i lofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|
Datganiadau o ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau yn ymwneud ag eitemau i’w hystyried ar yr agenda. |
|
Ystyried adroddiad y Panel Craffu Cyllid ar y gyllideb PDF 75 KB Ystyried adroddiad y Panel Craffu Cyllid ar y gyllideb. |
|
Ystyried y gyllideb ar gyfer 2018-19, Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-23 a’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018-2023. Dogfennau ychwanegol:
|
|
Llythyr Archwilio Blynyddol 2016-17 Swyddfa Archwilio Cymru PDF 116 KB Ystyried Llythyr Archwilio Blynyddol 2016-17 Swyddfa Archwilio Cymru. Dogfennau ychwanegol:
|
|
Trosglwyddiadau Cyfalaf |
|
Trosglwyddiad ar gyfer Adeilad Ysgol Cynradd ac Uwchradd Newydd ar gyfer Ysgol Bro Ddyfi PDF 72 KB |
|
Estyniad i Dymor y Swydd fel Aelod Annibynnol (Lleyg) ar y Pwyllgor Safonau PDF 63 KB Ystyried adroddiad gan Gyfreithiwr y Cyngor. |
|
Argymhellion gan y Pwllgor Gwasanaethau Democrataidd PDF 62 KB Ystyried argymhellion gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. |
|
Penodiadau i Bwyllgorau Nodi’r penodiadau canlynol i bwyllgorau a wnaed gan grwpiau gwleidyddol ac a gymeradwywyd gan y Swyddog Monitro o dan bwerau cyffreddinol dirprwyo a roddwyd gan y Cyngor ar 16 Mai 2013:
Penodwyd y Cynghorydd Sir Gareth Pugh i’r Pwyllgor Cynllunio, Trwyddedu Tacsis a Hawliau Tramwy yn lle’r Cynghorydd Sir Mark Barnes.
Penodwyd y Cynghorydd Sir Joy Jones i’r Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 yn lle’r Cynghorydd Sir Ange Williams.
Penodwyd y Cynghorydd Sir Jon Williams i’r Pwyllgor Cyflogaeth ac Apeliadau yn lle’r Cynghorydd Sir Ange Williams.
|
|
Rhybudd o Gynnig |
|
Rhybudd o Gynnig - Ildio Ffioedd Cofrestru Mae £1.5 miliwn ar gael gan Lywodraeth Cymru i
gefnogi awdurdodau lleol i gael gwared ar ffioedd claddu ac amlosgi
i blant yng Nghymru. Bydd hyn yn dod i
rym ar unwaith ac yn para tan 2020.
Cynnig
Rydym yn galw ar gyngor sir Powys i waredu’r holl gostau ar gyfer cofrestru marw-enedigaeth, marwolaeth baban cyn ei gofrestru, yn ogystal ag i bawb dan 18 oed.
Cynigydd: Cynghorydd Sir Gareth Ratcliffe |
|
Rhybudd o Gynnig - Band Eang CYNNIG
|
|
Rhybudd o Gynnig - Gwasanaethau Eiddo Calon Cymru Cyf Mae’r Cyngor
hwn: · Yn cydnabod y buddsoddiad y mae'r Cyngor yn ei wneud yn ei Gwmni Cyd-Fenter Gwasanaethau Eiddo Calon Cymru Cyf; · Yn cydnabod yr angen i'r Cyngor reoli ei ystad gorfforaethol; Yn cefnogi hawl tenantiaid y Cyngor i gael gwaith atgyweirio mewn amser rhesymol; · Yn pryderu am yr amser a gymerir i ddychwelyd tai cyngor gwag i'w defnyddio ar ôl i denant ymadael; · Yn cydnabod y pryderon a godwyd gan drigolion a Chynghorwyr ynghylch perfformiad Gwasanaethau Eiddo Calon Cymru Cyf ac felly:
Bod y Cyngor hwn yn penderfynu: · Cynnal adolygiad cynhwysfawr i effeithiolrwydd Gwasanaethau Eiddo Calon Cymru Cyf wrth ymateb i anghenion ystad a thai cymdeithasol Cyngor Sir Powys; · Ysgrifennu at Fwrdd Gwasanaethau Eiddo Calon Cymru i ofyn am adolygiad o effeithiolrwydd ei swyddogaethau corfforaethol a'i hyfywedd ariannol sy'n adrodd ei ganfyddiadau i Gyngor Sir Powys fel rhan berchennog o’r cwmni · Sefydlu pwynt cyswllt penodol ar gyfer aelodau etholedig Cyngor Sir Powys sy'n delio â Gwasanaethau Eiddo Calon Cymru Cyf; · Sefydlu mecanwaith adrodd blynyddol ar gyfer Gwasanaethau Eiddo Calon Cymru Cyf i adrodd i Gyngor Sir Powys.
Cynigydd: Cynghorydd Sir Susan McNicholas Eilydd: Cynghorydd Sir Matthew Dorrance |
|
Rhybudd o Gynnig - Annog merched i fynd am rolau mewn gwleidyddiaeth I ddathlu canmlwyddiant merched yn ennill y
bleidlais, mae'r cyngor hwn yn cydnabod y cyfraniad anhygoel y mae
merched wedi gwneud i wleidyddiaeth ym Mhowys, Cymru a'r Deyrnas
Unedig er cyn cof.
Cynigydd: Y Cynghorydd Sir Liam Fitzpatrick Eilydd: Y Cynghorydd Sir Amanda Jenner |
|
Cwestiynau yn unol a'r Cyfansoddiad |
|
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Addysg gan y Cynghorydd Sir Phil Pritchard PDF 61 KB Ysgolion Newydd y Trallwng: Mewn cyd-gyfarfod cynnar o lywodraethwyr 5 ysgol, cytunodd y Swyddogion i “ymgynghori” gyda PHOB FFYDD yn y Trallwng yngl?n â’r mater hwn. A allwch chi ddweud wrthyf sawl un o’r 5 neu 6 Ffydd a ymgynghorwyd â hwy, a sawl cyfarfodyd a gynhaliwyd gyda hwy, a pha nodiadau/cofnodion a gadwyd?
|
|
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Gwasanaethau Tai a Chefn Gwlad gan y Cynghorydd Sir Phil Pritchard Ydych chi’n gallu dweud wrthyf am faint y buodd tai cyngor yn wag ar gyfartaledd (y cyfnod rhwng un tenant yn gadael t? cyngor a thenant arall yn mynd i fyw yno) yn y flwyddyn ddiwethaf cyn i gontractwyr Kier gymryd yr awenau? Am faint mae tai cyngor wedi bod yn wag ers i Kier ymgymryd â’r gwaith? Er gwybodaeth, mae gennyf nifer o dai yn Y Trallwng sydd wedi bod yn wag ers sawl mis, a rhai dros ddeuddeng mis. Mae un t? wedi bod yn wag ers dros dair blynedd hyd y gwn i!
Dogfennau ychwanegol: |
|
Mae Cyngor Sir Powys wedi dod â chasgliadau plastig meddal o ymyl y ffordd i ben. Roedd rhai cymunedau’n gweithio mewn partneriaeth â Chae Post i drefnu mannau casglu plastig meddal yn eu hardal leol y gallai trigolion eu defnyddio. Yn anffodus, yn dilyn cyhoeddiad Cae Post ei fod wedi dod a’i gasgliadau ailgylchu masnachol a gwastraff i ben, nid oes cwmni gan y cymunedau i weithio gyda hwy ar y math yma o ddeunydd. A all y cyngor ystyried darparu’r gwasanaeth yma i gymunedau ar yr un fath o drefniant a oedd Cae Post?
|
|
Beth yw’r costau hyd yma, a’r costau blynyddol i’r Cyngor o ran defnyddio a rhenti’r man storio yn Hirddol, Machynlleth? |
|
Mae
trigolion Powys yn gwbl ymwybodol bod gan Gyngor Sir Powys nifer o
faterion pwysig i ddelio â nhw ar hyn o bryd mewn perthynas
â throsglwyddiadau asedau rhwng y cyngor a chymunedau. |
|
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Priffyrdd gan y Cynghorydd Sir David Selby PDF 65 KB Pa gynnydd sy’n cael ei wneud i gynllunio ar gyfer tynnu statws cefnffordd oddi ar yr A489 trwy’r Drenewydd unwaith y bydd y Ffordd Osgoi yn agor y flwyddyn nesaf? |
|
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Adnoddau Dynol, TGCh a Chyfathrebu gan y Cynghorydd Sir Pete Roberts Datganwyd yng nghyfarfod diwethaf llawn y cyngor y byddai cael g?yl banc ar Ddydd G?yl Dewi’n costio’r cyngor £600,000. Nid oedd modd rhoi gwahanol elfennau’r gost hon adeg honno. Felly, ydych chi’n gallu rhoi dadansoddiad o’r costau y byddai’r Cyngor yn eu hwynebu? Y gwahaniaeth rhwng costau sy’n deillio o weithwyr yn cynhyrchu llai gan eu bod yn cael diwrnod ychwanegol i ffwrdd, a chostau diamau ychwanegol i’r cyngor, e.e. taliadau am oriau tros ben? Hefyd, allech chi ddweud faint fyddai’n costio pe bai’r Cyngor yn cael g?yl banc ar Ddydd G?yl Dewi yn lle g?yl y banc Calan Mai?
Dogfennau ychwanegol: |
|
Mae methiant lleiafrif o berchnogion c?n i reoli a glanhau ar ôl eu hanifeiliaid wedi dod yn broblem gynyddol ledled y Sir. A fyddai deilydd y portffolio yn ystyried cyflwyno gorchymyn rheoli tebyg i'r hyn a ddefnyddir gan Rhondda Cynon Taf i fynd i'r afael â'r broblem ar dir sydd ym mherchnogaeth y cyngor ac ardaloedd hamdden?
|
|
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio arfaterion Gwasanaethau Oedolion gan y Cynghorydd Sir David Meredith Ydy’r Cyngor yn gwneud asesiadau priodol i sicrhau bod y trefniadau gofal cymdeithasol cywir yn eu lle ar gyfer preswylwyr sy’n dychwelyd adref ar ôl aros yn yr ysbyty?
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cwestiwn i'r Aelod Portffolio ar faterion Gwasanaethau Oedolion gan y Cynghorydd Sir David Meredith Sut mae’r cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr Gofal Iechyd a Chymdeithasol yn y sectorau preifat a chyhoeddus i sicrhau bod cyn lleied o oedi ag y bo modd wrth drosglwyddo gofal?
Dogfennau ychwanegol: |
|
Cwestiwn i'r Arweinydd gan y Cynghorydd Sir Matthew Dorrance PDF 49 KB A wnaiff yr Arweinydd ddatganiad ar sut mae ei gweinyddiaeth yn gweithio gydag Undebau Credyd ym Mhowys ac yn eu gefnogi?
|
|
Beth mae’r Cyngor yn ei wneud i gefnogi’r rhai sy’n rhenti’n breifat a mynd i’r afael â landlordiaid di-egwyddor?
Dogfennau ychwanegol: |
|
What mechanisms does the Cabinet Member and
his officer team deploy to ensure that residential developments
throughout the County, both in the Powys County Council and Brecon
Beacons National Park Authority (BBNPA) planning areas, correspond
to demonstrable housing need, both in number and type. |
|
The National Assembly for Wales EIS Committee has recently reported that progress across Wales has been slow in delivering affordable, 'above the shop' style living. What is Powys County Council currently doing, with partner agencies, to make a decisive contribution to addressing this challenge within the County? Dogfennau ychwanegol: |
|
Canlyniadau'r Bleidlais PDF 1 MB County Council – 22nd February, 2018 – Voting Results |